Mesurau Newydd ar gyfer Rheoli Cŵn
Yn dilyn cyfnod ymgynghori yn gynharach yn 2017, mae Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i roi Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar waith mewn perthynas â Rheoli Cŵn a Baw Cŵn oherwydd y gefnogaeth gref ar gyfer yr amodau arfaethedig.
O 20 Hydref 2017 ymlaen, bydd Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC) yn weithredol ledled Sir y Fflint a bydd yn disodli’r hen Orchymyn Rheoli Cŵn i greu ymagwedd fwy cynhwysfawr a chyson wrth ymdrin â materion megis baw cŵn, cadw cŵn ar dennyn a gwahardd cŵn o lefydd penodol.
Yn gryno, mae’r gorchymyn hwn yn:
Gwahardd cŵn o:
- fannau chwarae plant ag offer
- mannau chwarae caeau chwaraeon wedi’u marcio a mannau hamdden ffurfiol
- tir ysgolion
Mynnu bod cŵn gael eu cadw ar dennyn:
Mynnu bod perchnogion cŵn yn cael gwared â Baw Cŵn
- Mae hyn yn berthnasol ar unrhyw dir sydd yn yr awyr agored ac y mae'r cyhoedd yn cael ei ddefnyddio
Mynnu bod perchnogion cŵn yn rhoi eu cŵn ar dennyn pan fo swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud hynny
- Mae hyn yn berthnasol ar unrhyw dir cyhoeddus pan ystyrir bod ci allan o reolaeth neu’n codi ofn ac achosi gofid
Mynnu bod perchnogion cŵn yn sicrhau eu bod yn cario rhywbeth i glirio’r baw ci oddi ar y llawr ar gais swyddog awdurdodedig
*Caiff cwn eu hymarfer yn y mannau o amgylch caeau chwaraeon sydd wedi eu marcio*
Cosb o ganlyniad i dorri’r GGMC
Mae unrhyw berson a ganfyddir yn euog o dorri’r gorchymyn yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy o £1,000 ar y mwyaf. Ond bydd torri unrhyw un o’r amodau uchod yn arwain at gyhoeddi hysbysiad cosb benodedig o £75.00 gan swyddog awdurdodedig.
Mae mapiau o'r ardaloedd y mae’r gorchymyn hwn yn effeithio arnynt i’w gweld isod, ynghyd â Hysbysiad o’r GGMC.
Map o Safleoedd Posibl (ffenestr newydd)
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml (PDF ffenestr newydd)
Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn a Baw Cŵn Cyngor Sir y Fflint 2017 (ffenestr newydd)
Dydd Iau 1 - 29 Mehefin 2017
Mae Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn un o nifer o bwerau newydd a gyflwynwyd dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Eu nod yw atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn man cyhoeddus sy’n cael neu’n debygol o gael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd pobl yn yr ardal. Mae’n rhaid i’r ymddygiad fod yn afresymol ac yn barhaus o ran ei natur.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal ymgynghoriad ar Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn, a fydd yn disodli’r Gorchymyn Rheoli Cŵn cyfredol.
- Bydd y gwaharddiadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i berchnogion cŵn:
- Clirio baw ci yn syth bin o fannau cyhoeddus
- Rhoi eu cŵn ar dennyn pan fo swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud hynny. Mae hyn yn berthnasol ar dir cyhoeddus a phan ystyrir bod ci allan o reolaeth neu’n achosi trallod
- Cadw cŵn ar dennyn mewn mynwentydd
- Sicrhau bod ganddynt fagiau baw cŵn ac ati i godi’r baw i fyny, a bydd gofyn iddynt brofi hynny ar gais swyddog awdurdodedig
Hefyd, fe waherddir cŵn rhag mynd i:
- Ardaloedd chwarae plant caeedig
- Ardaloedd chwarae meysydd chwaraeon wedi’u marcio
- Ardal chwarae cyfleusterau chwaraeon neu hamdden penodol
- Tir ysgol
Os bydd un o’r rhain yn cael eu torri, bydd Rhybudd Cosb Benodedig yn cael ei roi i’r person sy’n gyfrifol am y ci.
Rydym yn gwerthfawrogi eich barn, felly treuliwch ychydig o amser yn darllen y dogfennau sydd ynghlwm, sy’n cynnwys copi o’r gorchymyn drafft, dogfen 'Cwestiynau Cyffredin' a map o safleoedd posibl lle gallai'r gwaharddiadau gael eu gorfodi. Yna, llenwch ein harolwg ar-lein ar amodau'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus arfaethedig.
Nodiadau Eglurhaol (PDF new window)
DRAFFT - Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn a Baw Cŵn Cyngor Sir y Fflint 2017 (PDF new window)
Map o Safleoedd Posibl (new window)
Arolwg (new window)
* 5.5.17 Mae diwygiad wedi cael ei wneud i'r map i gynnwys y tir Cyngor Sir y Fflint yn Argoed Maes Chwaraeon.
Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal rhwng 1 Mehefin 2017 a 29 Mehefin 2017.
Ni fydd sylwadau a dderbynnir ar ôl 29 Mehefin 2017 yn cael eu hystyried yn rhan o’r broses ymgynghori.
Mae’r ymgynghoriad bellach wedi cau ac mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd yn cael eu cydgasglu.