Cyfrif bendithion y cynllun Lluosi / Multiply
Datgloi potensial, gwella sgiliau trin arian mewn cyfnod o argyfwng costau byw, a gwella rhagolygon gyrfa.
Dyma lwyddiant y rhaglen Lluosi / Multiply sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy’r cwrs Rhifedd Byw / Numeracy For Life – cwrs ar lein ystwyth a di-dâl.
Dilynwyd y cynllun cefnogi gan fwy na 120 o oedolion 19 oed neu hŷn, sy’n byw yn Sir y Fflint a heb TGAU neu gymhwyster cyfatebol mewn mathemateg.
Yn cael ei redeg gan COPA (Hyfforddiant Gogledd Cymru / North Wales Training gynt), mae’r cwrs yn helpu pobl i reoli eu dyfodol a chynyddu eu hyder wrth ddelio â rhifau.
Mae’r rhaglen ar gael i unrhyw un sy’n dymuno:
- Gwella eu sgiliau rhifedd fel rhiant
- Paratoi i fyw’n annibynnol
- Rhoi hwb i’w gyrfa drwy wella eu sgiliau
- Datblygu eu sgiliau er mwyn llwyddo i gael swydd
- Gwella sgiliau rhifedd o fewn y gweithle
- Paratoi ar gyfer asesiad sgiliau sylfaenol
- Meistroli rhifedd er mwyn rheoli eu harian yn well
Bu’r adborth yn llawn canmoliaeth, gydag un dysgwr yn dweud: “Rwy’n argymell pobl yn gryf i gwblhau’r cwrs Lluosi, nid dim ond er mwyn eich helpu i gael gwaith, ond hefyd i allu rheoli eich arian eich hun yn well.
“Yn yr argyfwng costau byw presennol, mae deall sut i gynilo a beth yw arwyddocâd canrannau llog o gymorth mawr i arbed arian a dod i ben.”
Hanes tebyg oedd gan un arall a ddilynodd y cwrs. Meddai: “Wrth ddilyn y cwrs Lluosi, llwyddais i wella fy sgiliau rhifedd a rhoddodd imi’r hyder a’r gallu ymarferol i daclo heriau mathemategol y byd go iawn.”
Dywedodd myfyriwr arall ar y cwrs: “Roedd Lluosi yn ddefnyddiol iawn yn fy helpu i ailafael yn fy sgiliau mathemateg. Roedd yn gwrs effeithiol a hawdd ei ddeall.
“Hoffwn y ffaith fod hwn yn gwrs ar lein, fel fy mod yn gallu ei orffen yn amser sbâr a mynd a dod ar adegau cyfleus.
“Ac roedd natur y cwestiynau’n syml a hawdd eu deall.”
Bu’r rhaglen o gymorth hefyd i gyflogwyr uwchsgilio eu gweithwyr gan gynyddu cynhyrchedd, lleihau camgymeriadau, lleihau costau a gwella ansawdd penderfyniadau.
Mae pennaeth contractau COPA, Ruth Collinge, yn falch o’r dylanwad a gafodd Lluosi ar draws y rhanbarth
Meddai: “Llwyddwyd i helpu mwy na 120 o bobl trwy gynyddu eu hyder mewn mathemateg.
“Roedd llawer o resymau pam fod unigolion yn awyddus i ddilyn y cwrs – rhai am helpu eu plant, ac eraill am wella eu gallu eu hunain neu baratoi ar gyfer pethau fel dilyn prentisiaeth i roi hwb i’w gyrfa.
“Mae’n wych bod wedi helpu cymaint o bobl yn eu hymdrech i wella nhw eu hunain.”
Derbyniodd y prosiect £113,585 o gyfran Sir y Fflint o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae’r cwrs hwn yn enghraifft amlwg o ddylanwad y gronfa UKSPF o fewn y gymuned.
“Rydym angen sgiliau mathemateg wrth fyw ein bywydau o ddydd i ddydd - o brynu a thalu am nwyddau i fesur eitemau yn y cartref. Felly mae’n wych medru helpu pobl isel eu hyder, neu heb sgiliau mathemategol mewn rhai achosion.”