Alert Section

Perthnasoedd

Mae perthnasoedd o fewn teuluoedd yn bwysig ar gyfer lles, datblygiad a chyfleoedd bywyd. Rydym yn gwybod fod gwrthdaro rheolaidd, dwys a heb eu datrys rhwng rheini’n cael effaith negyddol ar les emosiynol, sgiliau cymdeithasol a chyflawniad plant yn yr ysgol.

Mae perthnasoedd yn rhan bwysig o ffordd o fyw iach ar gyfer ein hiechyd corfforol a’n hiechyd meddwl.

Mae ein perthnasoedd gyda’r rheiny o’n hamgylch yn cael effaith sylweddol ar ein hapusrwydd, sut mae ein plant yn ffynnu a sut rydym yn ymdrin â’r heriau yr ydym yn eu hwynebu o bryd i’w gilydd mewn bywyd.

Rydym ni i gyd yn anghytuno ac yn ffraeo gyda phobl o bryd i’w gilydd, mae’n rhan naturiol o berthnasoedd. Gall yr anghytundebau fod yn fawr neu’n fach, p’un a ydynt yn ymwneud â’r ffordd yr ydym yn magu ein plant, pwy sy’n gwario’r mwyaf o arian, neu bwy wnaeth olchi’r llestri ddiwethaf! Nid yw bob anghytundeb yn niweidiol, y ffordd yr ydym yn ymdrin â hwy sy’n bwysig.

Gall anghytundebau nad ydynt yn cael eu datrys, sy’n digwydd yn aml neu sy’n arwain at gyfnodau hir o dawelwch ddatblygu i wrthdaro.  P’un a yw’r rhieni gyda’i gilydd neu wedi gwahanu, mae’r ffordd yr ydych chi a’ch partner yn cyfathrebu’n gallu cael effaith ar eich plant. Nid yw gwrthdaro rhwng rhieni yr un fath â cham-drin domestig, os ydych chi’n ofni eich partner neu’n teimlo eu bod yn rheoli eich bywyd, fe allwch fod yn dioddef cam-drin domestig ac mae cefnogaeth ar gael i chi. Ceisiwch gymorth drwy: 

Cefnogaeth ar-lein

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio gyda OnePlusOne i ddarparu’r cyrsiau ar-lein canlynol AM DDIM. Mae rhaglenni oneplusone yn eich helpu gyda chyngor a chefnogaeth i gryfhau eich perthnasoedd a rheoli achosion o wrthdaro’n well. 

Oneplusone

Ymweld ag OnePlusOne

Kids talk | OnePlusOne

Kids talk | OnePlusOne gan OnePlusOne ar Vimeo.

Fi, Ti a’r baban hefyd

Ar gyfer pwy mae o

  • Rhieni newydd a rhieni sy’n disgwyl babi.

Yr hyn fyddwch yn ei ddysgu

  • Y pethau mae babis yn eu dysgu gennych chi, hyd yn oed cyn iddynt gael eu geni.
  • Pam y dylid rhannu unrhyw straen.
  • Sut allwch chi a’ch partner gefnogi eich gilydd yn well.
  • Sut i drafod pynciau anodd.
  • Sut mae anghytundebau’n dechrau a sut i’w rhwystro. 

Cynnwys

  • Newidiadau i mi ac i ni.
  • Ymdopi â straen.
  • Gwrthdaro a chyfathrebu. 

Dadlau’n Well

Ar gyfer pwy mae o

  • Rhieni sy’n awyddus i ddysgu ffyrdd iach o ymdopi â straen. 

Yr hyn fyddwch yn ei ddysgu

  • Beth sy’n achosi straen a pha effaith mae’n ei gael arnoch chi. Effaith straen ar eich teulu a’ch perthynas.
  • Sut i gefnogi eich gilydd yn ystod cyfnodau o straen.
  • Y ffordd orau i wneud hyn yw trafod eich problemau er mwyn i chi fedru canfod atebion gyda’ch gilydd. 

Cynnwys

  • Deall straen.
  • Ymdopi â straen gyda’ch gilydd.
  • Dadlau’n well.

