Alert Section

Ymgynghori ar y Gyllideb 2025 / 2026


Am ymhell dros ddegawd mae bob Cyngor yn y DU wedi wynebu heriau ariannol sylweddol oherwydd tanwario blwyddyn ar ôl blwyddyn gan lywodraethau cenedlaethol.

Dros y cyfnod hwn mae Sir y Fflint wedi torri ei wariant o fwy na £125 miliwn.

Mae 68% o’r cyllid mae Sir y Fflint yn ei gael yn dod gan Lywodraeth Cymru ac y pen o’r boblogaeth rydym yn 20 allan o 22 Cyngor yng Nghymru ar gyfer yr arian a gawn i ddarparu gwasanaethau.

Bob blwyddyn daw’n fwy anodd ac rydym yn rhannu ein pryderon y gall y bwlch rhwng yr arian a gawn a’r hyn sydd angen i ni ei wario fynd yn rhy fawr, ond gyda llawer o waith caled a rhai penderfyniadau anodd rydym yn llwyddo i’w wneud o drwch blewyn. 

Dros y cyfnod hwn rydym wedi defnyddio’r holl ddewisiadau hawdd i dorri gwariant ac rydym hefyd wedi defnyddio’r dewisiadau cymedrol i anodd.  Heb unrhyw arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru rydym mewn sefyllfa ddifrifol, gritigol ble mai’r unig beth sy’n weddill i ni yw dewisiadau anodd a fydd yn effeithio’n sylweddol ar ein trigolion a’r gweithlu.

Mae mwy o wybodaeth am ein heriau o ran y gyllideb ar ein gwefan.

Er ein bod yn gweithio’n galed i ganfod atebion, nid ydym yn gor-ddweud pan ddywedwn y gall 2025/26 fod y flwyddyn pan na allwn gau’r bwlch.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn Sir y Fflint ateb y cwestiynau, er enghraifft, pobl sy’n byw yma, sy’n mynd i’r ysgol neu’r coleg yma, sy’n berchen ar fusnes neu’n gweithio yma, neu sy’n ymweld â’r ardal, neu’n dod yma i siopa neu ar wyliau.

Gall preswylwyr nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu lle bydd modd cael cefnogaeth. Mae’r oriau agor ar wefan y Cyngor.

Mae eich safbwyntiau’n bwysig i ni a byddant yn ein helpu wrth i ni ystyried y ffordd orau o gydbwyso’r gyllideb ar gyfer 2025/26.

Ar ôl i ni ystyried yr holl adborth a gwneud ein penderfyniadau byddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau ar y wefan.

Ewch i 'Smart Survey'

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 15/10/2024

    Dyddiad cau: 24/11/2024

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Chyfathrebu

    E-bost: dweudeichdweud@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267 224923