Y gyllideb a gwasanaethau lleol 2025-2026
Cwestiynau Cyffredin
Diweddaru Diwethaf: 15 Hyfryd 2024
Pam bod bwlch yn y gyllideb o le mae hyn yn dod?
Pam bod bwlch yn y gyllideb, o le mae hyn yn dod?
Mae’r rhan fwyaf o’n cyllid (68%) yn dod gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar ffurf Grant Cynnal Refeniw.
Ers 2008, yn sgil gostyngiadau mewn cyllid gan y Deyrnas Unedig a llywodraethau cenedlaethol, roedd rhaid i Gyngor Sir y Fflint leihau ei wariant o £125 miliwn, felly ychydig iawn o gyfleoedd sydd ar ôl i dorri ymhellach ar wariant.
Mae’r bwlch yn y gyllideb ar gyfer 2025/26 yn dod o bethau fel:
- costau ynni, bwyd a thanwydd a gwasanaethau eraill
- cynnydd yn y galw am wasanaethau megis digartrefedd a gofal cymdeithasol
- costau cynyddol gan bartneriaid allanol e.e. Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Crwneriaid Gogledd Cymru a darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol
- cynnydd yng nghyflog y gweithlu (ac eithrio athrawon) - nid oes gan y Cyngor reolaeth dros y cynnydd hwn, mae’r rhain yn cael eu trafod a’u cytuno yn genedlaethol ond nid yw Cynghorau yn cael cyllid ychwanegol i dalu amdanynt.
Pa mor fawr yw’r bwlch ar gyfer 2025/26?
Mae bwlch a ragwelir gan y Cyngor yn £38.4 miliwn ar hyn o bryd.
Ydi pob Cyngor yn cael trafferth mantoli’r cyfrifon neu Sir y Fflint ydi’r unig un?
Mae wedi’i gofnodi’n helaeth bod holl Gynghorau ar draws y DU yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Mae rhai Cynghorau yn Lloegr wedi gweithredu Hysbysiadau A114 yn datgan nad allent osod cyllideb gytbwys gyfreithiol.
Mae datganiad newyddion a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar 10 Hydref 2024 yn nodi: “Mae cynghorau ledled Cymru yn wynebu cyllidebol eithriadol gwerth cyfanswm o tua £559 miliwn yn 2025-26 a fyddai, o’u gadael heb eu hariannu, yn effeithio’n sylweddol ar allu cynghorau i ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol.” Mae’r datganiad newyddion llawn i’w weld ar wefan CLlLC.
Beth yw Hysbysiad Adran 114 (A114)?
Gweithredir Hysbysiad Adran 114 pan fydd Swyddog Cyllid awdurdodedig y Cyngor yn adrodd nad all fodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol i osod cyllideb gytbwys o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Mae hyn fel arfer oherwydd bod yr hyn sydd angen ei wario yn fwy na’r incwm sydd ar gael.
Unwaith y gweithredir, rhaid i’r Cyngor roi’r gorau i holl wario, oni bai am wasanaethau statudol hanfodol e.e. gofal cymdeithasol, addysg, diogelu plant, cynllunio, gwastraff ac ailgylchu.
Yna mae gan y Cyngor 21 diwrnod i ystyried yr adroddiad a chytuno ar gamau brys. Bydd archwilwyr allanol y Cyngor yn cael eu hysbysu ac yma yng Nghymru, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cael eu hysbysu ac yn gallu camu i mewn i ddarparu cyngor a chefnogaeth.
Yn ffodus, nid oes unrhyw Gyngor yng Nghymru wedi gweithredu Hysbysiad A114 eto, ac nid yw’n sefyllfa y mae Sir y Fflint eisiau ei weld. Mae Cynghorwyr a Swyddogion yn parhau i weithio’n galed i ddod o hyd i ddatrysiadau er mwyn pontio’r bwlch o £38.4 miliwn yng nghyllideb y Cyngor.
Ydi Llywodraeth Cymru yn rhoi'r un swm i bob Cyngor i ariannu gwasanaethau?
