Gwasanaeth Ffonio a Theithio Sir y Fflint ar gyfer apwyntiadau meddygol y GIG O 2 Mehefin 2025
Gwasanaeth o ddrws i ddrws yw hwn ar gyfer preswylwyr Sir y Fflint nad ydynt yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus yn Sir y Fflint neu pan nad oes gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn yr ardal y maen nhw’n byw ynddi. Gofynnir i breswylwyr gysylltu â’r darparwyr gwasanaeth canlynol yn y lle cyntaf:
Os nad oes cludiant ar gael gyda'r darparwyr gwasanaeth hyn, gall trigolion wedyn fynd ymlaen ag ymholiad am gludiant ar wasanaeth Ffonio a Theithio Cyngor Sir y Fflint.
Bydd y gwasanaeth yn cynorthwyo gyda theithio i Apwyntiadau’r GIG yn Sir y Fflint yn unig, ac eithrio Ysbyty Countess of Chester, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd gan nad oes ysbyty gydag adran ddamweiniau ac achosion brys yn Sir y Fflint. Ni fyddai atgyfeiriadau i ysbytai eraill tu allan i’r sir (ar wahân i’r dair ysbyty a restrir uchod) yn gymwys.
Apwyntiadau cymwys
- Apwyntiadau GIG yn Sir y Fflint
- Apwyntiadau ysbyty
- Deintydd GIG
- Apwyntiadau Llygaid GIG
- Prawf Y Fron Cymru
- Pigiadau Covid yn Sir y fflint
Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 24 awr o rybudd wrth archebu taith ac ni fydd unrhyw archebion a wneir ar ôl 16:00 yn cael eu cofrestru nes y diwrnod gwaith nesaf. Efallai y byddwch angen prawf o’r apwyntiad wrth archebu.
Ffioedd
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer aelodau yn unig, gyda ffi danysgrifio flynyddol o £20.
Gallwch dalu dros y ffôn neu drwy siec yn daladwy i ‘Cyngor Sir y Fflint’.
Yna bydd ffi i bob siwrnai o £2.50 am hyd at 5 milltir ac yna 50c fesul milltir ar ôl 5 milltir.
Wrth gofrestru, bydd gofyn i aelodau ateb y cwestiynau canlynol er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r meini prawf i ddefnyddio’r gwasanaeth:
- Ble ydych chi’n byw?
- I le rydych chi’n teithio?
- Beth yw pwrpas y daith?
- Ai hwn yw’r tro cyntaf yr ydych chi wedi gorfod gwneud y daith hon?
- Oes yna gar y gallwch chi ei ddefnyddio?
- Allwch chi ddefnyddio gwasanaeth bws?
- Os ydych chi’n mynd i apwyntiad yn yr ysbyty, a ydych chi’n gymwys i ddefnyddio Gwasanaeth Cludiant Claf Gwasanaeth Ambiwlans Cymru?
Gallwch wneud cais i fod yn aelod o Wasanaeth Ffonio a Theithio Cyngor Sir y Fflint drwy ffonio’r Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234 (rhwng 9am a 5pm dydd Llun i ddydd Gwener).