Alert Section

Parcio dirwyon a gorfodi


Mae’r Cyngor yn gyfrifol am reoli meysydd parcio’r Cyngor yn barod.  Bydd Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor yn gyfrifol hefyd am orfodi parcio ar y stryd ac am roi Hysbysiad Tâl Cosb.  Os na fyddwch yn cadw at y rheolau, fe allech ddod o hyd i Hysbysiad Tâl Cosb (PCN) - ar eich ffenestr flaen pan ddewch chi’n ôl i’ch cerbyd.

Cwestiynau Cyffredin

Sut caiff y gwaith gorfodi ei wneud?
Bydd y Swyddogion Gorfodaeth Sifil (SGS) newydd yn patrolio bob rhan o Sir y Fflint lle mae cyfyngiadau parcio sy’n cael eu cwmpasu gan Orchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT) mewn grym.

Bydd hyn yn cynnwys llinellau melyn dwbl a sengl, ardaloedd llwytho a dadlwytho, lleoedd parcioi bobl anabl, ardaloedd disgwyl cyfyngedig, safleoedd tacsis ac unrhyw ardaloedd parcio oddi ar ystryd a reolir gan y Cyngor Sir ac ati.

Bydd swyddogion gorfodaeth yn rhoi Rhybudd Tâl Cosb i yrwyr sydd, wrth barcio, wedi torri un rhywreoliadau sydd ar y pryd mewn grym. Os byddwch yn parcio’n anghyfreithlon neu yn y lle anghywir, arrwydwaith y priffyrdd neu mewn maes parcio sy’n cael ei redeg gan y Cyngor, efallai y bydd Rhybudd Tâl Cosb ar ffenestr eich cerbyd pan ddewch yn ôl.

Pryd ac ar ba ffyrdd fydd Gorfodaeth Parcio Sifil yn digwydd?
Bydd gorfodaeth Awdurdodau Lleol yn cwmpasu pob ffordd fabwysiedig a meysydd parcio’r Cyngoryn ardal Sir y Fflint ac eithrio ffyrdd yr A55, A550 a’r ffordd ddeuol sy’n rhan o gefnffordd yr A494.

Bydd gorfodaeth mewn grym ar unrhyw ddiwrnod ar unrhyw amser y mae cyfyngiad parcio mewn grym. Caiff amledd y patrôl ei bennu i ateb gofynion ac amgylchiadau lleol.

A fydd yr Heddlu’n gyfrifol am unrhyw orfodaeth parcio?
Ni fydd yr heddlu’n gyfrifol am orfodi unrhyw gyfyngiadau llinellau melyn. Bydd yr heddlu’n parhau i roi Hysbysiadau Cosb Benodedig am y troseddau canlynol:

  • Holl droseddau traffig sy’n symud
  • Pob achos o rwystro traffig sy’n symud megis cyffyrdd blychau melyn ac ati
  • Parcio peryglus
  • Unrhyw droseddau parcio ardystiedig
  • Parcio ar lwybrau troed lle nad oes llinellau melyn
  • Gyrru dros lwybrau troed
  • Os oes materion diogelwch neu faterion plismona traffig eraill yn gysylltiedig.

Sut allaf osgoi cael HTC?
Peidiwch â thorri rheoliadau parcio a chymerwch sylw o bob arwydd a marciau wrth barcio.

Eich cyfrifoldeb chi yw parcio eich cerbyd yn gywir. Dyma rai enghreifftiau o lefydd lle na ddylech barcio. Os nad ydych yn sir, edrychwch ar yr arwydd sy’n rhoi gwybodaeth am y man lle rydych ynparcio:

  • Lle mae cyfyngiadau aros a llwytho yn weithredol ar y pryd
  • Mewn man parcio sydd wedi ei neilltuo (e.e. ar gyfer pobl sydd â bathodyn glas), heb ddangos bathodyn dilys yn y modd cywir
  • Mewn safle bws sydd wedi’i farcio yn ystod adegau pan mae parcio wedi’i wahardd
  • Ar linellau igam ogam lle gwaherddir parcio y tu allan i ysgol neu ger croesfan i gerddwyr
  • Ar balmant neu lain glas y tu ôl i waharddiad parcio sy’n weithredol ar y pryd
  • Mewn unrhyw fan parcio lle byddech yn torri rheoliadau’r maes parcio
  • Am fwy o amser nag a ganiateir os oes cyfyngiad aros neu os dychwelwch i’r lle o fewn yr amser sy’n cael ei nodi.

