Alert Section

Uned Fenthyca Arian Anghyfreithlon Cymru


Curwch y siarcod...ymladdwch yn ol!

Os ydych wedi dioddef oherwydd benthycwyr didrwydded, neu'n tybio bod benthycwyr didrwydded yn gweithredu yn eich ardal, ffoniwch Linell Gymorth 24 awr Uned Fenthyca Arian Anghyfreithlon Cymru: 0300 123 3311

Mae pob galwad yn gwbl gyfrinachol.

Bydd Swyddogion Arbenigol wrth law i roi cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr, gan gynnig cyngor ynghylch dyledion a phroblemau eraill.

Mae'n bwysig gwybod nad yw benthyca gan fenthyciwr didrwydded yn anghyfreithlon. Y benthyciwr sy'n torri'r gyfraith.Ni fydd WIMLU yn cymryd camau yn erbyn unrhyw unigolyn sydd wedi benthyca arian, ond yn ceisio rhoi cyngor i chi ar gyfer y dyfodol.

Cofiwch fod benthycwyr didrwydded yn codi cyfraddau llog gormodol a all fod yn ganrannau o filoedd. Mae hyn yn creu sefyllfa lle na all yr unigolyn sy'n benthyca dalu'r benthyciad yn ôl. Mae'n rhaid i rai pobl sy'n benthyca droi at ddwyn neu ddelio cyffuriau er mwyn gallu ad-dalu'r benthyciad. Mae rhai dioddefwyr benywaidd wedi gorfod perfformio cymwynasau rhywiol am fethu taliadau.

Os yw dioddefwyr yn cydymffurfio nid ydynt yn cael eu hesgusodi o'u dyled, ac mae'r benthyciwr didrwydded yn arswydo ac yn dychryn dioddefwyr.

Ein gobaith yw y bydd Cymru'n parhau i dynnu ynghyd i Oresgyn y Benthycwyr Didrwydded a thalu'r pwyth yn ôl!

Ffynonellau eraill o gyngor

Gov.uk nifer o dudalennau gwe defnyddiol a chysylltiadau i sefydliad arall sy'n rhoi cyngor ar sut i ddelio â dyled a ydych yn unigolyn neu'n fusnes.

Llinell Ddyled Genedlaethol am ddim yn cynnig, ac yn annibynnol cymorth cyfrinachol dros y ffôn i bobl yn Lloegr, yr Alban a Chymru.Gallwch alw eu llinell gymorth a hefyd lawrlwytho gyhoeddiadau oddi ar eu gwefan. 0808 808 4000

Mae'r Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru yn cynnig cefnogaeth i unigolion atheuluoedd sy'n ei chael yn anodd talu eu morgais neu daliadau rhent. 0800 107 1340


Cysylltwch â ni

Ffôn Cyngor i ddefnyddwyr: 08454 04 05 06

Ffôn Ymholiadau busnes a materion eraill: 01352 703181

E-bost: safonau.masnach@siryfflint.gov.uk

Ysgrifennu at neu ymweld: 

Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint,
Ty Dewi Sant,
Parc Dewi Sant,
Ewlo,
Sir y Fflint
CH5 3FF

Oriau agor ein swyddfa yw 8.30am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.