Er mwyn creu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig rhaid dilyn proses statudol ffurfiol. Mae GRhT yn ddogfennau cyfreithiol ysgrifenedig y mae’n rhaid derbyn gwrthwynebiadau, neu sylwadau o gefnogaeth iddynt, yn ysgrifenedig i’r cyfeiriad a nodir, ar neu cyn y dyddiad cau penodedig.
Yn dilyn y dyddiad cau mae gwrthwynebiadau neu sylwadau o gefnogaeth wedyn yn destun proses statudol ffurfiol, a all gymryd peth amser i'w chwblhau, yn dibynnu ar nifer yr ymatebion a dderbyniwyd a/neu eu cymhlethdod.
Mae’r broses ffurfiol ar gyfer creu GRhT o’r dechrau i’r diwedd yn cynnwys:
- Rhoi Hysbysiad o Gynnig yn y wasg leol am gyfnod statudol isafswm o 21 diwrnod pryd y gellir cyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol yn erbyn y cynigion. Rhoddir Hysbysiad o Gynnig ar y safle hefyd, ac mae pecyn gwybodaeth ar gael ar-lein ac yn y Ganolfan Gyswllt berthnasol, i'r cyhoedd ei archwilio.
- Bydd unrhyw wrthwynebiadau (neu sylwadau o gefnogaeth) a ddaw i law yn ystod y cyfnod hwn wedyn yn cael eu hystyried yn ddiduedd gan yr Awdurdod, a bydd Adroddiad Dirprwyo yn cael ei gwblhau yn amlinellu penderfyniad yr Awdurdod ynghylch a ddylid gwrthod neu gadarnhau unrhyw wrthwynebiadau unigol a dderbyniwyd. Rhaid i'r adroddiad hwn wedyn fynd drwy'r prosesau llywodraethu gofynnol.
- Cwblheir Gorchymyn Terfynol a Hysbysiad o Wneud. Rhoddir Hysbysiad o Wneud ar y safle, ac mae pecyn gwybodaeth ar gael ar-lein ac yn y Ganolfan Gyswllt berthnasol, i'w archwilio gan y cyhoedd.
- Mae'r Gorchymyn yn cael ei selio gan yr Adran Gyfreithiol.
- O fewn 14 diwrnod i'r Gorchymyn gael ei selio gan adran gyfreithiol Cyngor Sir y Fflint, bydd ymateb ysgrifenedig llawn yn cael ei ddarparu i'r Gwrthwynebwyr neu'r ymatebwyr i gefnogi'r Gorchymyn.
- Ar ôl cwblhau'r camau uchod, bydd gwaith yn dechrau ar y safle.
Hyd nes y bydd y broses ymgynghori statudol wedi'i chwblhau, nid yw'n bosibl dweud pa ffyrdd a awgrymir fydd yn newid i 30mya, ond i'r rhai sy'n newid, bydd hyn yn golygu y byddant yn rhagosodedig i 20mya ar 17 Medi ac ni fyddant yn cael eu newid i 30mya tan mae'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig wedi'u rhoi ar waith.