Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'feini prawf eithriadau' sy'n nodi sut gall awdurdodau priffyrdd gyflwyno eithriadau mewn perthynas â therfynau cyflymder 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.
Y meini prawf ar gyfer rhoi terfyn cyflymder 20mya ar waith
Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, rhaid i bob ‘ffordd gyfyngedig’ fod yn 20mya yn ddiofyn. Mae ffyrdd cyfyngedig fel rheol yn ffyrdd mewn ardaloedd preswyl ac yn cael eu diffinio gan bresenoldeb ‘system o oleuadau stryd’ â lampau sydd ddim mwy na 183 metr oddi wrth ei gilydd.
Dylid gosod terfyn cyflymder o 20mya pan geir posibilrwydd o gymysgedd o gerddwyr, beicwyr a cherbydau yn rheolaidd, gyda therfyn o 30mya yn cael ei ystyried pan geir tystiolaeth gref bod cyflymder uwch yn ddiogel.
Mae meini prawf ‘lleoliad’ wedi’u datblygu gan Lywodraeth Cymru i benderfynu ymhle dylid gosod terfynau cyflymder o 20mya, gan ddarparu dull cyson ar draws Cymru.
O fewn 100 metr ar droed i…
- Unrhyw leoliad addysgol e.e. addysg gynradd, uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch
- Unrhyw ganolfan gymunedol
- Unrhyw ysbyty
- Lle mae nifer yr eiddo preswyl a/neu fanwerthu sy’n wynebu ffordd yn fwy na 20 adeilad i bob km
Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘feini prawf eithriadau’ hefyd sy’n nodi sut gall awdurdodau priffyrdd gyflwyno eithriadau mewn perthynas â therfynau cyflymder 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.
- Disgwylir i’r mwyafrif o eithriadau gael eu gwneud ar ffyrdd dosbarth A neu B. Yn gyffredinol, dyma’r prif lwybrau sy’n cludo traffig drwy ardaloedd trefol.
- Traffig lleol sy’n defnyddio ffyrdd ‘dosbarth C’ a ‘ffyrdd di-ddosbarth’ gan amlaf, a dim ond eiddo preswyl maent yn eu gwasanaethu. Fel arfer, maent yn llwybrau pwysig i bobl sy’n cerdded a beicio, ble mae cerddwyr a/neu feicwyr a cherbydau modur yn cymysgu’n rheolaidd. Fel arfer, ystyrir nad yw eithriadau’n briodol ar gyfer y ffyrdd hyn.
- Dylai awdurdodau lleol ond ystyried cadw terfyn cyflymder o 30mya ar ffordd gyfyngedig pan geir tystiolaeth gref bod cyflymder uwch yn ddiogel a phan nad yw gofynion y ‘Meini Prawf Lleoliad’ yn berthnasol.
- Ni ddylai penderfyniadau ar eithriadau gael eu dylanwadu gan gyflymder presennol traffig.
- Nid yw’r ffaith bod darn o ffordd ar lwybr bws ynddo’i hun yn cyfiawnhau gwneud eithriad.
Er mwy pennu a yw eithriad arfaethedig yn gymwys, cwblhewch y cwestiynau canlynol.
Bydd angen llenwi holiadur ar wahân ar gyfer pob ffordd / darn o ffordd rydych yn eu cyflwyno ar gyfer ystyriaeth.
Pa rai o’r nodweddion a restrir isod, os o gwbl, sydd o fewn 100 metr i’r ffordd / darn o ffordd rydych yn eu cynnig ar gyfer eu heithrio?
- Mynediad i ysbyty neu ganolfan iechyd?
- Mynediad i ysgol gynradd neu uwchradd?
- Mynediad i adeilad/campws addysg bellach neu uwch?
- Mynediad i ganolfan gymunedol?
- A yw nifer yr eiddo preswyl a/neu fanwerthu sy’n wynebu ffordd yn fwy na 20 adeilad i bob cilomedr?
Cais am Asesu Ffordd 20mya