Cael golwg a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
PWYSIG
Oherwydd uwchraddio diweddar, os byddwch yn cael neges gyda ‘blwch mewngofnodi’ wrth gael mynediad i’r map, byddwch angen dileu eich storfa porwr. Gweler y ddolen hon ar gyfer cyfarwyddiadau:
Chrome, Safari, Firefox, Edge
Os oes gennych ymholiad ceisiwch ei gyflwyno trwy e-bost yn uniongyrchol i'r swyddog. Os nad ydych yn adnabod cyfeiriad e-bost y swyddog defnyddiwch y cyfeiriad canlynol:
- Ar gyfer materion cynllunio e-bost planningadmin@flintshire.gov.uk
- Ar gyfer rheoliadau adeiladu e-bostiwch bcadmin@flintshire.gov.uk
- Ar gyfer e-bost datblygu priffyrdd highwaysdc@flintshire.gov.uk
Nid oes angen ichi fod wedi derbyn llythyr gennym neu hyd yn oed fyw’n agos at safle’r cais i wneud sylwadau ar gais cynllunio, gall unrhyw un anfon eu sylwadau atom.
Rydym yn eich annog i gael golwg ar y cynlluniau a’r ffurflenni a gyflwynwyd cyn ichi wneud sylwadau ar gais.
Chwiliwch am gais cynllunio
Yn ddelfrydol os oes arnoch eisiau:
- Chwilio yn ôl cyfeirnod y cais, cyfeiriad, statws y penderfyniad neu ddyddiad
- Gwneud sylw gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Cofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif i wneud sylw ar gais cynllunio a defnyddiwch swyddogaeth lawn y Porthol Dinesydd.
- Cael golwg ar ddyddiadau, cynlluniau a dogfennau atodol a hysbysiad y penderfyniad
- Olrhain hynt ceisiadau
Dim ond ceisiadau a wnaed yn 'ddilys' (h.y. sy’n cynnwys yr holl ddogfennau gofynnol, y tâl a ffurflen gais gyflawn) gaiff eu dangos ar ein gwefan. Os nad yw cais diweddar yn cael ei ddangos efallai nad yw yn ddilys.
Gweld Map Ceisiadau Cynllunio
Yn ddelfrydol os oes arnoch eisiau:
- Chwilio am unrhyw geisiadau a gyflwynwyd yn eich ardal/Ward yn hytrach na chais penodol
- Gwybod lleoliad y safle ond heb fod yn gwybod y cyfeirnod neu’r cyfeiriad ayb
- Arnoch eisiau cael golwg ar derfyn y safle a’i berthynas ag eiddo neu nodweddion o’i gwmpas
Mae'n rhaid i'r pynciau trafod yr ydych chi'n eu codi ymwneud â materion cynllunio fel:
- effaith ar amwynder preswyl (e.e. oriau ei ddefnyddio, colli preifatrwydd, colli golau, gor-drechedd, swn, trafnidiaeth)
- effaith ar gymeriad a golwg ardal (cynllun, golwg a dwysedd)
- effaith ar ddiogelwch y priffyrdd (e.e. gwelededd gwael, diogelwch cerddwyr, parcio)
- effaith ar gyfleusterau cymunedol
- polisïau a chynigion cynllunio neu gyngor cynllunio'r Llywodraeth.
Ni allwn ystyried sylwadau ynghylch y mathau canlynol o bryderon:
- nodweddion personol yr ymgeisydd
- effaith y cynnig ar werth eiddo
- aflonyddu yn ystod y gwaith adeiladu
- colli golygfa
- hawliau tramwy preifat, draeniau preifat a hawddfreintiau preifat a chyfamodau cyfreithiol eraill
- anghydfod ynglyn â phwy sy'n berchen ar dir
- cystadleuaeth fasnachol
- materion Rheoliadau Adeiladu (e.e. sefydlogrwydd yr adeiladwaith, draeniau, rhagddarparu ar gyfer tân, hylendid a lle y tu mewn).
Nodwch os gwelwch yn dda ei bod yn rhaid inni ganiatáu i’r cyhoedd weld unrhyw sylwadau a dderbyniwn ynghylch ceisiadau cynllunio yn ôl y gyfraith. Mae hyn yn golygu na allwn drin unrhyw sylwadau fel rhai cyfrinachol
Cofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif i wneud sylw ar gais cynllunio a defnyddiwch swyddogaeth lawn y Porthol Dinesydd.
