Archwiliad y CDLl
Bydd CDLl Sir y Fflint yn destun Archwiliad gan yr Arolygydd Cynllunio Annibynnol. Mae’r dudalen hon yn cynnwys dolenni i wybodaeth allweddol am baratoadau ar gyfer, a gweithrediadau’r Archwiliad o’r CDLl a chaiff ei diweddaru pan fo’n briodol.
Arolygydd Penodedig
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Arolygydd Arweiniol, Siân Worden BA MCD DipLH MRTPI a’r Arolygydd Cynorthwyol, Claire MacFarlane BSc(Hons) MSc MRTPI i gynnal yr Archwiliad i’r CDLl.
Swyddog Rhaglen
Mae Kerry Trueman o Programme Officer Solutions Ltd wedi cael ei phenodi fel Swyddog Rhaglen. Rôl y Swyddog Rhaglen yw cydlynu gweinyddiaeth yr Archwiliad yn annibynnol a chysylltu gyda’r Arolygydd Cynllunio a’r Awdurdod Lleol a phartïon sydd â diddordeb yn ystod yr Archwiliad. Gellir cysylltu â’r Swyddog Rhaglen trwy:
Kerry Trueman
Programme Officer
Solutions Ltd
E-bost: kerry.trueman@flintshire.gov.uk
Rhif Ffôn: 07582 310364
Post: Pendragon House, 1 Bertram Drive, Meols, Wirral, CH47 0LG
Rôl yr Arolygydd
Rôl yr Arolygydd penodedig yw cynnal asesiad annibynnol o gadernid cyffredinol y CDLl a’i fod yn bodloni’r gofynion statudol ar gyfer ei baratoi. Nid rôl yr Arolygydd yw gwella’r CDLl, ond yn hytrach i wneud argymhellion i sicrhau ei fod yn gadarn. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar Archwiliadau CDLl yn nogfen yr Arolygiaeth Gynllunio, ‘Archwiliadau Cynllun Datblygu Lleol: Canllawiau Gweithdrefn’.
Dilynwch y dolenni isod i ddod o hyd i ddogfennau:
Newyddion Diweddaraf
Gwrandawiadau
Llyfrgell Archwilio