Alert Section

Clirio Ffyrdd

Yn ystod cyfnodau o dywydd garw, rydym yn graeanu ac yn clirio eira o 560 cilomedr o ffyrdd a gaiff eu blaenoriaethu ar hyd a lled Sir y Fflint. Dylech geisio defnyddio’r ffyrdd hyn gan y byddwn yn ceisio eu clirio a’u graeanu.

Gweler map o lwybrau Blaenoriaeth 1 Sir y Fflint

Llwybrau blaenoriaeth yw’r ffyrdd pwysicaf i ddefnyddwyr ffyrdd. Maent yn cael eu dewis er mwyn cynnal cysylltiadau cludiant ar gyfer cynifer o gymunedau â phosibl.  Maent yn cyfrif am tua 45% o briffyrdd y Sir ac yn cynnwys o leiaf un ffordd fynediad i bob cymuned.

Sut mae llwybrau blaenoriaeth yn cael eu dewis

Mae llwybrau blaenoriaeth yn cael eu pennu yn ôl dosbarthiad a lefelau defnydd y ffyrdd. Unwaith y bydd llwybrau Blaenoriaeth 1 wedi’u clirio, byddwn yn canolbwyntio ar ffyrdd Blaenoriaeth 2. Unwaith y bydd y llwybrau blaenoriaeth yn glir, byddwn yn edrych ar lwybrau llai. Fodd bynnag, os yw’r amodau’n gwaethygu, byddwn yn dychwelyd i ganolbwyntio ein hymdrechion ar ffyrdd blaenoriaeth uchel.

Nid ydym yn clirio nac yn graeanu ffyrdd nad ydynt wedi’u mabwysiadu neu rodfeydd preifat.  Rydym hefyd yn ystyried unrhyw newidiadau i ffyrdd / cynlluniau newydd yn sgil datblygiadau newydd ac ati.

Mae’r holl ffyrdd yn Sir y Fflint wedi’u rhannu’n gategorïau blaenoriaeth 1, 2 neu 3.

Blaenoriaeth 1

Ffyrdd sydd â thraffig trwm ac y mae angen eu harbed rhag rhewi drwy’r nos.

Mae’r llwybrau hyn yn rhan o’r rhwydwaith ffyrdd meingefn ac mae angen rhoi blaenoriaeth uchel iddynt er mwyn sicrhau bod traffig yn parhau i symud.

Blaenoriaeth 2

Uffyrdd annosbarthedig sy’n creu’r prif lwybrau dosbarthu mewn ardaloedd trefol a gwledig ac ardaloedd lle cafwyd problemau yn y gorffennol

h.y. rhannau serth o ffyrdd, ardaloedd agored neu sydd â nodweddion topograffig eraill.

Bydd y llwybrau hyn yn cael eu trin pan fydd eira a chyfnodau hir o rew unwaith y bydd y llwybrau Blaenoriaeth 1 wedi’u cwblhau ac os oes gennym ddigon o adnoddau.

Blaenoriaeth 3

Yr holl ffyrdd eraill.

Bydd triniaeth i’r llwybrau hyn yn dibynnu fel arfer ar adnoddau sydd ar gael ar ôl i ni gwblhau llwybrau Blaenoriaeth 1 a 2 a byddant yn gyfyngedig i weithrediadau a gyflawnir o fewn oriau gwaith arferol.

Mae canran yr holl rwydwaith ffyrdd sy’n cael ei drin fel Blaenoriaeth 1 gan Gyngor Sir y Fflint yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru.

Nid yw troedffyrdd a llwybrau beicio’n cael eu cynnwys yn y llwybrau graeanu blaenoriaeth. Fodd bynnag, pan fydd eira trwm / rhew yn eu gorchuddio, bydd troedffyrdd sy’n cael llawer o ddefnydd megis canol trefi yn cael eu clirio a’u trin unwaith y bydd adnoddau’n caniatáu.

