Alert Section

Bywyd Teuluol a Bod yn Rhiant

Mae arddulliau a sgiliau magu plant yn rhoi’r cyfle gorau i’n plant mewn bywyd, a’u helpu i fod yn fwy gwydn ac ymdopi â phwysau a heriau bywyd mewn modd cadarnhaol. Drwy ddulliau magu plant da, gallwn helpu ein plant i ddatblygu eu sgiliau, ond sut?  Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ar y dudalen hon, o wybodaeth am gyrsiau ar-lein a gweithgareddau cymunedol, i wirfoddoli a helpu rhieni eraill.  

Bywyd Teuluol a Bod yn Rhiant

Magu Plant. Rhowch amser iddo.

Magu Plant. Menter Llywodraeth Cymru sy’n darparu cyngor ymarferol ac arbenigol rhad ac am ddim ar gyfer unrhyw heriau mewn perthynas â magu plant yw Rhowch amser iddo.

Magu Plant. Rhowch amser iddo.

Parenting. Give it time. Welsh

Pob Plentyn Cymru

‘Mae gan bob plentyn yng Nghymru’r hawl i’r dechrau gorau posibl mewn bywyd ac i gefnogi hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio Pob Plentyn Cymru.

Mae’r wefan hon yn llawn syniadau i sicrhau bywyd iach a hapus i’ch plentyn.'

Pob Plentyn Cymru

Siarad gyda Fi

Mae ‘Siarad gyda fi’, ymgyrch diweddaraf Llywodraeth Cymru, wedi’i ddylunio i gefnogi rhieni gydag awgrymiadau, cyngor ac adnoddau defnyddiol i gael eu plant (rhwng 0-5 oed) i siarad. 

Siarad gyda Fi

Talk with me

Cyrsiau a grwpiau i rieni

Gweler isod restr o gyrsiau a grwpiau sydd ar gael gan Dîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir y Fflint. 

Gweler isod restr o gyrsiau a grwpiau sydd ar gael gan Dîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir y Fflint

Grŵp Cyn-Geni Solihull

Y daith at fod yn rhiant. Deall beichiogrwydd, esgor, genedigaeth a'ch babi.

  • Eich helpu chi a’ch babi trwy feichiogrwydd a genedigaeth yn cynnwys ymlacio;
  • dod i adnabod eich babi yn y groth;
  • chi, eich babi a chamau esgor ar eni;
  • eich helpu chi a’ch babi trwy’r beichiogrwydd; a
  • bwydo’ch babi.

Mae Grŵp Cyn-Geni Solihull yn cael ei gynnal dros 5 wythnos i ddarpar famau, eu partneriaid, aelodau teulu eraill a’r rhai a fydd yn bresennol yn ystod yr enedigaeth.

Tylino Babanod

Dysgu'r symudiadau tylino sylfaenol a mwynhau amser arbennig i gyfathrebu gyda'ch babi, er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo cariad, gwerthfawrogiad a pharch.

Gall y buddion gynnwys:

  • helpu eich babi i ymlacio a chysgu’n hirach;
  • llai o grïo a gofid emosiynol;
  • cael gwared â gwynt, colig, rhwymedd a phoen dannedd;
  • helpu i greu cwlwm agosrwydd ac ymlyniad; a
  • dod i ddeall mwy am y ffordd y mae eich babi’n ymddwyn, eu crïo ac iaith eu corff.

Mae 5 sesiwn Tylino Babanod.

Dewch i Goginio

Dysgwch am faeth a datblygwch eich sgiliau coginio mewn ffordd hwyliog ac ymarferol.

Bydd y sesiynau yn cynnwys:

  • diogelwch a hylendid bwyd;
  • canllawiau bwyta'n dda;
  • deall braster, siwgr, halen a ffibr;
  • deall labeli bwyd;
  • addasu ryseitiau a chynllunio bwydlen; a
  • bwyta’n iach heb wario gormod.

Mae 6 sesiwn Dewch i Goginio.

Rhaglen Meithrin Cysylltiadau Teuluol

Mae plant yn rhoi cymaint o foddhad ac yn llawn hwyl, ond gall y gwaith o edrych ar eu holau fod yn straen ac yn heriol.

Bydd y sesiynau yn cynnwys:

  • deall ymddygiad eich plentyn;
  • gwybod pa deimladau sydd y tu ôl i ymddygiad;
  • archwilio gwahanol ddulliau i berthnasoedd teuluol cadarnhaol;
  • datblygu cydweithrediad eich plentyn; a’r
  • dysgu pa mor bwysig yw gofalu amdanom ni’n hunain.

Mae 10 sesiwn Meithrin Cysylltiadau Teuluol.

Babis GroBrain

Dysgwch sut mae ymennydd eich babi’n datblygu a sut gallwch gefnogi eu hymennydd a gwneud cysylltiadau newydd i sefydlu sylfeini cadarn. Bydd plant gyda sylfeini cadarn yn cael dechrau gwell mewn bywyd.

Bydd y sesiynau yn cynnwys:

  • datblygiad yr ymennydd; 
  • creu cwlwm agosrwydd ac ymlyniad;
  • adnabod arwyddion a chrïo eich babi; 
  • rheoli crïo a thrallod;
  • sgwrsio gyda’ch babi, darllen a chwarae; a
  • lles emosiynol i rieni. 

Cyn geni - 12 mis.

Mae 4 sesiwn Babis GroBrain.

Babanod GroBrain

Dysgwch sut mae ymennydd eich plentyn yn datblygu a sut gallwch gefnogi eu hymennydd a gwneud cysylltiadau newydd i sefydlu sylfeini cadarn. Dysgwch sut gallwch helpu eich plentyn i ddeall eu teimladau a rheoli eu hymddygiadau mewn modd emosiynol iach.

