Mae mentora yn broses gynorthwyo a ddefnyddir mewn sawl sector a lleoliad gwahanol, felly mae yna sawl dull ac arddull.
Mae ein dull yn seiliedig ar yr egwyddorion bod mentora yn berthynas wirfoddol, barchus a phwrpasol. Cytunir ar y diben ar y dechrau ac mae’n seiliedig ar beth mae’r person ifanc yn ei fynegi a hefyd ar farn yr atgyfeiriwr a/neu deulu neu ofalwyr. Mae’r diben yn gallu newid a datblygu wrth i’r berthynas fentora ddatblygu.
Rôl mentor gwirfoddol yw cyfarfod person ifanc yn rheolaidd, datblygu perthynas bwrpasol drwy ddibynadwyedd a pharch, cynllunio sesiynau mentora o amgylch eu hanghenion a diddordebau a’u hannog nhw i roi cynnig ar brofiadau newydd a gosod amcanion i’w hunain.
Gall mentor gefnogi person ifanc mewn sawl ffordd:
- Magu hyder
- Lleihau arwahanrwydd cymdeithasol
- Cymorth emosiynol
- Dilyn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden cadarnhaol
- Cefnogaeth gyda pherthnasoedd teulu a ffrindiau
- Sgiliau bywyd a chymdeithasol: dod ymlaen gydag eraill, rheoli ymatebion emosiynol, coginio, rheoli arian
- Siarad, cerdded, gweithgareddau ymlacio
- Setlo mewn / parhau i setlo mewn llety
- Cynllunio ar gyfer cwrs coleg neu hyfforddiant yn y dyfodol