Alert Section

Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref - Adfywio Treffynnon

FundedByUKGovernment

Dymuniad Treffynnon i adael etifeddiaeth i’r dyfodol yn manteisio’n sylweddol ar gynllun llywodraeth

HolywellRegeneration1

Mae dymuniad un o drefi Sir y Fflint i greu etifeddiaeth gymunedol a gwella’i delwedd wedi cael hwb sylweddol, diolch i arian oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cafodd cynlluniau Treffynnon ar gyfer gwelliannau i’r dref eu helpu gan Raglen Fuddsoddi Canol Trefi Cyngor Sir y Fflint.

Derbyniodd y prosiect £1,500,432 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF). Gyda’r cymorth hwn, mae’r dref wedi gweithredu nifer o ymgyrchoedd cyffrous i godi ei phroffil.

Defnyddiwyd Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau Canol Tref (Town Centre Activities and Events Grant) i drefnu tair gŵyl boblogaidd a gwneud gwelliannau arwyddocaol dan y cynllun Porth Mynediad (Gateway Project).

Yn ystod 2024 bu Gŵyl Cadi Ha yn dathlu cerddoriaeth a dawnsio gwerin Cymru, trefnwyd Gŵyl Gerdd a Marchnad Crefftwyr yn Y Well Inn a chynhaliwyd Gŵyl Fwyd a Diod gyntaf Treffynnon.

Daeth mwy na 250 o bobl i’r Wŷl Fwyd a Diod ac mae cynlluniau i’w chynnal bob blwyddyn o hyn y mlaen.

Gan adeiladu ar lwyddiant y digwyddiadau yma, daeth y gymuned ynghyd i wella diwyg Gerddi’r Tŵr mewn mwy na dwsin o sesiynau gwirfoddoli.

Yn cael eu gweld gan lawer fel mynedfa bwysig i ganol y dref, bu disgyblion o Ysgol Treffynnon, busnesau lleol ac oedolion o’r gymuned yn datblygu dau lecyn gwyrdd oedd eisoes yn bodoli.

Crëwyd murlun yn dangos nodweddion Treffynnon, yn cynnwys y dociau, y bryniau, Dyffryn Maes Glas, Abaty Dinas Basing, Capel a Ffynnon Sanctaidd Gwenffrewi ac Eglwys Sant Iago – a’r cyfan yn gweithredu fel cofeb i’r cyfnod Covid.

Mae’r ardal yn coffau’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig, tra’n cynnig cyfleoedd i fyfyrio’n dawel a lle braf i gymdeithasu.

Yn y gofod gwyrdd presennol bydd gardd wedi ei thirlunio, yn cynnwys coed blodeuog, blychau i adar ac ystlumod, a chynefinoedd cyfeillgar i chwilod.

HolywellRegeneration2

Meddai Sian Birch, Swyddog Datblygu Prosiectau Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r datblygiadau hyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r dref.

“Mae ymdeimlad go iawn o falchder yn Nhreffynnon, diolch i’r gwaith a wnaed gyda chymorth arian y Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau Canol Tref.

“O ddysgu sgiliau newydd i ddenu rhagor o ymwelwyr, bu’n braf gweld y gymuned yn dod at ei gilydd ac uno tu ôl i bwrpas cyffredin.”

Ymhlith y cynlluniau eraill buddiol i’r dref sy’n cael eu gweithredu gyda chymorth y grant UKSPF y mae:

  • Grant Gwella Eiddo Canol Tref:
    Adfer hen siop Chatwins fel lle gwerthu nwyddau, gyda llety gwyliau uwchben.
  • Astudiaethau Buddsoddi yn y Dyfodol: 
    SaferStreets 5 yn cydariannu ymchwil i’r posibilrwydd o greu hwb cymunedol i geisio lleihau ymddygiad gwrth gymdeithasol, ac Astudiaeth Dyffryn Maes Glas yn edrych ar y posibilrwydd o greu cysylltiadau â’r tir o amgylch.
  • Buddsoddi mewn ardaloedd gwyrdd: 
    The planting of five trees in one or more schools across the town.
  • Hyrwyddo Marchnadoedd: 
    Penodi swyddog cysylltu a hyrwyddo i wella’r arlwy bresennol.
  • Creu Lleoedd:
    Yn unol â disgwyl Llywodraeth Cymru fod Cynlluniau Creu Lleoedd (Place Making Plans) yn cael eu paratoi, mae strategaeth Treffynnon wedi adnabod y prif nodau, yr amcanion, y weledigaeth a’r blaenoriaethau i lywio datblygiadau’r dyfodol ac amlygu’r cyfleoedd i ddenu arian adfywio.
  • Cefnogi busnesau:
    Wyth o fusnesau Treffynnon yn cymryd rhan mewn rhaglen wyth wythnos a redir gan Achub y Stryd Fawr / Save The High Street yn edrych pa mor ‘iach’ yw busnes y stryd fawr ac archwilio’r posibiliadau ar gyfer tyfu a datblygu.

Mae Martin Fearnley, dirprwy glerc / clerc cynorthwyol Cyngor Tref Treffynnon, hefyd yn falch iawn o’r gwelliannau a wnaed.

Meddai: “Bu’n wych gweld y datblygiadau yn Nhreffynnon a’r hwb a roddodd hynny i’r gymuned gyfan.

“Mae yna asbri newydd yn y dref, a hir y parhaed hynny.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae Treffynnon yn un o brif drefi’r sir ac felly mae’n hyfryd iawn gweld yr adfywiad hwn.

“Mae’r newidiadau eisoes yn drawiadol a braf gwybod fod mwy i ddod.

“Edrychaf ymlaen at weld effaith y buddsoddiad ariannol pan fydd pob dim wedi ei orffen.”