Newidiadau sydyn yn y tywydd

Pan fydd y tywydd yn newid yn sydyn, efallai yr ymddengys nad ydym wedi trin y ffyrdd. Noder:

  • mae’n cymryd amser cyn i’r halen ddechrau gweithio;
  • gall glaw wanhau’r halen neu ei olchi oddi ar y ffyrdd, sy’n golygu y byddant yn debygol o rewi
  • os yw’r tywydd yn eithriadol o oer, ni fydd halen yn atal ffyrdd rhag rhewi;
  • pan fydd glaw yn troi’n eira yn ystod yr awr frys, bydd tagfeydd traffig yn rhwystro’r cerbydau graeanu rhag gwneud eu gwaith;
  • os yw’r tywydd yn eithriadol o ddrwg, ni fydd y cerbydau graeanu a chlirio hyd yn oed yn gallu teithio ar y rhwydwaith ffyrdd.

O dan rai amgylchiadau, ni fyddwn yn gallu ymateb mor gyflym ag arfer:

  • ar nosweithiau pan mae’n bwrw glaw ac yna’r awyr yn clirio’n gyflym, bydd gwaith graeanu’n dechrau unwaith y bydd y glaw wedi peidio. Yn yr amodau hyn, gall y tymheredd ddisgyn yn gyflym a gallai ffyrdd gwlyb rewi cyn i ni allu eu graeanu.
  • pan fydd ffyrdd sych yn cael eu heffeithio gan rew ar doriad gwawr. Mae hyn yn digwydd pan fo gwlith y bore’n ffurfio, gan lanio ar ffordd wlyb a rhewi wrth ei chyffwrdd. Mae’n amhosibl rhagweld pryd na ble y bydd rhew yn ffurfio ar doriad gwawr.

Ble nad ydym yn graeanu

Y tu allan i feddygfeydd

Ceir ceisiadau a chwestiynau yn aml ynglŷn â thrin ffyrdd sy’n arwain at feddygfeydd. Caiff llwybrau eu blaenoriaethu ar sail faint o draffig sy’n teithio arnynt ac mae’r rhan fwyaf o ysbytai ar ffyrdd sy’n cael eu trin. Byddai trin pob llwybr fel hyn yn cael effaith negyddol ar y gwasanaeth a ddarperir ar lwybrau eraill sydd â lefelau uwch o draffig. Byddai hyn yn cael effaith ar y gyllideb oherwydd bod angen mwy o adnoddau. Fodd bynnag, byddwn yn dal i adolygu’r ceisiadau hyn.

Meysydd parcio meddygfeydd / deintyddfeydd / ysgolion

Perchnogion a gweithredwyr y meysydd parcio sy’n gyfrifol amdanynt. Gofynnir i ysgolion a ydynt yn dymuno caffael halen gan gyflenwyr priffyrdd y Cyngor yn barod ar gyfer y gaeaf. Mae’r ysgolion eu hunain yn gyfrifol am glirio eira o fewn terfynau’r ysgol. 

Rhai llwybrau bysiau

Mae’r rhan fwyaf o lwybrau gwasanaethau bysiau’n cael eu trin ond ni ellir cynnwys pob un; mae gormod ohonynt, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae pob ffordd sydd ag 8 neu fwy o wasanaethau bysiau bob awr yn gynwysedig yn y llwybrau Blaenoriaeth 1.

Rhoi gwybod am broblem ar lwybr blaenoriaeth

E-bostiwch streetscene@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch 01352 701234

Gwneud cais i ychwanegu ffordd at y llwybrau blaenoriaeth

Mae’r holl ffyrdd yn cael eu harolygu’n ofalus cyn y gaeaf i bennu eu dosbarthiad blaenoriaeth.  Fodd bynnag, os ydych yn teimlo bod yr amodau ar ffordd benodol yn beryglus yn aml, digon i gyfiawnhau blaenoriaeth uwch, gallwch gysylltu â ni a byddwn yn ystyried eich cais. Fodd bynnag, mae ein hadnoddau’n gyfyngedig. Er y byddwn yn ystyried eich cais, mae’n bosibl na fydd modd i ni gytuno.

Cysylltwch â Gwasanaethau Stryd