A yw llwytho a dadlwytho nwyddau yn cael ei ganiatáu?
Ydy fel arfer, wrth wneud gweith gareddau tebyg, oni bai fod cyfyngiadau llwytho neu farciau igam ogam hefyd ar y ffordd.

A all cerbydau aros i ollwng teithwyr?
Gallant, cyn belled â nad ydynt yn gwneud hynny ar farciau cadw’n glir wrth ysgol neu farciau igam ogam wrth groesfan i gerddwyr.

Beth fydd cost y ddirwy os caf Hysbysiad Tâl Cosb?
Bydd yr Hysbysiad Tâl Cosb naill ai’n £50 neu’n £70 yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw’r dramgwydd.

Mae lefelau HTC a’r tramgwyddau a ystyrir yn fwy difrifol yn cael eu gosod yn genedlaethol ac nidgan y Cyngor. Os talwch yr HTC cyn pen 14 diwrnod ar ôl iddo gael ei roi i chi, caiff y gost ei hanneru (i £25 neu £35). Gall hefyd gynyddu o 50% (i £75 neu £105) os na chaiff ei cyn pen 28 diwrnod ar ôli Hysbysiad i Berchennog a Thystysgrif Tâl gael eu rhoi. Bydd manylion am sut i dalu Rhybudd Tâl Cosb i’w gweld ar gefn y Rhybudd.

Beth sy’n cael ei ystyried i fod yn dramgwydd fwy difrifol?
Yn gyffredinol caiff parcio ar linellau dwbl neu mewn lle parcio heb arddangos hawlen briodol (e.e. unigolyn anabl) ei hystyried yn dramgwydd mwy difrifol. Byddai parcio mewn lleoedd parcio aganiateir (e.e. aros dros yr amser a ganiateir mewn lle parcio) ei ystyried yn dramgwydd llai difrifol.

Beth allaf ei wneud os wyf yn anghytuno â’r ffaith fod HTC wedi’i roi i mi?
Gallwch herio’r HTC drwy gysylltu â thîm Gwasanaethau Parcio’r Cyngor yn gyntaf. Rhaid i chi wneud hynny cyn pen 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr HTC i chi. Bydd Gwasanaethau Parcio’r Cyngor yn edrych ar eich achos ac yn dod i benderfyniad trwy ddefnyddio polisi presennol y Cyngor. Os caiff eich apêl ei gynnal, caiff yr HTC ei ganslo ac fe gewch wybod hynny. Fodd bynnag, os na chaff ei gynnal cewch eich hysbysu a bydd gofyn i chi dalu’r HTC ar y gyfradd briodol. Os heriwch y HTC cyn pen 14 diwrnod caiff y cyfnod gostyngiad 50% ei ymetsyn nes i chi gael eich hysbysu o’r penderfyniad.

Beth os wyf yn dal i anghytuno â phenderfyniad y Cyngor?
Os na fyddwch wedi talu’r HTC, caiff “Hysbysiad i Berchennog” (HiB) ei roi i chi a bydd gofyn i chi naill ai dalu’r ffi neu gyflwyno sylwadau pellach i’r Cyngor cyn pen 28 diwrnod arall. Rhaid i’r Cyngor ystyried eich rhesymau eto ac os yw’n dal i wrthod eich sylwadau, cewch hysbysiad gwrthod a bydd y Cyngor yn anfon eich sylwadau ymlaen at y Tribiwnlys Cosbau Traffig i’w hystyried.

Beth yw’r Tribiwnlys Cosbau Traffig?
Corff annibynnol cenedlaethol ydyw a sefydlwyd yn benodol i wrando ar apeliadau yn erbyn Hysbysiadau Tâl Cosb. Mae holl ddyfarn yr y Tribiwnlys yn weithwyr cyfreithiol proffesiynol cymwys a fydd yn edrych ar holl ffeithiau’r achos ac yn penderfynu p’un a ddylai’r HTC gael ei dalu ai peidio.  Gall bob ochr gyflwyno ei achos (fel arfer heb fynychu) er hynny mae gennych hawl i fynychu gwrandawiad apêl. Mae penderfyniad y dyfarnwr yn derfynol.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn talu’r HTC ar ôl i sylwadau gael eu gwrthod?
Caiff y HTC ei gofrestru mewn Llys Sirol arbennig yn Northampton pan fydd ffïoedd gweinyddol y llysyn cael eu hychwanegu (£7.00 yr achos ar hyn o bryd). Bydd gwerth llawn yr HTC yn cynyddu o 50% a bydd hysbysiad o gofrestru dyled yn cael ei hanfon atoch a rhoddir 21 diwrnod arall i chi dalu. 

