Ailalluogi
Rhaglen o asesiadau a chymorth byrdymor wedi’u llunio i’ch helpu i adennill neu gadw’ch annibyniaeth yw ailalluogi. Mae ailalluogi’n datblygu’r hyn y gallwch ei wneud ac yn eich cynorthwyo i adennill eich sgiliau, eich hyder a’ch annibyniaeth i aros yn eich cartref eich hun. Mae ailalluogi’n wasanaeth a gynigir am ddim am gyfnod byr.
Gall bara wythnos yn unig neu hyd at uchafswm o ddau wythnos, yn dibynnu ar eich anghenion. Mae ailalluogi’n anelu at gynyddu’ch annibyniaeth hirdymor, eich dewisiadau a gwella ansawdd eich bywyd.
Sut mae Ailalluogi’n gweithio?
Mae’r gwasanaeth ailalluogi yn eich helpu i wneud pethau drosoch eich hun, yn hytrach na gwneud pethau i chi. Y nod gyffredinol yw eich helpu i ddygymod â byw yn eich cartref eto.
Mae’r math o gymorth a ddarperir yn cael ei addasu’n arbennig yn unol â’n hasesiad o’ch anghenion unigol. Er enghraifft:
- Help â gofal personol
- Cymorth ymarferol i baratoi prydau bwyd
- Atgoffa i gymryd meddyginiaeth neu reoli meddyginiaeth
- Darparu offer neu dechnoleg gynorthwyol gyda help i ddeall sut i’w defnyddio
- Dysgu ymarferion i’ch helpu i symud eto ac i roi nerth a hyder i chi - gyda chymorth ac anogaeth i wneud yr ymarferion
- Darganfod atebion ymarferol i broblemau sydd efallai’n cyfyngu ar eich annibyniaeth.
Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth Ailalluogi?
Gall ailalluogi helpu nifer o wahanol bobl gan gynnwys pobl hŷn, pobl ag anableddau corfforol neu namau synhwyraidd a phobl ag anawsterau iechyd meddwl neu anableddau dysgu.
Bydd angen i chi fyw yn eich cartref eich hun, neu allu byw yn y gymuned gyda rhywfaint o gymorth, yn Sir y Fflint a bod dros 18 oed.
Mae’n bosibl y bydd oedolion sy’n chwilio am wasanaeth gofal cymdeithasol yn cael gwasanaeth Ailalluogi cyn y bydd unrhyw wasanaeth gofal hirdymor yn cael ei gynllunio. Bydd asesiad yn cael ei gynnal i ganfod y dull gweithio gorau i chi.
Beth sy’n digwydd os bydd angen gofal parhaus arnaf?
Dim ond cymorth byrdymor sy’n cael ei ddarparu gan y gwasanaeth Ailalluogi. Ar ôl i chi ddechrau byw mor annibynnol ag sy’n bosibl, daw’r rhaglen Ailalluogi i ben. Os oes gennych anghenion gofal parhaus, cewch eu trafod er mwyn llunio pecyn gofal os yw hynny’n briodol.
Mae’n bosibl y bydd angen cynnal Asesiad Ariannol ar gyfer unrhyw drefniant gofal hirdymor ac mae’n bosibl y bydd raid i chi dalu amdano.
Sut i wneud cais am wasanaeth Ailalluogi
Cysylltwch â Un Pwynt Mynediad ar 03000 858858 a dywedwch wrthynt beth yw’ch anawsterau ac fe gynhaliwn asesiad o’ch anghenion. Gallwch wneud hyn eich hun neu gallwch ofyn i rywun arall ei wneud ar eich rhan.
Taflenni ffeithiol eraill a allai fod yn ddefnyddiol:
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys copïau o’r taflenni uchod, cysylltwch â:
Un Pwynt Mynediad
Preswylfa
Ffordd Hendy
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 1PZ
Ffon: 03000 858858
Ebost: spoa@flintshire.gov.uk
Rhif ffôn mewn argyfwng y tu allan i oriau yw: 0345 053 3116