Wrth ddyrannu ei gyllideb gyffredinol mae Llywodraeth Cymru yn dynodi cyfran i ariannu gwasanaethau’r cyngor. Yna mae’r arian yn cael ei rannu rhwng y 22 Cyngor yng Nghymru. Mae’r swm mae pob cyngor yn ei dderbyn yn cael ei gyfrifol trwy Fformiwla Cyllido Llywodraeth Leol. Mae’n ystyried pethau fel maint daearyddol y cyngor, pa mor wledig ydyw, maint y boblogaeth, yr economi yn yr ardal o ran cyfoeth a thlodi.
Mae gan Sir y Fflint y chweched boblogaeth fwyaf yng Nghymru, fodd bynnag, o dan y Fformiwla Cyllido, mae Sir y Fflint yn Gyngor wedi’i ariannu’n isel, yn yr 20fed safle allan o 22 Gyngor o ran y swm o arian mae’n ei dderbyn fesul pen y boblogaeth (gweler y tabl isod). Mae hyn £159 yn is fesul person na chyfartaledd Cymru. Os byddai Sir y Fflint yn derbyn cyfartaledd Cymru byddem tua £24.7m yn well allan yn ariannol.
Hefyd mae’r sefyllfa wedi ei dwysáu gan y ffaith ein bod wedi derbyn yr ail ganran isaf o gynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn o ran ein grant gan Lywodraeth Cymru sef 2.2% (gweler y tabl isod):
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwariant Refeniw a Chyfalaf?
Y ffordd hawsaf i egluro’r gwahaniaeth rhwng Refeniw a Chyfalaf yw yn nhermau aelwyd. Mae cyfalaf yn talu am yr eitemau mawr na brynir yn aml (tŷ neu gar) ac mae refeniw yn talu am bethau bob dydd er mwyn eu cadw i fynd, fel gwres, goleuadau, bwyd, disel ac ati.
Mae’r Cyngor yn defnyddio ei Gyfalaf er mwyn buddsoddi mewn pethau a fydd yn para am amser hir, pethau fel gwelliannau i adeiladau ysgol neu gartrefi gofal. Yn ogystal â thalu am bethau dydd i ddydd megis cyflogau, gwres a goleuadau, mae cyllid refeniw hefyd yn talu am gostau dydd i ddydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu wythnosol, pecynnau gofal ar gyfer pobl hŷn a diamddiffyn, llety ar gyfer pobl ddigartref ac ati
Er ei bod yn bosibl, o dan y rheolau presennol, i ddefnyddio cyllid Refeniw er mwyn helpu i gefnogi pryniant Cyfalaf, nid yw fel arfer yn bosibl i ddefnyddio arian Cyfalaf i dalu am gostau Refeniw. Er enghraifft, pe bydd y Cyngor yn gwerthu darn o dir, bydd yr arian a dderbynnir yn arian Cyfalaf a gallai ond gael ei wario ar brosiectau Cyfalaf eraill. Ni ellir ei ddefnyddio i dalu am gostau rhedeg dydd i ddydd.
Pa gamau y mae’r Cyngor wedi eu cymryd dros y blynyddoedd diwethaf i fantoli cyfrifon?
Mae Sir y Fflint wedi gostwng ei wariant o £125 miliwn dros y 15 blynedd ddiwethaf.
Rydym wedi cyflawni’r gostyngiad anferth hwn drwy wneud pethau fel:
- gostyngiad o bron i 50% mewn swyddi uwch reoli a’u cefnogaeth
- gostyngiad mewn swyddi rheolwyr canol• gostyngiad o 40% mewn swyddi clercyddol a chostau
- lleihau holl gyllidebau gwasanaeth 30% - rhai cyn belled â 45%
- gofod swyddfa wedi lleihau 20%
- gwaredu dau adeilad swyddfa mawr a dymchwel 50% o Neuadd y Sir, yr Wyddgrug
- uno chwe depo yn un cyfleuster newydd a mwy effeithiol yn Alltami
- rhannu adeiladau gyda phartneriaid fel Heddlu Gogledd Cymru yn Nhreffynnon a’r Fflint
- arbed arian yn y modd yr ydym yn prynu a gyrru cerbydau’r Cyngor
- newid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau – NEWydd - cwmni masnachu sy’n eiddo i’r Cyngor yn darparu gwasanaethau glanhau ac arlwyo
- gweithio gyda chymunedau lleol lle bu diddordeb mewn rhedeg gwasanaethau lleol e.e. Canolfan Hamdden Treffynnon, Caffi Isa.
