Alert Section

Gwella a Thrwsio


Cyfrifoldebau Tenantiaid

Mae tenantiaid yn gyfrifol am y canlynol:

•    Cadw’r eiddo yn lan ac wedi’i addurno’n briodol
•    Rhoi gwybod i ni ar unwaith os oes angen trwsio unrhyw beth
•    Ein gadael ni i mewn i’r eiddo i wneud atgyweiriadau

Mae tenantiaid hefyd yn gyfrifol am rai atgyweiriadau:

•    Newid plygiau a chadwyni baddonau a sinciau ac ati
•    Gosod clychau drws
•    Gosod erialau neu ddysglau teledai (ac eithrio rhai cymunedol)
•    Cynnal a chadw llwybrau’r ardd (ac eithrio llwybrau at y prif ddrysau neu’r leiniau dillad)
•    Amnewid allweddi coll, newid cloeon a gosod cloeon ychwanegol os ydynt wedi’u cloi allan
•    Gosod bylbiau golau a thiwbiau fflworoleuol newydd ac amnewid switshis cychwyn a ffiwsys mewn offer
•    Gwaith phapuro wall a peintio mewnol, gan gynnwys llenwi mân
•    Cymryd camau i atal dŵr rhag rhewi mewn peipiau a thanciau
•    Ceisio dadflocio sinciau a baddonau
•    Amnewid gwydr, oni bai bod modd profi bod y difrod y tu hwnt i reolaeth y tenant
•    Trwsio a chynnal a chadw eu gosodiadau a’u hoffer eu hunain, gan gynnwys pibwaith peiriannau golchi
•    Amnewid leiniau dillad neu drwsio llinellau rotari (ac eithrio mewn ardaloedd sychu cymunedol)
•    Gosod silffoedd, rheiliau llenni a bleind
•    Rhoi batris newydd mewn synwyryddion mwg yn ôl yr angen

Ein cyfrifoldebau ni

Rydym ni’n gyfrifol am drwsio a chynnal a chadw adeiledd yr eiddo rydych chi’n byw ynddo. Mae hyn yn cynnwys yr oll rannau allanol ac unrhyw osodiad mewnol sydd wedi’u darparu, ac eithrio’r rheiny sy’n rhan o’ch cyfrifoldebau chi.

Mae ein cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys peipiau, gwifrau a gosodiadau systemau gwresogi, draenio, pŵer a goleuadau, ac unrhyw synhwyrydd mwg rydym ni wedi’i ddarparu. Rydym ni hefyd yn trefnu bod yr offer rydym ni wedi’i ddarparu yn cael ei wasanaethu a bod rhywun yn dod i ysgubo simneiau os oes gennych chi dân glo neu goed.

Y tu allan i’ch eiddo rydym ni’n gyfrifol am y waliau a’r ffensys terfyn yn ein meddiant ac am y grisiau a'r llwybrau sy’n arwain o ffin yr eiddo i'ch prif ddrws, i’ch ardal sychu dillad ac i unrhyw sied neu dai allan a ddarparwyd gennym ni. Rydym ni hefyd yn gyfrifol am garejis, cyfleusterau cymunedol, gerddi cymunedol a mannau agored.

Cyfrifoldebau Pawb

Pob blwyddyn mae’n rhaid i ni, yn unol â’r gyfraith, gynnal gwiriad diogelwch nwy ymhob eiddo sydd â chyflenwad nwy. Mae’n rhaid i denantiaid ein gadael ni i mewn i wneud y gwiriadau hyn. Os nad ydyn nhw’n gwneud hyn, byddwn yn cymryd camau yn eu herbyn.

Rydym ni’n cynnal y gwiriadau hyn er budd tenantiaid i sicrhau diogelwch pawb sy’n byw yn yr eiddo a drws nesaf.

Cofiwch hefyd na ddylid rhwystro fentiau.

Cysylltwch â ni:

Gallwch chi roi gwybod am Atgyweirio Tai Cyngor trwy gyflwyno ffurflen ar-lein:

Adrodd Trwsio Tai Cyngor

Neu, gallwch gysylltu ag Atgyweiriadau Tai ar 01352 701660 (yn ystod oriau swyddfa).

Am atgyweiriadau brys y tu allan i oriau, ffoniwch 01352 702121.

Esboniad a Chyngor Pellach

Pa atgyweiriadau sy'n cael eu cynnwys gan y Gwasanaeth Atgyweirio?

Rydym yn gyfrifol am y tu allan i'ch eiddo, y prif strwythur ac unrhyw osodiadau neu ffitiadau yr ydym wedi'u darparu yn eich cartref.  Chi sy'n gyfrifol am ofalu am y tu mewn i'ch eiddo ac am rai atgyweiriadau ac amnewidiadau. (Gweler 'Ein Cyfrifoldebau' a'ch 'Eich Cyfrifoldebau' uchod).

Oes rhaid imi dalu am unrhyw atgyweiriadau?

Os byddwch yn adrodd am atgyweiriad sydd ei angen oherwydd difrod a achoswyd gennych chi neu gan rywun yn eich cartref, byddwn ni yn disgwyl i chi ei atgyweirio ac i dalu am ei wneud. Byddwn bob amser yn gwneud gwaith brys er mwyn sicrhau eich bod chi a'ch teulu'n ddiogel ond byddwn yn codi tâl am hyn os mai chi a achosodd y broblem. Mae ein taliadau'n cynnwys costau gweinyddu.Os digwyddodd y difrod oherwydd lladrad neu fandaliaeth ac os gallwch roi Rhif Trosedd yr Heddlu i ni, ni chodir tal arnoch am gost yr atgyweiriadau

A allaf hawlio am ddifrod i'm cartref?

Chi sy'n gyfrifol am addurno tu mewn eich cartref. Chi sy'n gyfrifol hefyd am eich eiddo personol, carpedi, ayb. Dylech yswirio cynnwys eich cartref ar gyfer y pethau hyn rhag ofn iddynt gael eu dwyn neu eu difrodi. Os mai ni sy'n gyfrifol am unrhyw ddifrod gallwch hawlio'r gost.

Boeler ddim yn gweithio? Rhowch gynnig ar y camau trwsio boeler syml hyn cyn gofyn am gymorth.

Cyngor Diogelwch yn y Cartref - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.