Bydd y sesiynau yn cynnwys:

  • pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar;
  • datblygiad ymennydd plant bach;
  • ymlyniad a datblygiad emosiynol;
  • helpu plant bach i reoli eu hymddygiad;
  • cyfathrebu, chwarae a bod yn barod i’r ysgol; a
  • lles emosiynol i rieni. 

1-3 oed.

Mae 6 sesiwn Babanod GroBrain.

Dewch i Siarad â Phlant Dan 5

Sesiynau hwyliog a rhyngweithiol i ddysgu sut i helpu eich plentyn ddatblygu eu gallu i ddeall, gwrando a siarad.

Bydd y sesiynau yn cynnwys:

  • beth yw cyfathrebu, a’r sgiliau sydd eu hangen?;
  • dysgu sut i helpu eich plentyn ddatblygu sgiliau siarad;
  • deall sut i ryngweithio gyda’ch plentyn ar lefel briodol; a
  • deall y cyswllt rhwng chwarae ac iaith.

Cynhelir sesiwn Siarad gyda Phlant dan 5 oed mewn 7 sesiwn.

Sgwrsio gyda’ch Babi

Oedran 3 mis i 12 mis.

Bydd y sesiynau yn cynnwys:

  • gweld, cyswllt llygaid a rhannu sylw;
  • teimlo ac archwilio gweadau;
  • gwneud sŵn, canu a mwynhau cerddoriaeth;
  • chwarae â dŵr;
  • cymryd tro; ac
  • archwilio a symud

Cynhelir Siarad gyda’ch Babi mewn 7 sesiwn.

Rhieni Chwareus

Sesiynau llawn hwyl i fynnu sylw at bwysigrwydd chwarae a meithrin ymlyniad trwy chwarae.

Bydd y sesiynau yn cynnwys:

  • deall datblygiad plentyn;
  • deall datblygiad yr ymennydd ac ymlyniad; a
  • deall sut mae chwarae yn cefnogi datblygiad iach.

Bydd Rhieni Chwareus yn cael ei gynnwys mewn 2 sesiwn.

STEPS

Datgloi eich potensial a magu eich hyder.

Bydd y sesiynau yn cynnwys:

  • cael edrychiad newydd ar fywyd;
  • dangos faint ydych yn gallu ei gyflawni;
  • rhoi’r dulliau i chi gyflawni pethau; ac
  • eich helpu i sylweddoli bod bywyd yn llawn cyfleoedd a sut allwch chi eu dilyn â hyder.

Darperir STEPS mewn 12 sesiwn.

Clebran Babis

3 – 18 mis.

Sesiynau chwarae cyfeillgar sy’n edrych ar ffyrdd o helpu eich babi i siarad.

Sesiynau bob 4 wythnos yn cael eu cynnal gan aelod o’r tîm Therapi Lleferydd ac Iaith.  Pecyn gweithgareddau am ddim.

Gweithdy Ymwybyddiaeth Arwyddo

I rieni gyda phlant hyd at 3 oed.

Mae arwyddo’n ffordd wych o gefnogi datblygiad iaith a chyfathrebu. Gan ddefnyddio ystumiau ochr yn ochr â geiriau llafar, mae arwyddo o gymorth i gefnogi dealltwriaeth a defnydd sgiliau iaith yn ogystal â helpu i leihau rhwystredigaeth plant ac mae hefyd yn rhoi dull cyfathrebu amgen iddynt tra bod eu sgiliau iaith yn datblygu.

Mae’r Gweithdy Ymwybyddiaeth Arwyddo’n cynnwys 2 sesiwn ac yn cael ei gynnal gan aelod o’r tîm Therapi Lleferydd ac Iaith. 

Gallwch fynegi diddordeb yn y cyrsiau hyn isod.  Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly nid oes modd gwarantu lle i chi. 

Cofrestru eich diddordeb

Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau (EPEC)

Mae Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau (EPEC) yn brosiect cymunedol sy’n darparu grwpiau magu plant dan arweiniad rhieni lleol, a elwir yn Arweinwyr Grwpiau Rhieni. Mae’r rhieni sy’n arwain y grwpiau hyn wedi cymryd rhan mewn grŵp EPEC neu grŵp magu plant arall eu hunain ac wedi cwblhau’r hyfforddiant Arweinydd Grwpiau Rhieni EPEC.

Mae grwpiau EPEC yn cynnwys sgiliau ymchwil ac ymarferol i helpu teuluoedd a’u plant.  Drwy ein grwpiau, mae rhieni’n dysgu ystod o sgiliau magu plant cadarnhaol, derbyn cefnogaeth i ddeall teimladau plant, dysgu am gyfathrebu rhwng rhieni a phlant a meithrin perthnasoedd gwell a mwy cadarn o fewn y teulu. 

Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau

Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau

Rhaglenni Dull Solihull

  • Cyrsiau ar-lein i rieni a darpar rieni
  • Am ddim i rieni, neiniau a theidiau a gofalwyr yng Ngogledd Cymru - nodwch y cod NWSOL am ostyngiad o 100%!
  • Cyn geni i 19 oed, mynediad oes
  • Ymwelwch â gwefan inourplace
  • Llenwch y manylion i greu cyfrif.

Dull Solihull

Solihull Programmes cy

OnePlusOne

Gall rhaglenni OnePlusOne eich helpu gyda chyngor a chefnogaeth i gryfhau eich perthnasoedd a rheoli achosion o wrthdaro’n well

OnePlusOne

Hyfforddiant tŷ bach