Meini Prawf 20mya Llywodraeth Cymru
Llyw.cymru - Pennu eithriadau i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig
- Mae ffyrdd cyfyngedig fel rheol yn ffyrdd mewn ardaloedd preswyl sydd â therfyn cyflymder o 30mya ar hyn o bryd
- Dylid gosod terfyn cyflymder o 20mya pan geir posibilrwydd o gymysgedd o gerddwyr, beicwyr a cherbydau yn rheolaidd, gyda therfyn o 30mya yn cael ei ystyried pan geir tystiolaeth gref bod cyflymder uwch yn ddiogel
- Mae meini prawf ‘lleoliad’ wedi’u datblygu i benderfynu ymhle dylid gosod terfynau cyflymder o 20mya, gan ddarparu dull cyson ar draws Cymru
Meini Prawf Lleoliad
O fewn taith gerdded 100 metr i…
- Unrhyw leoliad addysgol e.e. sefydliad addysg gynradd, addysg uwchradd, addysg bellach neu addysg uwch
- Unrhyw ganolfan gymunedol
- Unrhyw ysbyty
- Lle mae nifer yr eiddo preswyl a/neu fanwerthu sy’n wynebu ffordd yn fwy nag 20 adeilad fesul km
Meini prawf 20mya ychwanegol posibl
Mae’n bosibl bod darnau o ffyrdd ble ceir galw mawr (posibl) am gerdded a beicio nad ydynt yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf lleoliad, ond ble mae terfyn cyflymder o 20mya yn briodol:
- tir bob ochr i briffordd yn barcdir agored a/neu’n gaeau chwarae sy’n cael eu defnyddio’n aml gan bobl ar droed neu feic
- os ceir mynediad a ddefnyddir yn aml i ysgol neu ysbyty ar hyd y ffordd, hyd yn oed os yw’r mynediad hwn yn bellach na 100 metr o’u prif fynediad
- y briffordd yn llwybr teithio llesol dynodedig
- os yw nifer a/neu fath y damweiniau ar hyd y ffordd yn golygu y byddai terfyn cyflymder o 20mya yn darparu diogelwch sylweddol a buddiannau eraill i ddefnyddwyr y ffordd a’r gymuned