Dangos Llwybr yr Arfordir yn fyd eang ar y we a gosod gwell arwyddion i ddenu ymwelwyr i Barc Arfordir Sir y Fflint
Bellach gallwch ‘gerdded’ ar y we y rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy’n rhedeg drwy Sir y Fflint, fel rhan o fuddsoddiad ehangach i sefydlu’r sir fel cyrchfan boblogaidd i ymwelwyr a dwyn sylw’r byd i atyniad newydd Parc Arfordir Sir y Fflint.
Trwy ddefnyddio Google Street View, gall pobl ddilyn y llwybr, cynllunio eu hymweliad ac ail fyw golygfeydd eu plentyndod neu’r pleser a gawsant wrth gerdded yr ardal ar wyliau teuluol.
Yn ogystal â rhoi llwybr yr arfordir ar lein, defnyddiwyd rhan o’r buddsoddiad i lunio arwyddion newydd a fydd yn croesawu trigolion ac ymwelwyr i Barc Arfordir Sir y Fflint gan greu argraff dda o’r cychwyn cyntaf.
Mae’r arwyddion newydd yn dwyn sylw at nodweddion fel goleudy traeth Talacre, dŵr i gynrychioli aber Afon Dyfrdwy a’r môr, a bryniau i gynrychioli’r llu o ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol.
Mae’r buddsoddiad yn rhan o brosiect sirol o’r enw ‘Cysylltu â Chefn Gwlad a’r Arfordir’, a dderbyniodd £335,040 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF), gyda thimau cynllunio, amgylchedd ac economi Cyngor Sir y Fflint yn arwain y datblygiad.
Mae’r Cynghorydd Glyn Banks, yr aelod cabinet dros wasanaethau stryd a chludiant, yn hyderus y bydd y prosiect yn cael effaith gadarnhaol ar dwristiaeth, yr economi, iechyd a lles trigolion y sir.
Meddai: “Rydym o ddifrif ynghylch dangos Sir y Fflint fel y lle gorau i fyw ac ymweld, a bydd hyn o gymorth i gyrraedd y nod.
“Bydd cynnwys ein rhan ni o Lwybr Arfordir Cymru ar Google Street View yn helpu pobl leol i adnabod yn well y pethau hyfryd sydd ar garreg eu drws, neu gynllunio i fynd am dro efo’r teulu, ffrindiau ac anifeiliaid anwes. Bydd hefyd hyrwyddo Parc Arfordir Sir y Fflint
“Gall pawb sy’n ystyried dod i’r ardal weld ymlaen llaw mor hyfryd yw ein llwybrau cerdded a’n golygfeydd anhygoel, gan greu awydd arnynt i ddod a gweld drostynt eu hunain.
“Mae argraffiadau cyntaf yn allweddol a bydd yr arwyddion newydd yn atgyfnerthu’r ymdeimlad o gyrraedd lle braf trwy ddwyn sylw at nodweddion trawiadol fel y goleudy, y dŵr a’r bryniau.
“Roedd yr hen arwyddion ‘Croeso i Sir y Fflint’ yn dangos eu hoed ac mewn cyflwr gwael. Gyda chymorth y grant UKSPF cafodd pob dim ei ailddylunio gyda staff mewnol y cyngor sir yn gyfrifol am y gwaith graffeg ac am greu a gosod yr arwyddion newydd.”
Cafodd mwy na 35km o Lwybr Arfordir Cymru ei ffilmio a’i osod ar Google Street View a gosodwyd 16 o arwyddion newydd.
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: “Mae’r arwyddion newydd yn hardd dros ben. Wrth gyrraedd, fe sylweddolwch lle mor braf ydyw hwn i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
“Gall pobl rŵan weld y llwybr ymlaen llaw ar lein i’w helpu i gynllunio eu taith. Bydd yn annog pobl o bell ac agos i fwynhau Parc Arfordir newydd Sir y Fflint a cherdded ein harfordir er budd i’w lefelau gweithgaredd, iechyd, lles a thwristiaeth.
“Mae’n enghraifft wych arall o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) yn cyfoethogi arlwy’r sir.”
Edrychwch ar ran Sir y Fflint o Lwybr Arfordirol Cymru ar Google Street View yma.