Alert Section

Sut Ydym Yn Graeanu

Isod gallwch ganfod mwy am sut mae graeanu’n gweithio, gan gynnwys sut yr ydym yn penderfynu pryd i raeanu, faint o lorïau graeanu yr ydym yn eu defnyddio, pa lwybrau y mae ein lorïau graeanu yn eu graeanu, a sut mae halen yn gweithio.

  • Penderfynu pryd i raeanu

    Yn ystod y gaeaf, rydym yn cael y rhagolygon tywydd diweddaraf ac rydym yn eu defnyddio i benderfynu pryd mae angen graeanu. Mae lorïau graeanu yn cael eu paratoi i ymateb i ragolygon o rew neu eira. Gwneir penderfyniad yn y prynhawn am y 24 awr nesaf. Lle bo hynny’n angenrheidiol, gallwn eu hanfon allan bob awr o’r dydd, bob dydd o’r wythnos.

    Wrth benderfynu a oes angen aredig neu raeanu, rydym yn edrych a yw wynebau’r ffyrdd yn wlyb neu’n sych, pa mor debygol y bydd yn bwrw glaw neu eira (ar sail rhagolygon manwl), a p’un a oes halen ar y ffordd yn barod ar ôl rowndiau graeanu blaenorol.

    Os yw’r rhagolygon yn addo tymheredd o 0 gradd Celsius am hanner nos, mae’r gweithredwyr yn cyrraedd y depo 4 awr cyn hynny i lwytho’r lorïau a graeanu’r ffyrdd cyn iddi rewi. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i’r graean gael ei wasgaru ar y ffordd cyn i’r tymheredd gyrraedd y rhewbwynt.

  • Cwrdd â'r lorïau graeanu

    Mae gennym 12 o lorïau graeanu a 2 lori graeanu wrth gefn (mewn argyfwng).

    Mae’n cymryd 45 munud i lwytho pob un o’r 12 lori graeanu.

    O fewn 90 munud ar ôl cael cyfarwyddyd i raeanu’r ffyrdd, mae’r lorïau’n cael eu llwytho a’u paratoi i symud.

    Gritters
  • Aredig trwy eira trwm

    Yn ystod cyfnodau o eira trwm, rydym hefyd yn defnyddio erydr eira. Os oes rhagolygon o eira trwm a fydd yn glynu, mae’r holl adnoddau sydd ar gael (gan gynnwys nifer o gontractwyr amaethyddol sydd ag erydr eira ar eu tractorau) yn cael eu rhoi ar waith. Mae gan bob lori raeanu aradr eira a phob tro y bydd yr aradr yn pasio bydd yn gwasgaru halen i atal yr eira rhag cywasgu, er mwyn ei gwneud yn haws i aredig. Mae 38 o lwybrau aredig eira yn cael eu trin gan gontractwyr lleol.

  • Ar y ffordd

    Mae’r llwybr Blaenoriaeth 1 fel arfer yn cymryd 3 awr i’w raeanu. Mae’n 560 cilomedr o hyd, sy’n oddeutu 45% o rwydwaith ffyrdd Sir y Fflint. Unwaith y bydd y ffyrdd blaenoriaeth yn glir, rydym yn symud ymlaen at ffyrdd a throedffyrdd eraill.
    Mae’r ffyrdd yn cael eu trin bob awr o’r dydd nes bod y llwybrau blaenoriaeth yn glir o eira a/neu rew - gan gynnwys Dydd Nadolig a Dydd Calan.
    Mae’n bosibl y bydd y ffyrdd yn cael eu trin yn barhaus yn seiliedig ar y rhagolygon. Os oes eira eithriadol wedi disgyn, bydd ein 12 lori graeanu yn aros ar y prif lwybrau.

  • Sut mae halen yn gweithio

    Mae halen yn para am oddeutu 9 awr. Gan hynny, yn ystod cyfnodau hir o dywydd garw mae’n bosibl y bydd angen i’n lorïau graeanu fynd allan fwy nag unwaith.

    Mae halen yn gweithio trwy ostwng y tymheredd y mae dŵr yn rhewi. Mae’n dibynnu ar deiars cerbydau i’w wasgaru dros y ffordd a chymysgu’r halen gyda’r eira a’r rhew, felly mae angen traffig i’w wneud yn effeithiol. Mae halen yn gweithio ar dymheredd mor isel â minws 8 i 10 gradd Celsius. Os yw’r tymheredd yn is na hynny bydd y ffordd yn rhewi.

    Gall glaw olchi halen oddi ar y ffyrdd a’u gwneud yn agored i ail-rewi.  Pan fydd glaw yn troi'n eira a bod hynny'n digwydd ar yr adeg brysuraf ar y ffordd ni ellir graeanu’r ffyrdd o flaen llaw gan y byddai'n cael ei olchi i ffwrdd, ac ni all y lorïau graeanu wneud cynnydd oherwydd tagfeydd traffig.