- NEW Homes - cwmni masnachu sy’n eiddo i’r Cyngor sy’n darparu cartrefi i bobl leol• SHARP (Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol) - adeiladu tai Cyngor newydd a thai fforddiadwy
- Double Click - menter gymdeithasol newydd sy'n darparu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion â phroblemau iechyd meddwl ac anawsterau dysgu
- integreiddio gwasanaethau gyda chynghorau eraill yn y rhanbarth i rannu costau e.e. addysg
- caffael neu swmp-brynu gyda chynghorau eraill i gael gwell bargen e.e. caledwedd cyfrifiadurol
- adolygu ffioedd a thaliadau bob blwyddyn
- gostyngiad gwirioneddol o 6% yng nghyllidebau dirprwyedig ysgolion yn ystod y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf (2023/24 a 2024/25)
Pam na all y Cyngor ddefnyddio'r arian sydd ganddo wrth gefn i helpu i fantoli'r cyfrifon?
Pan rydym yn cyfeirio at ‘gronfeydd wrth gefn’ rydym yn sôn am arian mae’r Cyngor yn ei gadw bob blwyddyn i dalu am wariant annisgwyl neu argyfyngau, er enghraifft cost digwyddiad tywydd eithafol.
Nid yw’r Cyngor yn cadw cronfeydd wrth gefn mawr, ac yn debyg i gynilion aelwyd, unwaith i ni fynd i mewn iddynt i dalu am rywbeth yna mae’r arian wedi mynd. Mae’r Cyngor wedi cynyddu ei lefel sylfaenol bresennol o gronfeydd wrth gefn i £8.984 miliwn, sydd ond yn 2.44% o Gyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor. Dyma amddiffyniad olaf y Cyngor mewn digwyddiad o amgylchiadau anrhagweladwy ac mae’n isel iawn o’i gymharu â Chynghorau eraill yng Nghymru.
Yn ogystal â’r lefel sylfaen o gronfeydd wrth gefn, mae gennym gronfa wrth gefn at raid sydd wedi cael ei adeiladu o danwariant yn y blynyddoedd blaenorol. Amcangyfrifir mai dim ond £0.337 miliwn sydd ar gael, ac nid yw hyn yn rhoi llawer iawn o gadernid i’r Cyngor yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.
Mae gan y Cyngor hefyd amrywiol gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, sydd wedi’u rhoi o’r neilltu er dibenion penodol ac y gellir cael gafael arnynt pan fydd angen y gwariant ychwanegol.
Cyllideb net y Cyngor ar gyfer 2024/25 yw £368m ac felly mae cyfanswm yr arian wrth gefn sydd ar gael yn cyfateb i 2.53% o’r gyllideb.
Y gyllideb a’ch Treth y Cyngor
Ar gyfer pob 1% o Dreth y Cyngor a gaiff ei gasglu mae’r Cyngor yn derbyn £1.055m mewn incwm i helpu i dalu am wasanaethau.
Nid yw’r Cyngor wedi gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2025/26 eto.
Ym mis Rhagfyr 2024 bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi faint mae’n ei roi i gynghorau Cymru i’w wario yn 2025/26.
Ni allwn osod unrhyw gynnydd yn Nhreth y Cyngor hyd nes y bydd y wybodaeth honno gennym ni.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am gynnydd yn Nhreth y Cyngor a weithredwyd yn 2024/25 drwy glicio yma.
Pam nad ydych chi’n lleihau eich gweithlu?
Dros y degawd diwethaf, mae’r Cyngor wedi symleiddio ei weithlu i’r fath raddau fel bod llawer o wasanaethau yn rhedeg ar gapasiti critigol bellach, a gallai unrhyw ostyngiadau pellach arwain at lefelau anniogel.
Pam fod y Cyngor yn symud i gasgliadau bin du bob tair wythnos?
Mae targedau Llywodraeth Cymru bellach yn ei gwneud yn ofynnol i Gynghorau Cymru ailgylchu 70% o’r gwastraff maent yn ei gasglu. Gall fethiant i fodloni’r targed hwn arwain at ddirwy i’r Cynghorau, sef “dirwyon tordyletswydd”.
Dros y pedair blynedd ddiwethaf yma yn Sir y Fflint, mae perfformiad ailgylchu wedi methu â bodloni’r targed blaenorol o 64% ac mae Sir y Fflint yn wynebu dirwyon â chyfanswm o £1.2 miliwn.
Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu casglu’r dirywion hyn ai peidio, ond petai’n gwneud hynny, byddai’r Cyngor angen dod o hyd i’r £1.2 miliwn yn ychwanegol.
Rŵan bod y targed wedi codi i 70%, fe all y Cyngor wynebu dirwyon pellach o hyd at filiwn o bunnau’r flwyddyn os nad ydym yn newid pethau.
Nid ydym ni’n dweud y bydd hyn yn digwydd, ond er mwyn ei roi mewn cyd-destun, os na fyddai unrhyw ffordd arall o ddod o hyd i’r arian heb law am wneud i’r trethdalwyr dalu, bydd angen cynyddu biliau Treth y Cyngor 1% er mwyn talu am gost y dirwyon tordyletswydd.
Ar ben hyn, y llynedd gwariodd Cyngor Sir y Fflint dros £3.5 miliwn i waredu 30,000+ tunnell o wastraff, gyda 23,000 o hynny wedi’i gasglu o finiau du.
Po fwyaf y gwastraff rydym yn ei ailddefnyddio a’i ailgylchu po leiaf y gwastraff sy’n mynd i’n biniau du. Mae hyn yn gwella ein perfformiad, yn lleihau costau ac yn lleihau’r swm o nwyon tŷ gwydr, megis Carbon, a ryddheir.
Mae rhoi mwy o ddeunyddiau ailgylchu yn y cynwysyddion unigol, a ddarperir gan y Cyngor ar gyfer y casgliadau ochr ffordd wythnosol, a llai o wastraff yn ein biniau du, yn golygu y gall y biniau du aros heb eu gwagio am gyfnod hirach, y gall y Cyngor leihau ei gostau gwaredu ac mae’n osgoi ffioedd gwaredu drud a dirwyon posib’. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei ailgylchu ar ein gwefan.
Os yw’n costio llai i’r Cyngor gasglu a’i waredu, yna gallwn wario’r hyn a arbedwn i gefnogi gwasanaethau hanfodol eraill.
Mae mwy o arian i wario ar wasanaethau eraill, yn helpu ein sefyllfa gyllidebol cyffredinol, ac yn ei dro yn helpu cyllideb y Cyngor, gan gynnwys Treth y Cyngor, i fynd ymhellach.
Pam fod y Cyngor yn talu busnesau masnachol i ddarparu rhai o’i wasanaethau y gall ddarparu ei hun?
Yn aml, mae galw cynyddol yn golygu bod y gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Sir y Fflint yn gorlenwi, neu gall yr angen fod yn arbenigol, felly ni all Sir y Fflint ei ddarparu. Er enghraifft, gofal preswyl neu nyrsio ar gyfer pobl hŷn neu lefydd preswyl/addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth.
Weithiau mae’r angen mor arbenigol fel nad oes gennym unrhyw ddewis, fodd bynnag fel arfer mae’r galw mor fawr fel nad oes gan y Cyngor gapasiti i ddarparu’r gwasanaeth eu hun ac angen talu busnesau masnachol i’w gyflawni yn ein lle. Gall hyn fod yn gostus iawn a gyda mwy a mwy o bobl angen y gwasanaethau, mae’r costau yn cynyddu bob blwyddyn.
Dros nifer o flynyddoedd bellach, mae’r Cyngor wedi bod yn buddsoddi i arbed, a thrwy weithio gyda phartneriaid, wedi datblygu ac ehangu gwasanaethau er mwyn adeiladu mwy o gapasiti, er enghraifft:
- Tai Gofal Ychwanegol yn Llys Eleanor, Shotton, Llys Jasmine, Yr Wyddgrug - Llys Raddington, y Fflint - Plas yr Ywen, Treffynnon, gan ddarparu cyfleoedd byw yn annibynnol ar gyfer pobl hŷn gyda’r fantais o ofal a chefnogaeth ar y safle lle bod angen.
- Marleyfield House, Bwlce - wedi ehangu ac ailddatblygu i ddarparu llety ar gyfer 64 o bobl - gan ddyblu ei gapasiti - i gefnogi pobl gyda gofal preswyl hirdymor ac arhosiad byr ail-alluogi ar gyfer pobl sy’n gadael yr ysbyty cyn dychwelyd i fyw’n annibynnol adref.
