Casglu eitem swmpus / dodrefn
Cofiwch y bydd oedi yn debygol gyda chasglu eitemau mawr/dodrefn yn ystod y gwyliau. Bydd Refurbs Flintshire yn gwneud eu gorau i gadw at y targed o 10 diwrnod pan fydd hynny’n bosib.
Os oes gennych chi eitemau swmpus angen eu gwaredu fe allwch chi archebu casgliad gwastraff swmpus drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01352 701234.
Mae'r elusennau lleol Refurbs Flintshire (01352 734111) yn gallu casglu dodrefn ac eitemau trydanol y gellir eu hailddefnyddio yn rhad ac am ddim o garreg eich drws. Fel arall, hysbysebwch nhw ar wefan Freecycle / Freegle.
Os fedrwch chi gario a chludo eitemau swmpus eich hun, fe allwch chi fynd ag amrywiaeth o eitemau yn rhad ac am ddim i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol. Mae’r canolfannau yn derbyn gwastraff pren, rwbel, pridd, asbestos a gwastraff peryglus.
Rhestr o eitemau y gallwn ni eu casglu
Symudir oergelloedd a rhewgelloedd yn rhad ac am ddim o eiddo preswyl yn unig.
Mae’n rhaid i oergelloedd a rhewgelloedd gael eu gadael ar ymyl y palmant a dylid gwagio’r holl fwydydd cyn iddynt gael eu casglu.
Ffurflen Casgliad Oergelloedd a Rhewgelloedd
Ni allwn gasglu eitemau oni bai eu bod nhw ar y rhestr, ond gallwch fynd â'r mwyafrif o eitemau i'r Canolfan Ailgylchu Nwyddau Cartrefleol.
TÂL AM HYD AT 5 EITEM = £45.00
TÂL AM BOB EITEM YCHWANEGOL = £ 5.00
Uchafswm y nifer o eitemau ychwanegol yw 5 (h.y. taliad uchafswm o £70.00 am weithrediad gyda 10 eitem i gyd)
Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau penodol e.e. Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (Seiliedig ar Incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Cysylltiedig ag Incwm), Lwfans Byw i’r Anabl / PIP, Pensiwn y Wladwriaeth neu Gredydau Pensiwn Gwarantedig, ac yn dangos tystiolaeth o hynny, fe allwch chi dderbyn casgliadau gwastraff swmpus rhatach.
TÂL AM HYD AT 5 EITEM = £25.00
TÂL AM BOB EITEM YCHWANEGOL = £ 5.00
Uchafswm y nifer o eitemau ychwanegol yw 5 (h.y. taliad uchafswm o £50.00 am weithrediad gyda 10 eitem i gyd)
Bydd angen i chi gyflwyno manylion eich budd-dal/pensiwn i ni i os ydych yn gymwys i gael gwasanaeth casglu gostyngol.
Ffoniwch 01352 701234 i dalu trwy gerdyn credyd/debyd.
Anfonwch siec trwy'r post yn daladwy i 'Gyngor Sir y Fflint' ynghyd â rhestr o'r eitemau i'w casglu, eich enw, eich cyfeiriad a chopïau o fanylion eich budd-dal/pensiwn at Gwasanaethau Streetscene, Depo Alltami, Ffordd Yr Wyddgrug, Alltami, Sir y Fflint CH7 6LG.
Galwch heibio i swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu: Bwcle / Treffynnon / Y Fflint / Cei Connah / Yr Wyddgrug.
Rydym yn derbyn arian parod, cardiau debyd neu gardiau credyd.
Byddwn yn casglu'r eitem(au) o fewn 10 diwrnod.
- Rhaid i chi osod yr eitemau y tu allan i’ch eiddo ond o fewn y terfyn (e.e. gardd ffrynt/rhodfa) o’r amser y mae’ch casgliad wedi’i bennu.
- Ni allwn ddod i mewn i'ch cartref i helpu gyda'r paratoadau neu'r gwaredu.
- Peidiwch â gadael yr eitemau ar lwybr troed neu ar y ffordd oherwydd gallai hynny arwain at eich erlyn am dipio anghyfreithlon.
- Mae'n rhaid bod y cerbyd casglu yn gallu parcio ar eich ffordd, heb gael ei rwystro na'i atal gan gerbydau eraill.
- O ran eiddo â mynediad trafferthus, e.e. fflatiau, rhaid cytuno ar fan casglu gyda ni o flaen llaw.
- Yr eitemau rydych chi wedi eu rhag-archebu yn unig y byddwn yn eu casglu.
- Gallwn wrthod casglu unrhyw eitem a all effeithio ar iechyd a diogelwch ein staff casglu.
- Gofynnwn i chi orchuddio eitemau sy'n debygol o amsugno dŵr glaw.
- Ein nod yw casglu eich eitemau o fewn 10 diwrnod gwaith.
- Byddwn yn ceisio ailddefnyddio neu ailgylchu cymaint o'ch gwastraff ag y gallwn.