Os byddwch yn anfon sylw ar gais cynllunio byddwn yn casglu eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt (e.e. cyfeiriad e-bost neu rif ffôn os darperir) ac er lles tryloywder bydd eich sylw yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.
Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’ch hysbysu am gynnydd y cais cynllunio. Os byddwch yn rhoi eich cyfeiriad e-bost byddwch yn derbyn yr hysbysiad drwy e-bost.
Ni fyddwn yn cyhoeddi eich enw, rhif ffôn na chyfeiriad e-bost ar-lein.Byddwn yn cyhoeddi’r canlynol ar-lein:
- eich cyfeiriad
- eich sylw, yn llawn a heb ei addasu
- Rydych chi’n gyfrifol am gynnwys eich sylw. Gwnewch yn siŵr nad yw eich sylw yn cynnwys unrhyw wybodaeth nad ydych yn dymuno iddi ymddangos ar-lein (e.e. gwybodaeth bersonol, iaith ddifrïol neu ymosodol, neu sylwadau amhriodol neu ddifenwol.)
Os byddwch yn cyflwyno mathau o wybodaeth, sylwadau neu honiadau yr ydych yn meddwl y dylid eu trin yn gyfrinachol neu eu tynnu allan o’r gofrestr gyhoeddus yn rhannol neu’n llawn, anfonwch nhw yn defnyddio un o’r dulliau canlynol:
- E-bost: planning.consultation@flintshire.gov.uk
- Drwy'r post:
Ymgynghoriadau Cynllunio, Neuadd y Sir, Raikes Lane, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 6NA
- Mae’n rhaid i chi ei gwneud yn glir eich bod yn dymuno i’r sylw gael ei drin yn gyfrinachol (e.e. drwy ysgrifennu cyfrinachol yn y testun e-bost neu ar frig y llythyr) a chynnwys cyfeirnod y cais yr ydych yn gwneud sylw amdano. Os na fyddwch yn nodi eich sylw yn glir yn gyfrinachol bydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan ynghyd â’ch cyfeiriad.
Os byddwch yn cyflwyno sylw a nodir yn ‘gyfrinachol’ bydd yn parhau i gael ei gyhoeddi ar ein gwefan a’i gynnal yn y gofrestr gynllunio, ond byddwn yn diwygio eich e-bost/llythyr i ddileu eich data personol ac unrhyw ddata categori arbennig. Mae hyn yn golygu y bydd cynnwys eich sylw yn cael ei gyhoeddi ar-lein ond bydd eich cyfeiriad yn cael ei ddiwygio ac ni fydd yn cael ei gyhoeddi ar-lein (a bydd eich enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn hefyd yn cael ei ddiwygio fel arfer).
Sylwer nad ydym yn ymateb i sylwadau nac i gwestiynau a godir ynddynt.
Mae ffeiliau nad ydynt yn bresennol (lle gwnaed penderfyniad eisoes) yn cael eu cadw oddi ar y safle a byddwch yn cael eich cynghori pryd aethpwyd i nôl y ffeil a phryd y bydd ar gael i’w gweld. Gellir gweld rhestrau wythnosol o geisiadau a dderbyniwyd ac a benderfynwyd hefyd.
Os oes arnoch angen trafod eich diddordeb mewn cais cynllunio yn fanwl gwnewch drefniad ymlaen llaw os gwelwch yn dda.
Yn aml, fodd bynnag, gellir ymdrin ag ymholiadau syml dros y ffôn; 01352 703331.
Gallwch ysgrifennu llythyr atom yn;
Pennaeth Cynllunio, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF.
Rhaid ichi gynnwys yr wybodaeth ganlynol yn eich llythyr. Fe all peidio â gwneud hynny arwain at beidio â chymryd eich sylwadau i ystyriaeth.
- Cyfeiriad safle’r cais
- Disgrifiad o’r cynnig
- Rhif y cais (os yn hysbys)
- Eich enw
- Eich cyfeiriad
- Eich sylwadau ynghylch y cynnig
Nid ydy cynnwys eich rhif ffôn yn ofyniad gorfodol, ond petai Swyddog Cynllunio yn dymuno cysylltu â chi fe fyddai’n ddefnyddiol.
Gallwch hefyd anfon e-bost atom yn; rhdcynllunio@siryfflint.gov.uk.
Fel y nodir isod, rhaid ichi gynnwys gwybodaeth benodedig yn eich e-bost.