Rydym yn cynnal archwiliadau rheolaidd o’n holl ffyrdd wedi'u mabwysiadu ffyrdd wedi'u mabwysiadu a phalmentydd drwy gydol y flwyddyn.
Gall tyllau ffurfio yn y ffordd dros gyfnod byr o amser, gan ymddangos rhwng archwiliadau hyd yn oed, ac felly gall olygu nad yw’r Cyngor yn gwybod amdanynt.
Ni allwn atgyweirio tyllau ar ffyrdd preifat na ffyrdd heb eu mabwysiadu.
Rhoi gwybod am dyllau yn y ffordd neu ddiffygion ar balmentydd/ ffyrdd
Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl am y tyllau yn y ffordd neu’r diffygion ar balmentydd/ ffyrdd, gan gynnwys:
- y math o ddiffyg (e.e. twll yn y ffordd, difrod i ymyl y palmant, marciau ffordd)
- y lleoliad
- unrhyw luniau/ fideos.
Rhowch wybod am dyllau yn y ffordd neu ddiffygion ar balmentydd/ffyrdd
Beth fydd yn digwydd nesaf
Caiff diffygion a adroddir eu hasesu ac os ydynt yn bodloni’r meini prawf ymyrryd a nodir yn y Polisi Archwilio Priffyrdd, byddant yn cael eu hatgyweirio.
Bydd yr amser a gymerir i atgyweirio twll yn y ffordd yn seiliedig ar lefel y risg. Caiff twll yn y ffordd a allai achosi anaf neu ddamwain ei atgyweirio ar unwaith. Trefnir bod pob twll arall yn y ffordd sy’n bodloni ein meini prawf ymyrryd yn cael eu hatgyweirio.