Alert Section

Gymraeg i'r Fusnes


Sut y gall defnyddio Cymraeg yn y gweithle helpu eich busnes? 

Mae’n creu gwahaniaeth masnachol sy’n dangos ewyllys da a ffyddlondeb ymysg cwsmeriaid ar hyn o bryd;
Gall defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg gyda’i gilydd roi mantais gystadleuol i chi a'ch helpu i ddenu cwsmeriaid newydd;
Mae’n gwella safon eich gwasanaeth;
Mae’n gwella digwyddiadau cysylltiadau cyhoeddus;
Mae eich cwsmeriaid yng Nghymru, p’un ai ydyn nhw'n siarad Cymraeg ai peidio, yn cefnogi defnyddio’r Gymraeg ac yn mwynhau ymwneud â busnesau sydd hefyd yn ymdrechu i wneud hynny.


Cymraeg – mantais i ddelwedd cwmnïau a chysylltiadau cyhoeddus

Mae ymchwil yn dangos bod 84% o siaradwyr Cymraeg yn ffafrio’r cwmnïau sy’n parchu’r Gymraeg. Gall darparu gwasanaeth dwyieithog ennill ffyddlondeb cwsmeriaid sy’n chwilio am gynnyrch neu wasanaeth sy’n cael ei ddarparu yn eu hiaith ddewisol. Nid siaradwyr Cymraeg yw’r unig rai sy’n mwynhau gweld a chlywed yr iaith – mae’r mwyafrif o Gymry di-Gymraeg ac ymwelwyr yn mwynhau hynny hefyd. 


Cymraeg – iaith y cwsmer

Mae cynnig dewis iaith yn arfer da yng nghyd-destun cydraddoldeb a gofal cwsmer. Mae’n dangos bod busnesau’n parchu dewisiadau ieithyddol y cwsmer. Drwy ddefnyddio iaith yn weledol a defnyddio sgiliau eu staff dwyieithog, gall cwmnïau gynnig gwasanaeth gwell i gwsmeriaid y mae'n well ganddynt siarad Cymraeg. 


Cymraeg – iaith busnes

Mae’r Gymraeg yn gyfrwng i fusnes ac mae’n iaith fodern, fyw sy’n ffynnu yn nifer o agweddau bywyd. Gellir defnyddio Cymraeg yn weledol, ar lafar neu’n fewnol mewn busnesau ac mae nifer gynyddol o gwmnïau yn defnyddio’r iaith gan eu bod yn gwybod ei bod yn fuddiol i’w busnes.