Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus
Beth yw Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus?
Mae Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn delio â niwsans penodol sy’n effeithio ar ansawdd bywyd unigolion, drwy osod amodau ar ddefnyddio ardal sy'n agored i bawb. Er enghraifft, cyfyngu ar yfed alcohol mewn man cyhoeddus.
Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus – Maes Parcio Canolfan Siopa Bwcle
Yn dilyn cwynion gan aelodau o’r cyhoedd, ac ymchwiliad ac ymgynghoriad dilynol a gynhaliwyd gan Gyngor Sir y Fflint, bydd Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus, dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014, yn dod i rym ar 24 Tachwedd 2017 ar gyfer Maes Parcio Canolfan Siopa Bwcle a bydd yn parhau mewn grym am gyfnod o dair blynedd.
Bydd y gorchymyn yn gwahardd unigolion yn y maes parcio rhag gwneud y canlynol mewn ceir:
(a) Refio injan (gan achosi niwsans)
(b) Cyflymu sydyn a chyflymu ailadroddus (gan achosi niwsans)
(c) Rasio
(d) Chwarae cerddoriaeth mewn cerbyd modur (gan achosi niwsans cyhoeddus)
(e) Canu corn (gan achosi niwsans cyhoeddus)
Bydd torri unrhyw un o’r amodau uchod yn arwain, ar gollfarn, at ddirwy hyd at lefel 3 o’r raddfa safonol neu at Rybudd Cosb Benodedig o hyd at £75.
Mae hysbysiad o’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus a map o’r ardal dan gyfyngiadau wedi eu hamgáu isod.
Hysbysiad - Maes Parcio Canolfan Siopa Bwcle (PDF)
Newid Gorchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig
Cyfyngu ar Yfed Alcohol: Trosglwyddo i Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar 20 Hydref 2017
Ar 20 Hydref 2017 bu i Orchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig Sir y Fflint, a oedd yn rhoi pwerau i swyddogion dynodedig atal pobl rhag yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus, drosglwyddo’n awtomatig i Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus dan Adran 75(3) Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
Nid yw’r gorchymyn hwn yn golygu newid yn yr amodau
Nid yw amodau’r Gorchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig wedi newid. Mae gwrthod ildio alcohol i’r heddlu neu berson awdurdodedig arall, os ceir amheuaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn dal yn drosedd yn y sir.