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn talu wedyn?
Ar ôl 21 diwrnod, gall y Cyngor gofrestru’r warant a chyfarwyddo beilïod ardystiedig i gasglu’r HTC sydd heb ei dalu neu i atafaelu nwyddau sy’n cyfateb i werth yr HTC ac unrhyw swm ychwanegol agodir gan y cwmni beilïod.

Beth allaf ei wneud os na dderbyniais Hysbysiad i Berchennog (HiB)?
Gallwch anfon datganiad (sef ‘datganiad tyst’) at y Llys Sirol yn Northampton a fydd yn ei anfon at y Cyngor. Mae’n debyg y bydd y Cyngor yn anfon copi o’r HiB atoch a bydd y broses yn ailddechrauo’r pwynt hwnnw.

Beth allaf ei wneud os cyflwynais sylwadau ond heb dderbyn hysbysiad gwrthod neu osapeliais i’r gwasanaeth dyfarnu Tribiwnlys Cosbau Traffig?
Yn y ddau achos gallwch wneud datganiad tyst i Lys Sirol Northampton a fydd yn ei anfon at y Cyngor.  Rhaid i’r Cyngor, yn yr amgylchiadau hyn, gyfeirio’r achos at y gwasanaeth dyfarnu.

Sut fydd y newidiadau’n effeithio ar ddeiliaid bathodynnau glas?
Ni fydd unrhyw newidiadau i’r rheoliadau. Gall deiliaid bathodynnau barhau i barcio ar linellau melyn dwbl neu sengl am uchafswm o dair awr, cyn belled a nad ydynt yn creu rhwystr, oni bai fod llwythoneu ddadlwytho’n cael ei wahardd. Rhaid arddangos y bathodyn glas ynghyd â’r disg parcio yndangos yr amser cyrraedd. Os oes cyfyngu ar aros, nid oes unrhyw gyfyngiad amser cyn belled a bo’r bathodyn yn cael ei arddangos.

A all cerbydau barcio ar linellau melyn wrth wneud gwaith adeiladu, symud nwyddau acati?
Mewn rhai amgylchiadau gellir cael goddefeb gan y Cyngor ar gyfer amseroedd penodol i ganiatáu gweithgareddau megis gwaith adeiladu a symud nwyddau.

A fydd HTC yn cael ei roi am barcio ar ochr ffordd neu lwybr troed?
Gellir rhoi hysbysiadau i gerbydau sy’n parcio’n rhannol neu’n gyfan gwbl ar ochr ffordd neu lwybr troed ger llinellau melyn. Os yw cerbyd nwyddau wedi parcio ar ochr ffordd neu lwybr troed gellir rhoi HTC hyd yn oed os nad oes llinellau melyn yno. Mae cerbydau sy’n parcio ar lwybrau troed yn creu rhwystrau i gerddwyr, yn arbennig y rheiny ag anabledd ac yn difrodi’r llwybr. Mae gan yr Heddlu bwerau i roi Hysbysiad Cosb Benodedig yn yr amgylchiadau hyn.

A allaf wneud cais am symud neu newid marciau presennol?
Mae cyfyngiadau fel arfer mewn lle er mwyn rheoli traffig neu am resymau diogelwch ond ambell waith efallai na fydd eu hangen bellach neu efallai na fyddant yn briodol. Dylid anfon pob cais am newididau i Is-adran Traffig y Cyngor yn Neuadd y Sir. Ffoniwch 01352 704634.

Dirwyon - Sut i Dalu

Hysbysiad Tâl Cosb: Esbonnir yr opsiynau ar gyfer talu’r hysbysiadau newydd hyn ar gefn yr Hysbysiad Tâl Cosb.  Ffyrdd o dalu: Partneriaeth Prosesu Cosb Cymru (PPCC) 

Y tâl llawn fydd £70 neu £50 yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd. Bydd yna ostyngiad o 50% os caiff y PCN ei dalu o fewn 14 diwrnod gan leihau’r tâl i £35 neu £25.  Bydd peidio â thalu (neu ddim herio) PCN yn codi’r tâl llawn o 50% pellach ar ôl 56 diwrnod. Bydd amryw o opsiynau talu ar gael. Bydd y manylion ar gefn yr Hysbysiad Tâl Cosb.  