Cael Pethau’n Iawn i Blant

Ar gyfer pwy mae o

  • Rhieni sy’n gwahanu neu wedi gwahanu ac yn profi lefel uchel o wrthdaro. 

Yr hyn fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i osgoi cynhyrfu a gwrando yn ogystal â siarad.
  • Pam ei fod yn ddefnyddiol gweld pethau o safbwynt gwahanol.
  • Beth i’w wneud i atal trafodaeth rhag troi’n ffrae.
  • Sgiliau ar gyfer dod o hyd i ddatrysiadau a chyfaddawdu. 

Cynnwys

  • Peidio â chynhyrfu.
  • Gweld pethau’n wahanol.
  • Trafod.
  • Canfod datrysiad. 

Adnoddau ar-lein eraill

(Nid ydym yn cymeradwyo’r cynnwys ar eu gwefannau. Rhieni sydd wedi rhoi gwybod i ni am y gwefannau defnyddiol hyn).

Relate

Relate

Relate yw darparwr mwyaf cymorth perthynas yng Nghymru a Lloegr ac maen nhw’n helpu miliynau o bobl bob blwyddyn i gryfhau’r perthnasoedd sy’n golygu fwyaf iddyn nhw. Gallwch ddefnyddio'r Relate AI Chatbot i rannu'r hyn rydych chi'n mynd drwyddo a chael atebion, cefnogaeth a chyngor i'ch helpu chi i ddod trwy wrthdaro â'ch partner neu gyd-riant. Mae’r Bot ‘yn y canol’ yn chatbot sydd wedi’i hyfforddi ar sut mae’ch plentyn yn profi eich perthynas. Gydag ychydig o wybodaeth a dim barn, gallwch gael cipolwg ar sut y gallai eich plentyn fod yn teimlo. Relate, 2024

Relate

See it differently

Treuliwch ychydig funudau’n gwylio’r fideos hyn gan see it differently sy’n amlinellu sut mae’r problemau hyn yn cael effaith ar blant a’u teuluoedd.

Ymweld â gwefan See it differently

Family Lives

Mae Family Lives yn darparu ymyrraeth gynnar wedi’i thargedu a chefnogaeth mewn argyfwng i deuluoedd sy’n cael trafferth.   Mae’r problemau y maent yn darparu cefnogaeth mewn perthynas â hwy’n cynnwys teuluoedd yn chwalu, perthnasoedd heriol ac ymddygiad, dyled, a lles emosiynol a meddyliol.

Ymweld â gwefan Family Lives

Gingerbread

Mae Gingerbread yn elusen sy’n helpu teuluoedd â rhieni sengl i fyw bywydau diogel, hapus a boddhaus.  Maent yn darparu cefnogaeth a chyngor arbenigol a chyfrinachol ar unrhyw beth o ddelio â thor perthynas i fynd yn ôl i’r gwaith neu drefnu taliadau cynhaliaeth plant, budd-daliadau neu faterion credyd treth. Os ydych chi’n bwriadu defnyddio’r llinell gymorth, mae’r boreau'n dueddol o fod yn brysur, felly efallai y byddai’n well i chi ffonio yn y prynhawn.

Ymweld â gwefan Gingerbread 

Problemau ariannol fel cwpwl 

Os ydych chi’n wynebu problemau ariannol fel cwpwl, dyma rai syniadau defnyddiol ar sut i geisio cymorth, siarad am arian, llunio cyllideb a neilltuo amser i’ch gilydd.

Darllen mwy am broblemau ariannol fel cwpwl

Click Relationships

Ar wefan Click Relationships, gallwch rannu cwestiynau a straeon gyda’r gymuned, rhoi cynnig ar weithgareddau hwyliog a defnyddiol, neu geisio cefnogaeth breifat gan wrandäwr Click.

Ymweld â gwefan Click Relationships

Dad Info

Gwefan Dad Info - Gwefan fwyaf Ewrop ar gyfer cyngor a chefnogaeth i dadau.  Mae’n cynnwys cwrs ar-lein am ddim i rieni sydd wedi gwahanu.

Ymweld â gwefan Dad Info