Alert Section

Pecynnau Cymorth Hinsawdd


Croeso i Gyngor Sir y Fflint Pecynnau Cymorth Hinsawdd. Mae’r pecynnau hyn wedi’u creu i gefnogi ysgolion a Chynghorau Tref a Chymuned i fesur a deall eu hallyriadau carbon, i benderfynu ar ddulliau i leihau’r allyriadau hynny ac i ymgysylltu gydag eraill i gefnogi a dylanwadu ar gamau gweithredu. 

Mae prif ddogfennau’r Pecynnau Cymorth wedi’u cyhoeddi isod, ar gyfer ysgolion a Chynghorau Tref a Chymuned, gydag adnoddau ategol dan y cwymplenni – y mae modd eu lawrlwytho a’u cadw.


Pecynnau Cymorth

Mae’r ddwy ddogfen ganlynol yn ganolog i’r Pecynnau Cymorth Hinsawdd, gan ddarparu’r holl wybodaeth sydd ar ddefnyddwyr ei hangen i ddeall newid hinsawdd a’i effaith a sut gellir defnyddio’r adnoddau. Cliciwch ar y ddolen berthnasol i lawrlwytho’r pecyn cymorth sydd arnoch chi ei angen. 

Pecyn Cymorth Hinsawdd i Ysgolion (pdf)

Pecyn Cymorth Hinsawdd i Gynghorau Tref a Chymuned (pdf)

Dan y cwymplenni canlynol mae yna adnoddau amrywiol y gallwch chi eu defnyddio i gyfrifo allyriadau carbon, cynllunio mesurau lleihau carbon ac ymgysylltu ag eraill. 


Adnoddau a Chanllawiau

Asesiad Amgylcheddol

Mae’r Asesiad Amgylcheddol yn archwiliad syml dan arweiniad y dysgwyr o ymddygiad ac arferion amgylcheddol yr ysgol. Mae’r testunau’n cynnwys defnydd ynni, gwastraff, bioamrywiaeth, cludiant, a’r defnydd o ddŵr.

Mae modd cynnal y gweithgaredd hwn cyn i’r ysgol ddechrau cyfrifo ôl-troed carbon ac mae’n ffurfio cyflwyniad syml i’r pecyn gwaith ar gyfer staff a dysgwyr ynghyd â chasglu gwybodaeth.

Asesiad Amgylcheddol (pdf)

Rheoli Carbon

Drwy fesur a monitro allyriadau carbon gall sefydliad ddeall swm a ffynhonnell yr allyriadau hynny, gan helpu i gynllunio a blaenoriaethu camau gweithredu priodol i’w lleihau. Mae’r adnoddau dan yr adran yma’n cefnogi defnyddwyr i gyfrifo allyriadau, olrhain sut mae’r allyriadau hynny wedi newid dros amser, ac adrodd ar sut mae’r allyriadau hynny’n cael eu rheoli a’u lleihau i gyrraedd y targed carbon sero net erbyn 2030. 

Ysgolion

Carboniadur Carbon Ysgolion (xlsx)

Adnodd Olrhain a Lleihau Carbon Ysgolion (xlsx)

Cynllun Lleihau Carbon Ysgolion (docx)

Cynghorau Tref a Chymuned

Carboniadur Cynghorau Tref a Chymuned (xlsx)

Adnodd Olrhain a Lleihau Carbon Cynghorau Tref a Chymuned (xlsx)

Cynllun Lleihau Carbon Cynghorau Tref a Chymuned (docx)

Adnoddau eraill

Cyfrifydd Taith Staff i’r Gwaith (xlsx)

Canllawiau Casglu a Mewnbynnu Data (pdf)

Canllaw Defnyddiwr Digital Energy (pdf)

Ymgysylltu

Mae ymgysylltu yn rhan fawr o helpu i newid ymddygiad pobl er mwyn lleihau allyriadau carbon. Nod yr adran hon yw ymgysylltu â CS2 i CA4. Mae tîm Newid Hinsawdd y Cyngor wedi creu cynlluniau gwersi sy’n edrych ar y materion sy’n cyfrannu fwyaf at newid hinsawdd. 

Gwers Gynradd

Cynllun Gwers Cynradd (pdf)

Sleidiau Ategol Cynllun Gwers Cynradd (pptx)

Taflen Gweithgaredd 1 Cynradd (docx)

Gwers Uwchradd

Cynllun Gwers Uwchradd (pdf)

Sleidiau Ategol Cynllun Gwers Uwchradd (pptx)

Taflen Gweithgaredd 1 Uwchradd (docx)

Taflen Ateb Gweithgaredd 1 Uwchradd (pdf)


Cysylltiadau ar gyfer Cefnogaeth

Os oes ar ysgol neu gyngor tref neu gymuned angen unrhyw gymorth wrth ddefnyddio’r pecyn, neu’n nodi materion neu gyfleoedd i wella, yna cysylltwch â’r tîm perthnasol (gwelwch y tabl isod). 

Tabl Cysylltiadau ar gyfer Cefnogaeth
YmholiadCyswllt Allweddol
Ymholiadau Cyffredinol newidhinsawdd@siryfflint.gov.uk
Adeiladau (gwresogi, trydan, dŵr ac ynni adnewyddadwy) energy.unit@siryfflint.gov.uk
Teithio ar gyfer Busnes newidhinsawdd@siryfflint.gov.uk
Gwastraff wastedata@siryfflint.gov.uk
Bioamrywiaeth bioamrywiaeth@siryfflint.gov.uk