Alert Section

Datganiad Tai


Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydnabod bod angen sicrhau canlyniadau da i  bobl sydd ag anghenion tai a hynny drwy gymorth gwasanaethau atal digartrefedd effeithiol, sy’n canolbwyntio ar bobl, yn unol â darpariaeth Deddf Tai (Cymru) 2014.


Fodd bynnag, ar ôl ystyried yn ofalus, mae’r Cyngor wedi penderfynu ymgymryd â’r dyletswyddau a’r pwerau newydd a gafodd drwy Ddeddf Tai (Cymru) 2014, fesul cam. Gan hynny, bydd y Cyngor yn parhau i ddefnyddio’r prawf bwriad yn achos ymgeiswyr digartref ym mhob categori, fel y’u nodir yn rheoliadau Gweinidogion Cymru.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio’i bŵer o dan Adran 78 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, i ddefnyddio’r prawf bwriad dim ond os yw’n sicr ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i atal  ymgeiswyr rhag bod yn ddigartref a/neu i’w helpu i ddod o hyd i le i fyw.  

Bydd y Gwasanaeth Datrys Problemau Tai yn ailasesu, yn hydref 2015, a fydd y Cyngor yn parhau i ddefnyddio’r prawf bwriad ar gyfer ymgeiswyr ym mhob categori.