Darparu mwy o finiau graean
Mae pob bin graean yn costio £135 i’w gyflawni a £60 i’w lenwi. Byddwn yn ystyried ceisiadau am finiau halen newydd mewn mannau y gwyddom sy’n broblemus ar briffyrdd cyhoeddus os oes angen ac os oes adnoddau ar gael. Bydd angen i unrhyw safleoedd newydd ateb y meini prawf ym mholisi’r Cyngor ar gyfer cynnal a chadw yn y gaeaf.
Bydd pob cyngor cymuned yn gallu prynu biniau graean a halen bras gan y Gwasanaethau Stryd er mwyn cefnogi gwasanaeth cynnal a chadw yn y gaeaf y Cyngor. Mae’r biniau halen sy’n cael eu prynu gan gynghorau cymuned a’u gosod ar briffyrdd mabwysiedig, gyda chymeradwyaeth y Gwasanaethau Stryd, yn wahanol i finiau halen y Gwasanaethau Stryd ac maent yn cael eu cynnal a’u cadw gan y cynghorau cymuned.
Fandaliaeth a Dwyn
Mae biniau graean yn aml yn cael eu fandaleiddio. Os yw hyn yn achosi niwsans annioddefol, gallwch ofyn i ni gael gwared ar y bin. Bydd angen i drigolion eraill gytuno â hyn.
Os cewch eich dal yn dwyn graean, cewch eich erlyn.
Rhoi gwybod am fin graean gwag neu fandaliaeth i fin graean
I roi gwybod am fin graean gwag neu fandaliaeth i fin graean, cysylltwch â Gwasanaethau Stryd.
Cysylltwch â Gwasanaethau Stryd