Sut ac ymhle gallaf i dalu
Sut allaf dalu?
Rydym yn cynnig y dulliau canlynol o dalu anfonebau mân ddyledwyr:
Ar-lein
Gallwch Dalu Ar-lein (ffenestr newydd) gyda’r mwyafrif o gardiau credyd a debyd.
Bancio ar y rhyngrwyd / dros y ffôn
Gallwch wneud taliad trwy ddefnyddio gwasanaeth bancio dros y ffôn neu dros y rhyngrwyd. Rhowch fanylion banc y Cyngor – Rhif Didoli 541010, Rhif Cyfrif 72521775, a nodwch eich Rhif Cwsmer a rhif yr anfoneb fel y’u gwelir ar eich anfoneb.
Archeb Sefydlog
I drefnu talu’ch anfoneb/cyfrif trwy archeb sefydlog bydd angen i chi gysylltu â’r Tîm Dyledwyr ar 01352 703607, a fydd yn trefnu cynllun taliadau ar eich cyfer ac yn postio ffurflen atoch i’w llofnodi a’i dychwelyd.
Banc
Gallwch wneud taliad ag arian parod neu siec, ond mae’n bosibl y codir tâl am y gwasanaeth hwn. Mae’n bwysig eich bod yn darparu manylion banc y Cyngor, - Rhif Didoli 541010, Rhif Cyfrif 72521775 ynghyd â’ch Rhif Cwsmer a rhif yr anfoneb fel y gwelir ar eich anfoneb.
Trwy’r post
Gallwn dderbyn sieciau trwy’r post, rhowch eich Rhif Cwsmer a rhif yr anfoneb ar gefn y siec a’i hanfon at Derbynwyr Arian, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NA.
Sylwch:
Os ydych yn talu mwy nag un anfoneb ag un siec, dangoswch yn glir y symiau a delir gyferbyn â’r cyfeirnodau anfoneb perthnasol.
Sir y Fflint yn Cysylltu