Alert Section

Rhwydwaith Sgiliau Cyflogwyr - Gofal Iechyd Reacta

FundedByUKGovernment

Cwmni Cymreig llwyddiannus yn uwchsgilio ei staff er mwyn gweithio’n well

Reacta
Helen Payne, Sam Rosborough and Stacey Maudsley

Mae cwmni diagnosteg clinigol Reacta Healthcare yn trawsnewid bywydau rhai gydag alargedd bwyd ym mhob rhan o’r byd ac yn gweld ei hun fel un o gwmnïau mwyaf blaenllaw y diwydiant fferyllol. 

Gyda chymorth rhaglen Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru, a redir gan Goleg Cambria, llwyddodd y cwmni o Lannau Dyfrdwy i uwchsgilio mwy na 50 y cant o’i 60 aelod o staff drwy gynnal 18 o gyrsiau hyfforddi pwrpasol.

Wedi ei sefydlu yn 2013, mae’r cwmni’n gynhyrchydd allweddol o brydau herio (challenge meals) a ddefnyddir i asesu diogelwch ac effeithiolrwydd triniaethau newydd ar gyfer alergedd bwyd.

Yn Sir y Fflint, derbyniodd y prosiect Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru £975,893 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF), a manteisiodd Reacta Healthcare ar gyfres o raglenni datblygiad proffesiynol a gyflwynwyd yn rhithiol ac o fewn y cwmni, a hynny’n ddi-dâl.

Mae saith aelod o staff Reacta Healthcare wedi cymhwyso fel hyrwyddwyr iechyd meddwl drwy’r cwrs Cyflwyniad i Hyrwyddwyr Iechyd. Rŵan cânt redeg ymgyrchoedd llesiant mewnol (internal wellbeing), yn cynnwys iechyd dynion ym mis Tachwedd.

Dysgwyd am arferion diogelwch da mewn cwrs Gweithio’n Ddiogel IOSH (Institution of Occupational Safety and Health) ac fe gafodd sgiliau rheoli prosiectau eu cryfhau mewn cwrs Prince2 Practitioner.

Buddsoddodd y cwmni ymhellach yn ei ddyfodol trwy i’w arweinwyr a’i ddarpar arweinwyr ddilyn cyrsiau hyd at lefel pedwar o eiddo’r Institute of Leadership and Management (ILM). Cafodd rhai aelodau staff ddyrchafiad mewnol o ganlyniad.

Meddai Sophie Griffiths, Pennaeth Pobl cwmni Reacta Healthcare: “Gyda chymorth Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru llwyddwyd i gryfhau ein gweithlu a mapio ein anghenion mewnol. Roedd yr hyfforddiant yn addas ac o ansawdd uchel, a bydd tu hwnt o werthfawr yn y tymor hir.

“Roedd ein timau cydwybodol yn awyddus iawn i gael eu huwchsgilio ac mae rhai wedi ymgymryd â thasgau newydd a derbyn rhagor o gyfrifoldebau o ganlyniad.

“Datblygiad braf oedd sefydlu tîm sy’n rhedeg sesiynau llesiant rheolaidd i’n staff. Mae gennym well dealltwriaeth yn awr o sut orau i edrych ar ôl ein gweithwyr.

“Mae’r hyfforddiant hefyd wedi ein helpu i wneud defnydd gwell o dechnoleg gwybodaeth drwy wella ein dealltwriaeth o feddalwedd Microsoft, yn cynnwys Excel a PowerPoint, sy’n arfau hanfodol yn ein gwaith bob dydd.”

Meddai Rachel Mardon, swyddog cefnogi prosiectau Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru: “Ar adeg economaidd heriol fel hyn, mae’n bwysig helpu cwmnïau ym mhob rhan o Ogledd Cymru i ffynnu. Bu arian UKSPF yn allweddol yn ein galluogi i gyflwyno cyrsiau hyfforddi heb greu straen ariannol i fusnesau’r ardal.

“Un enghraifft yn unig yw effeithiau cadarnhaol y cynllun yn Reacta Healthcare, ac edrychwn ymlaen at ddyfodol disglair i fusnesau Sir y Fflint.”

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae’n bwysig rhoi’r amrediad angenrheidiol o sgiliau i gwmnïau lleol fel eu bod yn llwyddo, nid yn unig i adeiladu gweithlu medrus, ond hefyd i sbarduno twf rhanbarthol.

“Gyda hynny mewn golwg, mae’n bleser mawr gweld y cynnydd a wnaeth Reacta Healthcare tuag at gyrraedd ei amcanion.”