- Croes Atti Newydd - y Fflint - o dan ddatblygiad ar hyn o bryd, a fydd yn darparu cyfleusterau tebyg i Marleyfield House.
Mae buddsoddi i arbed fel hyn, wedi’i ddylunio i helpu rheolaeth ariannol y Cyngor, ac yn bwysicach, mae cynyddu capasiti fel hyn yn galluogi mwy o bobl i gadw eu hannibyniaeth yn hirach, gan oedi neu, mewn rhai achosion, tynnu’r angen ar gyfer cymorth dwys hirdymor.
Pam bod cynnydd yn yr angen am gymorth digartrefedd?
Bob blwyddyn, mae mwy o bobl yn Sir y Fflint naill ai mewn perygl o fod yn ddigartref, neu’n ddigartref ac mewn perygl o gysgu allan. Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i helpu’r bobl yma.
Nid yw’r argyfwng costau byw parhaus nac amodau’r farchnad dai yn helpu’r sefyllfa hon.
Mae llawer o landlordiaid sector preifat yn gwerthu eu heiddo rhent, sy’n golygu bod llai o dai preifat ar gael i’w rhentu, ond gall hefyd olygu bod nifer uwch o bobl yn ddigartref, gan fod rhaid iddynt adael unwaith y bydd eiddo wedi’i werthu. Gyda llai o eiddo rhent ar gael, mae llai o ddewisiadau i bobl pan fydd angen iddynt symud ymlaen.
Er bod Sir y Fflint a landlordiaid cymdeithasol eraill wedi buddsoddi llawer mewn tai cymdeithasol dros y blynyddoedd diwethaf, nid oes cyflenwad digonol o hyd i fodloni'r galw. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi canfod hefyd bod llai o bobl yn symud allan o dai cymdeithasol, gan olygu bod llai o eiddo gwag ar gael i'w gosod.
Gyda diffyg tai fforddiadwy ar gael, mae’n rhaid i’r Cyngor leoli pobl mewn llety dros dro, sy’n gostus ac yn aml yn anaddas ar gyfer eu hanghenion.
Mae rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd y galw am lety a gwasanaethau digartrefedd yn parhau i gynyddu yn y dyfodol.
Mae’r holl ffactorau hyn yn rhoi straen sylweddol ar adnoddau’r Cyngor, yn ariannol ac yn ymarferol.
Trwy fuddsoddi i arbed, mae’r Cyngor yn gweithio tuag at leihau costau digartrefedd drwy ddatblygu gwasanaethau ataliol a mathau eraill o lety i bobl ddigartref, a fydd yn llai costus ac yn fwy addas ar gyfer anghenion pobl.
Pwy sydd yn talu am Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru?
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwarchod preswylwyr, busnesau a chymunedau ar draws y rhanbarth trwy wasanaethau ataliol ac ymatebol, gan gynnwys diogelwch yn y cartref, atal a diffodd tanau, ac ymateb i wrthdrawiadau ffordd, ac argyfyngau eraill gan gynnwys tywydd gwael.
Bob blwyddyn, mae’n rhaid i'r Cyngor Sir dalu mewn i gronfa gyfun y gwasanaeth tân i gwrdd â chostau blynyddol y Gwasanaeth Tân ac Achub. Caiff ei adnabod fel Ardoll flynyddol y Gwasanaeth Tân. Ar gyfer 2024/25 bydd rhaid i’r Cyngor dalu ardoll o £10.906m.
Er nad oes ‘praesept’ ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i’w weld ar eich bil Treth y Cyngor – mae rhan o’r Dreth Cyngor rydych yn ei dalu yn helpu'r Cyngor i ariannu’r gwasanaeth tân ac achub.
Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd o dan bwysau rhag costau cynyddol a disgwylir y bydd angen i Gynghorau Gogledd Cymru gyfrannu mwy i’r gyllideb yn 2025/26 i’w helpu i gael cyllideb gytbwys. Ar gyfer Sir y Fflint amcangyfrifir fod y swm ychwanegol hwn yn £1.090m.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a rôl yr Awdurdod Tân.
Pwy sy’n talu am Wasanaeth Crwneriaid Rhanbarthol Gogledd Cymru?