 Parcio beiciau modur

Cyfyngiadau Oddi ar y Stryd
Wrth barcio mewn Maes Parcio Talu ac Arddangos rhaid i'r gyrrwr barcio mewn bae a thalu’r ffi berthnasol a dylai’r beiciwr ddal ei afael ar y tocyn Talu ac Arddangos os nad oes modd arddangos y tocyn Talu ac Arddangos ar y beic modur.

Disgwylir bod y beiciwr yn cydymffurfio â'r holl amodau fel y cawsant eu nodi ar y peiriant Talu ac Arddangos a sicrhau bod y cerbyd wedi ei barcio’n gyfan gwbl o fewn bae swyddogol wedi ei farcio, gan y byddai methu â chadw at y rheoliadau hyn yn arwain at gyhoeddi Rhybudd Talu Cosb.  

Nid oes parcio diogel ar gyfer beiciau modur, fodd bynnag, mae gennym ddau fae wedi eu marcio’n benodol i ddarparu ar gyfer beiciau modur yn unig (mae'r rhain wedi eu lleoli ym Maes Parcio Stryd Newydd, Yr Wyddgrug).  Er bod camerâu cylch caeedig i’w cael yn rhai o'n meysydd parcio nid ydynt yn cael eu neilltuo ar gyfer rhannau penodol a bydd y camerâu’n cael ei symud o bell yn ôl disgresiwn y swyddfa

Cyfyngiadau Ar y Stryd
Disgwylir hefyd bod y beiciwr yn cadw at y terfynau amser a osodwyd mewn baeau aros cyfyngedig.

Rhaid sicrhau fod pob beic modur yn cael eu parcio yn unol â'r cyfyngiadau sydd mewn grym, ac nad ydynt yn cael eu parcio ar y palmentydd gan achosi rhwystr.

Nid oes caniatâd i barcio beiciau modur mewn parth cerddwyr yn ystod yr oriau rhagnodedig, rhaid i bob beiciwr gadw at y Gorchmynion Rheoli Traffig fel y’u marciwyd ac fel y’u harwyddwyd yn briodol lle bo angen ar y safle. 

Beth alla i wneud ynghylch loriau’n parcio yn fy stryd?

Nid oes gan loriau nwyddau trwm hawl i barcio mewn ardaloedd preswyl a dylent barcio mewn mannau lle mae ganddynt hawl i wneud hynny. Gellir cyfeirio unrhyw gwyn / cwestiwn at y Comisiynydd Traffig ar 0121 6081062.  

Oes modd rhoi wyneb ar y llain las er mwyn imi barcio fy nghar?

Nid yw’n bolisi gan y Cyngor droi lleiniau glas yn fannau parcio. Bydd y ffordd yn cael ei harchwilio i sicrhau bod yr ymyl mewn cyflwr da ac os yn briodol, ystyrir i gweithredu yn erbyn y gyrrwr.

Dispensations

Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn gwahardd neu’n cyfyngu ar barcio ar briffyrdd cyhoeddus. Mae Swyddogion Gorfodi Parcio Sifil (SGPS) yn patrolio a gorfodi rheoliadau parcio oddi ar y stryd ac ar y stryd a byddant yn rhoi Hysbysiad Tâl Cosb i gerbydau a welant sydd wedi parcio’n anghyfreithlon, lle bo hynny’n angenrheidiol.

Mae’r Cyngor yn derbyn fod amgylchiadau lle bydd angen i gerbyd barcio mewn lleoliad na fyddai fel arfer yn cael ei ganiatáu. Yn yr amgylchiadau hynny gall y Cyngor roi goddefeb, fodd bynnag, codir tâl am wneud hynny (gweler y manylion talu isod). Nid yw goddefebau wedi’u creu ar gyfer y rheiny nad ydynt yn gorfod cael mynediad cyson at eu cerbyd, a dim ond pan fydd y Cyngor yn cytuno nad oes unrhyw ddewis arall ar gael y bydd yn eu dosbarthu.

