Aelodau Panel Cymunedol Sir Y Fflint
Rydym angen pobl fel chi!
Rydym angen Aelodau o Banel Cymunedol (gwirfoddolwyr) sy’n fodlon cynrychioli eu cymunedau. Dynion a merched 18 oed a hŷn o unrhyw gefndir ethnig a chymdeithasol.
Rydym eisiau pobl sydd â sgiliau cyfathrebu da a phrofiadau bywyd.
Gyda phwy sydd Aelodau’r Panel Cymunedol yn delio â nhw?
Bydd plant a phobl ifanc 10 - 17 oed sy’n ymddangos yn y Llys Ieuenctid, sy'n pledio'n euog ac nid wedi'u dyfarnu'n euog o'r blaen, fel arfer yn cael eu trin drwy Orchymyn Atgyfeirio.
Mae hyd y Gorchymyn Atgyfeirio yn cael ei bennu gan y Llys (3 - 12 mis).
Yna, caiff yr unigolyn ifanc ei gyfeirio at Banel Troseddwyr Ifanc.
Beth yw Panel Troseddwyr Ifanc?
Mae bob Panel Troseddwyr Ifanc yn cynnwys dau Aelod o’r Panel Cymunedol a gynorthwyir gan o leiaf un gweithiwr proffesiynol arall o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Mae Aelodau o’r Panel Cymunedol yn arwain gyda:
- cefnogi pobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad
- cynorthwyo pobl ifanc i newid eu hymddygiad
- cynorthwyo pobl ifanc i wneud iawn am y niwed y maent wedi'i achosi i bobl eraill
- cynorthwyo pobl ifanc a'u dioddefwyr i gael eu hailintegreiddio i'w cymunedau
A fyddaf yn cael fy hyfforddi?
Byddwch. Nid ydym yn disgwyl i bobl gael yr holl sgiliau angenrheidiol i fod yn Aelod o’r Panel Cymunedol.
Byddwch yn cael hyfforddiant cychwynnol, sy’n drwm, yn bleserus ac yn rhyngweithiol, a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer swyddogaeth heriol, sy’n rhoi boddhad ac sy’n werthfawr.
Ar ôl i chi ddod yn Aelod o'r Panel Cymunedol byddwch yn parhau i gael hyfforddiant parhaus a goruchwyliaeth unigol i’ch cefnogi yn eich Gwaith.
Sut ydw i’n gwneud cais?
I gael ffurflen gais neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â:
Chris Clarke, Swyddog Cyfiawnder Adferol, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint
Ffon: 01352 701125.
E-bost: Chris.Clarke@flintshire.gov.uk