Alert Section

Isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan


Cefndir

Dyma gyfnod cychwynnol gosod pwyntiau gwefru yn y Sir, ac mae’n cynrychioli’r cam cyntaf tuag at fynd i’r afael â cham gweithredu Strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor:  ‘Sicrhau bod pwyntiau gwefru cerbydau ar gael mewn ardaloedd allweddol ar draws y sir – gwledig a threfol.’

Mae’r Cyngor hefyd yn cydnabod ei fod, trwy gyflwyno pwyntiau gwefru sy’n hygyrch i’r cyhoedd, yn cymryd ei gamau ei hun tuag at sero net, yn ogystal â helpu preswylwyr ac ymwelwyr sydd hefyd yn gweithio tuag at hyn.

Un o’r prif resymau sy’n atal mwy o bobl rhag defnyddio cerbydau trydan yw argaeledd pwyntiau gwefru. Gosodwyd y rhain er mwyn ceisio mynd i’r afael â hyn. Mae’n hanfodol bod y newid i gerbydau trydan yn dechrau o ddifrif yn eithaf buan, er mwyn adlewyrchu bwriad Llywodraeth y DU i roi terfyn ar werthu cerbydau petrol a disel newydd erbyn 2030. 

Rhwydwaith Pwyntiau Gwefru

Dyfarnwyd y gwaith gosod pwyntiau gwefru i SWARCO, a fydd hefyd yn gweithredu fel Gweithredwr Pwynt Gwefru. Mae cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r pwyntiau gwefru wedi’u nodi ar y pwynt gwefru a'r ap electronig cysylltiedig, ac mae llinell gymorth 24/7 ar gyfer unrhyw ymholiadau. Bydd pwyntiau gwefru’r Cyngor yn cael eu hintegreiddio i rwydwaith gwefru E.Connect SWARCO, sy’n weithredol ledled y DU.

Bu’n bosibl cyflwyno’r isadeiledd gwefru hwn drwy arian grant, a ddarparwyd gan Swyddfa Cerbydau Allyriadau Sero. Yn benodol, y grant hwn yw’r Cynllun Mannau Gwefru Preswyl ar y Stryd, sy’n sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer pwyntiau gwefru a leolir mewn ardaloedd ar gyfer preswylwyr nad oes ganddynt fynediad at fannau parcio preifat eu hunain oddi ar y ffordd.

Gosodwyd cyfanswm o bymtheg pwynt gwefru mewn wyth o feysydd parcio’r Cyngor.  Mae gan bob pwynt gwefru ‘ben deuol’ sy’n golygu fod modd gwefru cyfanswm o 30 cerbyd ar yr un pryd ar draws y rhwydwaith. Mae’r pwyntiau gwefru wedi’u gosod yn y meysydd parcio canlynol:

Gweld statws lleoliadau pwyntiau gwefru ar ein map ar-lein

Lleoliadau pwyntiau gwefru
Maes ParcioPwyntiau Gwefru
Pierce Street
Queensferry
CH5 1SY
2 x 7kW Deuol
Allt Goch
Y Fflint
CH6 5AS
2 x 7kW Deuol
Richard Heights
Y Fflint
CH6 5BS
1 x 7kW Deuol
Stryd y Castell
Y Fflint
CH6 5PJ
2 x 7kW Deuol
Stryd Newydd
Yr Wyddgrug
CH7 1NY
2 x 7kW Deuol
Sgwâr Griffiths
Yr Wyddgrug
CH7 1SP
2 x 7kW Deuol
Precinct Way
Bwcle
CH7 2EG
2 x 7kW Deuol
Plas Yn Dre
Treffynon
CH8 7HN
2 x 7kW Deuol