Os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru a’ch bod chi’n 60 oed neu’n hŷn, gallwch deithio am ddim ar y rhan fwyaf o’r gwasanaethau bws yng Nghymru a’r gororau. Fe allwch chi hefyd deithio ar drên yn rhatach neu am ddim. Gallwch wneud cais am eich Cerdyn Bws gyda Thrafnidiaeth Cymru drwy glicio’r botwm isod.
Ymgeisio am Gerdyn Bws 60+ (dolen allanol)
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y Cerdyn Bws 60+, cysylltwch â Thrafnidiaeth Cymru
Cerdyn Bws Anabl a Chydymaith
Os ydych chi’n bodloni meini prawf cymhwyso’r Llywodraeth o ran anabledd, gallwch deithio am ddim ar fwyafrif y gwasanaethau bws yng Nghymru a’r ffiniau a gallwch deithio’n rhatach neu am ddim ar lawer o wasanaethau rheilffordd. Gallwch ymgeisio am Gerdyn Bws Anabl a Chydymaith drwy anfon neges e-bost ConcessionaryTravel@siryfflint.gov.uk