Pan fydd angen goddefeb ar rywun, bydd raid iddynt wneud cais 3 diwrnod gwaith cyn y dyddiad y bydd angen yr oddefeb arnynt er mwyn rhoi digon o amser i’r Cyngor ystyried y cais. Oni bai fod yr amgylchiadauyn rhai eithriadol, dim ond un cerbyd fydd yn cael parcio mewn unrhyw leoliad. Dim ond mewn argyfyngau y bydd goddefebau’n cael eu dosbarthu ar yr un diwrnod.

Ar ôl derbyn goddefeb, dylai’r gyrrwr barcio’r cerbyd mewn modd nad yw’n creu perygl i gerddwyr neu ddefnyddwyr eraill, ni ddylai greu rhwystr sy’n atal pobl rhag gweld yn iawn ar gyffyrdd ac ni ddylai rwystro mynedfeydd nac amharu ar lif traffig. Nid yw goddefeb yn ysgafnhau unrhyw ofyn i gerbydwyr gydymffurfio agofynion cyfreithiol o dan Reolau’r Ffordd Fawr ar gyfer troseddau traffig.

Gellir dosbarthu goddefebau am sawl rheswm:

  • Symud tŷ
  • Tynnu a llwytho asbestos
  • Cludo deunyddiau / cemegau peryglus i’w defnyddio mewn adeilad
  • Trin deunyddiau adeiladu trwm
  • Gweithdy symudol (weldio, glanhau ffenestri)
  • Lori adeiladwyr sy’n casglu rwbel
  • Gwydrwr sy’n gosod ffenestri
  • Lori goncrid yn dosbarthu llwyth o goncrid
  • Mynediad parhaus at offer o gerbyd
  • Ffilmio

Nid yw hon yn restr lawn a gellir ystyried sefyllfaoedd eraill hefyd.

Bydd y cerbydau canlynol yn derbyn goddefebau fel mater o drefn rhag cyfyngiadau aros:

  • Yr Heddlu, Y Gwasanaeth Tân ac Achub (gan gynnwys RNLI a Gwylwyr y Glannau) ac Ambiwlansiau wrth ymateb i alwadau brys yn unig
  • Cerbydau sy’n gysylltiedig â chontractau Cynnal a Chadw Priffyrdd neu waith Cyfleustodau Cyhoeddusos oes angen iddynt barcio ger y safle
  • Cerbydau lifreiog y Cyngor sy’n cyflawni dyletswyddau statudol megis casglu sbwriel, glanhau strydoedd a chynnal a chadw ochrau ffyrdd
  • Cerbydau sy’n arddangos bathodynnau glas dilys (gweler yr adran briodol ar Yrrwyr/Teithwyr Anabl).

GALL SWYDDOG HEDDLU NEU SGPS OFYN I CHI SYMUD Y CERBYD O UNRHYW LEOLIAD AR UNRHYW ADEG.

TALIADAU

  • Hyd at 1 diwrnod - £12.00 y cerbyd
  • 0 i 7 diwrnod yn olynol - £35.00 y cerbyd. 

SUT I WNEUD CAIS
Gofynnwch am ffurflen gais drwy glicio ar y ddolen isod neu drwy gysylltu â’r tîm Gwasanaethau Parcio ar 01352 704626.

Cais am oddefeb rheoliadau parcio (PDF 20KB ffenestr newydd)

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi’u cwblhau naill ai drwy’r post neu drwy e-bost at Gyngor Sir y Fflint i’w alluogi i ystyried y cais a dosbarthu’r oddefeb ar ôl hynny (os penderfynir rhoi un i chi):

  • Drwy’r post – Cyngor Sir y Fflint, Gwasanaethau Parcio, Adran yr Amgylchedd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
  • Drwy e-bost (copi wedi’i sganio) - parkingservices@flintshire.gov.uk

RHAID TALU’R FFÏOEDD CYN Y BYDD UNRHYW ODDEFEB YN CAEL EI RHOI I CHI.

Gwybodaeth bellach

Ar gyfer ymholiadau ynghylch Rhybudd Tâl Cosb, cysylltwch â:
Partneriaeth Prosesu Taliadau Cosb Cymru 
Blwch SP 273, Rhyl, LL19 9EJ
Ffôn: 0845 6056556

Ar gyfer pob gwasanaeth parcio arall, cysylltwch â:
Gwasanaeth Parcio Cyngor Sir y Fflint
E-bost: gwasanaethauparcio@siryfflint.gov.uk
Ffôn: 01352 701234 
(o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00am i 5.00pm)