Alert Section

Mae Cyflwyniad i Mân Ddyled


Cyfeirir at fân ddyledion yn aml fel anfonebau amrywiol y gellir eu hanfon am nifer o resymau, ac mewn perthynas ag ystod eang ac armywiol o wasanaethau.

Os ydych wedi derbyn anfoneb, efallai ei bod yn ymwneud â gwasanaeth yr ydych wedi gwneud cais amdano gan y Cyngor. Mae gofyn i’r Cyngor godi am y gwasanaeth a ddarperir ac mae’n gwneud hynny’n bennaf trwy anfon anfoneb. Rhestrir isod enghreifftiau o rai o’r gwasanaethau y gallech wneud cais amdanynt ac y byddai tâl yn cael ei godi amdanynt:

  • Llogi cyfleusterau hamdden, e.e. neuaddau neu gaeau pêl-droed
  • Rheoli/trin plâu
  • Costau llety a gofal i’r henoed

Fel arall efallai y byddwch yn derbyn anfoneb i adfer arian/budd-daliadau nad oedd gennych hawl i’w derbyn, neu o ganlyniad i ofyniad deddfwriaethol neu gytundeb contractiol. Rhestrir isod enghreifftiau o resymau dros anfon anfoneb:

  • Budd-daliadau tai a or-dalwyd
  • Casglu sbwriel busnes a hurio biniau
  • Grantiau a or-dalwyd
  • Taliadau rhent masnachol
  • Cerbydau a adawyd
  • Taliadau archwiliadau cynllunio
  • Prydlesau a thrwyddedau
  • Ail-godi tâl am eiddo tai

    Mae anfonebau’n daladwy cyn pen 30 diwrnod ar ôl i’r anfoneb gael ei hanfon a bydd fel arfer yn dangos hynny’n glir ar yr anfoneb. Mae manylion ynglŷn â sut a ble i dalu wedi’u hargraffu ar gefn pob anfoneb a hefyd o dan “Sut allaf dalu?”