Mae gan Wasanaeth Crwner Gogledd Ddwyrain Cymru gyfrifoldeb statudol i ymchwilio i farwolaeth y rhoddir gwybod iddynt amdani a all fod yn dreisgar, yn annaturiol, o achos anhysbys neu pan fo’r farwolaeth wedi digwydd yn y carchar neu fel arall dan garchariad y wladwriaeth. Gall yr ymchwiliadau hyn arwain at fath o wrandawiad llys, a elwir yn gwest.
Mae Gwasanaeth Crwner Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei ariannu drwy gyfraniadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r swm y mae pob Cyngor yn ei dalu yn gysylltiedig â’r nifer o bobl sydd yn byw ym mhob sir. Cyngor Sir y Fflint sydd â’r boblogaeth fwyaf, felly mae’n talu’r swm uchaf, 31%. Mae ein cyfraniadau yn cael eu talu’n chwarterol ac mae’r cyfanswm a delir gennym mewn unrhyw flwyddyn yn cael ei bennu gan nifer a chymhlethdod cwestau a gynhelir. Ym mlwyddyn ariannol 2024/25, cyfraniad Sir y Fflint i’r gwasanaeth yw £423,278.
Er nad yw cost lawn cyfraniadau’r pedwar Cyngor yn wybyddus tan ddiwedd y flwyddyn ariannol, mae’r gwasanaeth crwner hefyd yn wynebu costau cynyddol ar gyfer y gwasanaethau y mae angen eu prynu, er enghraifft gwasanaethau patholeg. Golyga hyn ar gyfer 2025/26, fel rhan o’n cyfran tuag at y costau cynnal cyffredinol, amcangyfrifir y bydd angen i Sir y Fflint wneud cyfraniad ychwanegol o £21,000 yn fwy na chostau 2024/25.
Mae mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Crwner ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.
Beth sy’n digwydd gyda Neuadd y Sir?
Mae dyfodol Neuadd y Sir wedi bod yn destun trafod ers peth amser ac wedi ei gynnwys yn rheolaeth yn ein diweddariadau cyllidebol. Ers i ddymchwel yn rhannol yn 2020, mae cynllunio isadeiledd wedi bod yn mynd rhagddo.
Bellach, cynllun y Cyngor yw gwacau Neuadd y Sir erbyn Chwefror 2025 gyda gweithwyr yn adleoli i Dŷ Dewi Sant, Ewlo gan symud ymlaen i ddymchwel gweddill yr adeilad yn gyfan gwbl.
Mae Sir y Fflint, ynghyd â bob Cyngor arall yn y DU, yn parhau i wynebu pwysau ariannol sylweddol ac yng nghyd-destun sefyllfa gyllidebol anodd iawn ar gyfer 2025/26 a thu hwnt, yn syml, nid yw bellach yn hyfyw yn ariannol i gadw Neuadd y Sir a’r holl gostau sy’n gysylltiedig.
Beth ydych chi’n ei olygu gydag ‘arbedion’, ydych chi’n cyfeirio at ‘doriadau’?
Yn y gorffennol rydym wedi defnyddio’r term ‘arbedion’, er mwyn disgrifio’r gwahanol bethau rydym wedi gallu eu gwneud i ddod o hyd i ddatrysiadau i bontio’r bwlch yn y gyllideb. Trwy wneud pethau’n wahanol bu modd i ni ‘arbed’ arian i'r Cyngor a sicrhau bod gwasanaethau’n dal i gael eu rhedeg.
Rydym wedi gwneud hyn fel hyn:
- rhedeg gwasanaethau'n effeithlon ac ‘arbed’ arian
- bod yn fwy entrepreneuraidd yn y modd rydym ni’n gwneud pethau
- lleihau’r swm o arian mae gwasanaethau yn ei dderbyn er mwyn gwario
- lleihau faint o arian sydd gennym i wario trwy godi tâl am rai gwasanaethau Ar ôl mwy na degawd, rydym bellach wedi defnyddio ein holl gyfleoedd ‘effeithlonrwydd’ ac ychydig iawn o ddewisiadau sydd gennym erbyn hyn.
Ar hyn o bryd rydyn yn rhagweld bwlch dechreuol o £38.4 miliwn yn ein cyllideb ar gyfer 2025/26.Heb unrhyw gyllid ychwanegol, mae’n rhaid i Sir y Fflint wneud penderfyniadau anodd iawn o ran “cwtogi” ymhellach ar faint o arian y mae’n ei wario ar hyn o bryd ar rai gwasanaethau.