Alert Section

Tîm Safonau Tai


Mae’r Tîm Safonau Tai’n gweithio i ymgysylltu â thenantiaid y sector preifat gan roi llais iddynt ac ymateb i’w hanghenion.  Mae’n flaenoriaeth gan Gyngor Sir y Fflint i gefnogi tenantiaid a chodi safonau.  Rydym yn credu bod gan bawb yr hawl i fyw mewn cartref sydd mewn cyflwr da, gyda mynediad parod at bob amwynder hanfodol, yn ddiogel a heb unrhyw beryglon sylweddol. cant hazards.

Gellir gweld rhestr o’r 19 o risg ar dai dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai drwy ddilyn cyswwlt hyn.


Landlordiaid Twyllodrus

Term ar gyfer landlordiaid sy’n rhentu eiddo nad ydynt yn dilyn y rheolau mewn perthynas â thrwyddedu a safonau diogelwch mewn eiddo yw Landlordiaid Twyllodrus.  Mae’n bosibl na fydd rhai ohonynt wedi cofrestru a thrwyddedu’n gywir; ni fydd rhai ohonynt yn cyflwyno contractau priodol i denantiaid; a bydd rhai’n gwrthod cwblhau gwaith atgyweirio. 

Bydd y cwestiynau isod yn eich helpu i benderfynu p’un a yw eich landlord yn dilyn y rheolau a ph’un a oes angen i chi roi gwybod amdanynt i’r asiantaeth berthnasol. 

A oes angen i’m heiddo rhent preifat fod wedi’i drwyddedu / cofrestru gyda rhywun?

Ers 2015, mae’n rhaid i bob eiddo wedi’i rentu’n breifat yng Nghymru fod wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru. Mae’n rhaid i landlord gael trwydded unigol os ydynt am ymgymryd â gweithgareddau megis casglu rhent, trefnu tenantiaid neu gyflwyno rhybuddion troi allan. 

Mae rhai Landlordiaid yn defnyddio asiantau trwyddedig yn hytrach. Gallwch wirio hyn yma. 

Mae’n bosibl y bydd rhai eiddo a landlordiaid wedi’u heithrio.

Os nad ydych chi’n siŵr os oes gan eich Landlord neu eich Asiant y drwydded neu’r cofrestriad perthnasol, gallwch gysylltu â Rhentu Doeth Cymru yn uniongyrchol neu’r Tîm Safonau Tai drwy anfon e-bost at: HousingEnforcement@flintshire.gov.uk

Mae fy llety mewn cyflwr gwael, a ddylai fy Landlord drefnu i wneud gwaith atgyweirio? 

Y perchennog / landlord fydd pwynt cyswllt cyntaf yr eiddo bob amser i drafod eich pryderon a gofyn i unrhyw ddiffygion gael eu cywiro. Cofiwch, efallai nad ydynt yn sylweddoli fod angen gwneud gwaith ar yr eiddo.

Yna dylid rhoi amser rhesymol i’r perchennog / landlord wneud y gwaith atgyweirio. Mae’r cyfnod yn dibynnu’n fawr ar y math o waith atgyweirio sydd ei angen. 

Mae Llythyr Safonol y gallwch ei ddiwygio a’i anfon at eich landlord cyn i ni ymyrryd ar gael yma.

Gallai’r llythyr hwn helpu i ddatrys eich pryderon heb i ni orfod ymyrryd.   

Mae fy landlord wedi gwrthod gwneud unrhyw waith ar yr eiddo. Beth allaf ei wneud?

Os yw perchennog, landlord neu asiant yr eiddo wedi gwrthod gwneud gwaith atgyweirio neu wedi cytuno i wneud gwaith atgyweirio, ond yn methu eu dechrau ar yr amser cytunedig, gallwch gysylltu â’r Tîm Safonau Tai. 

Bydd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn ystyried eich ymholiad ac yn penderfynu p’un a oes angen ymgymryd â gwaith ymchwil neu gamau gorfodi pellach.  Mae’n bosibl y byddant yn cynnal arolwg o’ch cartref ac yn trafod eich achos â’r landlord. 

Gallwch gysylltu â’r Tîm Safonau Tai drwy anfon e-bost at:  HousingEnforcement@flintshire.gov.uk

Nid yw fy eiddo mewn cyflwr addas i bobl fyw ynddo dan Ddeddf Rhentu Tai (Cymru) 2016: Ffitrwydd i fod yn Gartref

Dylai eich eiddo fod mewn cyflwr addas i bobl fyw ynddo pan fyddwch yn dechrau byw yno. Ni chaiff yr adran hon o gyfraith tai ei gorfodi gan y Cyngor a byddai Llys Sirol yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â ph’un a yw eich cartref mewn cyflwr addas neu beidio. 

Y perchennog / landlord fydd pwynt cyswllt cyntaf yr eiddo bob amser i drafod eich pryderon a gofyn i unrhyw ddiffygion gael eu cywiro. Dylech gysylltu â Shelter Cymru neu Gyngor ar Bopeth Sir y Fflint os nad ydych chi’n credu bod eich cartref yn addas. 

Mae canllawiau cyffredinol i denantiaid preifat am Ffitrwydd i fod yn Gartref ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.


Problemau Cyffredin Mewn Eiddo Rhent Preifat 

Lleithder neu Dyfiant Llwydni 

Mae cwynion ynghylch lleithder a thyfiant llwydni’n gyffredin iawn a gallwch ddod o hyd i gyngor defnyddiol i’ch helpu i ymdrin â’r llwydni yn y pamffled hwn a ddarperir gan Rhentu Doeth Cymru. Os ydych chi’n credu bod diffygion sylweddol yn y system wresogi, insiwleiddio neu awyru yn eich cartref, neu os yw’r lleithder neu’r tyfiant llwydni’n cael effaith ar eich iechyd, dylech gysylltu â ni.  

Tlodi Tanwydd

Mae cynhesu cartrefi’n gallu bod yn ddrud a gall Cymru Gynnes gynnig cyngor a chymorth mewn perthynas â hyn.

Risg o Gael Eich Troi Allan

Gall eich landlord gyflwyno rhybudd troi allan i ddod â’ch tenantiaeth i ben, fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt ddilyn y weithdrefn gywir. Os nad ydych chi’n siŵr pa rybudd a gyflwynwyd i chi a’r gofynion cysylltiedig, gallwch gysylltu â Shelter Cymru i gael rhagor o gefnogaeth a chyngor.


Gallwch gysylltu â’r tîm Rheolaeth Amgylcheddol ar ppadmin@flintshire.gov.uk neu ffonio 01352 703440.