Mae adnabod safleoedd y gellid eu cynnwys yn y Cynllun yn elfen allweddol o’r sail dystiolaeth. Cyhoeddodd y Cyngor ‘Alwad am Safleoedd Ymgeisiol’ fel y gallai unrhyw un â diddordeb gynnig tir i’r Cyngor ei ystyried wrth bennu dyraniadau tir yn y Cynllun. Rhaid pwysleisio nad yw cynnig Safle Ymgeisiol o reidrwydd yn golygu y caiff y safle ei gynnwys yn y Cynllun.
Dechreuodd y cyfnod ar gyfer cynnig Safleoedd Ymgeisiol ar 28/02/14 a daeth i ben am 5.00pm ar 30/05/14. Lluniwyd Nodyn cyfarwyddyd i egluro’r drefn o gyflwyno Safle Ymgeisiol a gellir gweld y nodyn hwnnw drwy glicio ar y ddolen. Darparwyd Ffurflen gyflwyno i gynorthwyo pobl i gynnig safleoedd a gellir gweld honno hefyd drwy glicio ar y ddolen.
Yn sgil yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol derbyniwyd cynigion ar gyfer 734 o safleoedd i’w datblygu neu i’w gwarchod rhag datblygu. Mae’r safleoedd hynny oll wedi’u prosesu bellach a llythyrau o gydnabyddiaeth wedi’u hanfon at y cynigwyr, ac mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol ar gael i’w gweld.
Ar ôl Galw am Safleoedd Posibl, hyrwyddwyd 734 o safleoedd i’w datblygu, neu i’w diogelu rhag cael eu datblygu. Mae’r safleoedd yn awr wedi’u prosesu ac anfonwyd llythyrau ffurfiol yn cydnabod hyn. Mae’r Gofrestr o Safleoedd Posibl yn awr ar gael i’w harchwilio.
Cyhoeddodd y Cyngor ddogfen ddrafft yn egluro’r Fethodoleg a’r Drefn Asesu a ddefnyddid wrth ystyried cynnwys Safleoedd Ymgeisiol yn y Cynllun Datblygu Lleol. Cynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch y Fethodoleg ddrafft am chwe wythnos rhwng dydd Llun 9 Mawrth a dydd Llun 20 Ebrill 2015. Cyfarfu’r Grŵp Strategaeth Cynllunio ar 21 Mai 2015 i drafod y sylwadau a dderbyniwyd ynglŷn â’r Fethodoleg ddrafft.
O ganlyniad i hynny gwnaed amryw newidiadau yn y (Fethodoleg ar gyfer Asesu Safleoedd Ymgeisiol) a chyflwynir y rheiny yn yr adroddiad hwn. Mae’r ddogfen sy’n egluro’r Fethodoleg ar gyfer Asesu Safleoedd Ymgeisiol hefyd ar gael i’w gweld yn Swyddfeydd y Cyngor a llyfrgelloedd y Sir.
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi adroddiad ynglŷn â pha Safleoedd Ymgeisiol a fu’n llwyddiannus neu beidio. Cyn gwneud hynny, fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Cyngor gymeradwyo ei Strategaeth a Ffefrir (Cynllun Ymgynghori Cyn Adneuo) gan bennu lefel y twf y bydd y Cynllun yn ei ddarparu yn ogystal â dosbarthiad gofodol y twf ledled y Sir. Wedi hynny caiff Safleoedd Ymgeisiol sy’n ‘dechnegol’ dderbyniol ar sail asesiad eu cymharu â Strategaeth y Cynllun wrth benderfynu pa safleoedd a gaiff eu cynnwys yn y cynllun adneuo. Ar yr adeg hon y cyhoeddir canlyniadau’r asesiad o safleoedd ymgeisiol.
Galwad pellach am safleoedd ymgeisiol – Mwynau a Gwastraff / Llety Sipsiwn a Theithwyr
Cofrestr Safleoedd Amgen
Cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol am chwe wythnos rhwng 9 Tachwedd a 21 Rhagfyr 2017. Rhoes hynny gyfle i unrhyw un â diddordeb gynnig safleoedd newydd neu safleoedd amgen y gellid ystyried eu cynnwys yn y cam nesaf o baratoi’r cynllun, sef y Cynllun Adneuo.
Dim ond safleoedd newydd a safleoedd presennol a ddiwygiwyd a dderbyniwyd fel safleoedd amgen. Roeddent yn ychwanegol i’r safleoedd hynny a restrwyd yn y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol y gellir ei gweld drwy glicio ar y ddolen hon. Caiff yr holl safleoedd hynny eu hystyried gyda’i gilydd wrth benderfynu a ydynt yn addas i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae swyddogion y Cyngor wedi creu cofrestr o safleoedd amgen y gellir ei gweld drwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod. Dylid nodi nad yw’r ffaith fod safle amgen ar y gofrestr yn golygu o reidrwydd bod y Cyngor yn ymrwymo i gynnwys y safle hwnnw yn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’n bosib, fodd bynnag, y gellid dyrannu rhai o’r safleoedd amgen wrth lunio’r Cynllun Adneuo - y cam nesaf o baratoi’r cynllun.
Yn y pen draw, Arolygydd Cynllunio annibynnol sydd i benderfynu a ddylid cynnwys safle yn y Cynllun Datblygu Lleol neu beidio, a hynny ar sail Archwiliad Cyhoeddus. Cyflwynir y Gofrestr er gwybodaeth yn unig ac ni dderbynnir unrhyw sylwadau ynglŷn â’r Safleoedd Amgen. Os penderfynir cynnwys rhyw safle neilltuol yn y Cynllun Datblygu Lleol ar ôl asesu’r holl safleoedd a gynigiwyd, yna bydd cyfle i bobl gyflwyno sylwadau yn ystod yr ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y Cynllun yn nes ymlaen yn y broses.
Sut i chwilio am Safle Amgen:
Cliciwch ar y map o’r Sir isod i chwilio am Safleoedd Amgen a gynigiwyd.
Map o Safleoedd Amgen y Sir (PDF)
Fe gewch chi fwy o wybodaeth am bob Safle Amgen drwy agor y gofrestr isod a chwilio fesul anheddiad.
Mae’r gofrestr yn mynd yn nhrefn yr wyddor fesul anheddiad; er enghraifft, Alltami – ALLT009 – AS, Bagillt – BAG016 – AS. Ceir atodlen ar gyfer pob safle sy’n cynnwys cynllun sy’n dangos ffiniau’r safle a gwybodaeth allweddol fel enw’r safle/anheddiad, arwynebedd y safle, y defnydd presennol a’r defnydd arfaethedig.
Cofrestr Safleoedd Amgen (PDF)