Alert Section

Clirio Llwybrau Troed

Dim ond wedi i’r ffyrdd a gaiff eu blaenoriaethu gael eu clirio y bydd ardaloedd palmantog yn cael eu trin mewn rhew ac eira difrifol. Y rheswm am hyn yw er mwyn sicrhau fod adnoddau’n cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl. Oherwydd bod milltiroedd lawer o droedffyrdd yn Sir y Fflint, bydd yn amhosibl graeanu pob un ohonynt - mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar ardaloedd lle bydd y rhan fwyaf o bobl yn elwa.

Sut mae troedffyrdd yn cael eu blaenoriaethu

Mae adnoddau yn cael eu defnyddio i drin troedffyrdd unwaith y bydd eira wedi setlo neu yn ystod cyfnodau hir o rew ar sail blaenoriaeth mewn lleoliadau gan gynnwys:

  • Llwybrau troed yng nghanol trefi ac ardaloedd siopa
  • Llwybrau troed ger adeiladau dinesig
  • Priffyrdd cyhoeddus ger ysbytai
  • Priffyrdd cyhoeddus ger cartrefi preswyl/fflatiau henoed
  • Priffyrdd cyhoeddus ger canolfannau gofal dydd
  • Priffyrdd cyhoeddus ger ysgolion (yn ystod y tymor ysgol yn unig)
  • Pontydd troed
  • Safleoedd bws

Os derbynnir unrhyw adroddiadau am droedffyrdd rhewllyd ar gyfer lleoliadau nad ydynt wedi'u cynnwys yn y meini prawf uchod, byddwn yn eu harchwilio i asesu a yw triniaeth yn briodol, yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael.

Os yw adnoddau’n caniatáu, byddwn yn clirio rhannau serth o droedffyrdd, ardaloedd preswyl yr henoed yn bennaf, ardaloedd preswyl eraill, ac ystadau diwydiannol. Mae triniaeth i’r troedffyrdd hyn yn unol â pholisi cynnal a chadw yn y gaeaf y Cyngor.

Mae’r gwaith yn aml yn cael ei wneud gan dimau sy’n defnyddio rhawiau a cherbyd wedi’i lwytho â halen. Mae’n cael ei wneud gan yr holl staff sydd ar gael, gan gynnwys timau cynnal a chadw tiroedd sy’n methu ag ymgymryd â’u dyletswyddau arferol.

Caiff biniau halen eu darparu ar gyfer trigolion a busnesau i glirio troedffyrdd gerllaw. Yn anffodus ni allwn ddarparu gwasanaeth clirio preifat i gartrefi.

Fedra’ i hawlio iawndal gan y Cyngor os byddaf yn syrthio ar ffordd neu lwybr troed sydd heb ei drin?

Os oes eira neu rew ar lwybrau neu ffyrdd, mae gan bobl gyfrifoldeb i gymryd gofal. Os gall y Cyngor ddangos ei fod wedi defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael iddo, a’i fod wedi cymryd camau rhesymol ac ymarferol, mae unrhyw gais am iawndal yn debygol o fethu.