Os ydych yn teimlo bod angen adnewyddu neu osod goleuadau stryd ar eich ffordd, dylech ysgrifennu at y Rheolwr Goleuo Strydoedd, Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, Sir y Fflint CH7 6LG. Bydd eich cais yn cael ei asesu i benderfynu a yw'n bodloni'r meini prawf ar gyfer goleuadau newydd neu well.
Rhaglen adnewyddu colofnau
Mae rhaglen dreigl flynyddol wedi'i chynllunio i nodi ac adnewyddu colofnau neu asedau goleuo (o fewn cylch gwaith Cyngor Sir y Fflint) y dengys eu bod yn simsan ac yn anniogel.
Y meini prawf ar gyfer adnewyddu yw:
- Colofnau hen, wedi dirywio ac yn cracio sy’n dod i ddiwedd eu hoes
- Colofnau metel wedi cyrydu
- Bylchau anghywir rhwng colofnau presennol
- Systemau trydanol nad ydynt yn cyrraedd y safon
- Dyluniadau ar gynllun hen ffasiwn
- Lefelau goleuo anghywir ac aneffeithiol
- Math neu uchder colofnau
- Arbedion ynni
Byddwn yn cyflawni’r gwaith uwchraddio ac adnewyddu (o fewn cyfyngiadau cyllidebol) drwy:
- Ymgymryd ag unrhyw waith adnewyddu systemau i’r safonau cyfredol
- Defnyddio'r ffynonellau goleuo cywir ar gyfer y lleoliadau cywir
- Ystyried mannau tywyll lleol i’w gwella
- Ystyried cynlluniau diogelwch y Gymuned a'r Heddlu
Gosod goleuadau newydd
Gellir gosod goleuadau stryd fel mesur diogelwch ar ffyrdd lle mae angen lleihau damweiniau yn ystod y nos, ac yn unol â gofynion diogelwch traffig eraill.
Gellir gosod goleuadau stryd newydd neu well yn yr ardaloedd problemus hynny a flaenoriaethwyd gan y partneriaethau trosedd ac anhrefn.
Caiff goleuadau stryd eu gosod ar stadau tai newydd lle mae'r strydoedd (neu'r llwybrau troed) i'w mabwysiadu gan Gyngor Sir y Fflint. Bydd yn rhaid i ddatblygwyr osod goleuadau yn unol â'n gofynion, a nhw sy’n gyfrifol am yr holl waith cynnal a chadw hyd nes y bydd yr awdurdod yn mabwysiadu'n ffurfiol. Dim ond ar ôl archwiliad trylwyr gan un o'n cydlynwyr goleuadau stryd y bydd hyn yn digwydd.