Eiddo Rhent Preifat Mewn Cyflwr Gwael
Mae’r Tîm Safonau Tai’n gweithio i ymgysylltu gyda thenantiaid y sector preifat, gan roi llais iddynt ac ymateb i’w hanghenion. Mae’n flaenoriaeth i Gyngor Sir y Fflint gefnogi tenantiaid a gwella safonau. Rydym yn credu bod gan bawb yr hawl i fyw mewn cartref sydd mewn cyflwr da, gyda mynediad parod at bob amwynder hanfodol, yn ddiogel a heb unrhyw beryglon adeileddol.
Mae rhestr o 29 o beryglon tai posibl dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.
Beth ddylwn i ei wneud os nad ydw i’n teimlo fod fy llety’n cyrraedd y safon ofynnol?
Dylech gysylltu â pherchennog/landlord yr eiddo yn y lle cyntaf i drafod eich pryderon a gofyn iddynt fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion. Cofiwch efallai na fyddant yn gwybod bod angen gwaith ar yr eiddo.
Dylid rhoi cyfnod rhesymol o amser i’r perchennog/landlord ymgymryd â’r gwaith atgyweirio. Mae’r cyfnod hwn o amser yn ddibynnol ar y math o waith atgyweirio sydd ei angen.
Mae Llythyr Safonol y gallwch ei addasu a’i anfon at eich landlord cyn i ni ymyrryd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ddilyn y ddolen hon, mae fersiwn Saesneg ar gael hefyd. Gallai’r llythyr hwn helpu i fynd i’r afael â’ch pryderon heb ein hymyrraeth ni.
Lleithder a Thwf Llwydni
Mae cwynion mewn perthynas â lleithder a thwf llwydni’n gyffredin iawn, ac fe allwch ddod o hyd i gyngor defnyddiol i’ch helpu i fynd i’r afael â llwydni yn y pamffled hwn gan Rhentu Doeth Cymru. Os ydych chi’n credu bod diffygion sylweddol yn y system wresogi, insiwleiddio neu awyru yn eich cartref, neu os yw’r lleithder a thwf llwydni’n cael effaith ar eich iechyd, dylech gysylltu â ni.
Ffitrwydd i Fod yn Gartref
Mae’n rhaid i’ch cartref fod yn addas pan fyddwch yn dechrau byw yno. Nid yw’r Cyngor yn gorfodi’r adran hon o gyfraith tai a byddai Llys Sirol yn penderfynu p’un a yw eich cartref yn addas neu beidio.
Dylech gysylltu â pherchennog/landlord yr eiddo yn y lle cyntaf i drafod eich pryderon a gofyn iddynt fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion. Dylech gysylltu â Shelter Cymru neu CAB Sir y Fflint os nad ydych chi’n credu bod eich cartref yn addas i bobl fyw yno.
Gellir dod o hyd i ganllawiau i denantiaid preifat mewn perthynas â Ffitrwydd i Fod yn Gartref drwy ddilyn y ddolen hon.
Mae fy landlord wedi gwrthod gwneud unrhyw waith ar yr eiddo. Beth allaf i ei wneud?
Os yw perchennog, landlord neu asiant yr eiddo wedi gwrthod gwneud gwaith atgyweirio, neu wedi cytuno i wneud gwaith atgyweirio ond heb ddechrau ar y gwaith erbyn yr amser a gytunwyd, gallwch gysylltu gyda’r Tîm Safonau Tai.
Bydd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn ymchwilio i’ch ymholiad ac yn penderfynu p’un a oes angen ymchwilio ymhellach neu gymryd camau gorfodi. Mae’n bosibl y bydd arnynt angen archwilio eich cartref a thrafod eich achos gyda’r landlord.
Gallwch gysylltu â’r tîm Rheolaeth Amgylcheddol ar ppadmin@flintshire.gov.uk