Gwasanaethau i Apwyntiadau Meddygol Gall trigolion Sir y Fflint fanteisio ar ddau wasanaeth sy’n darparu cludiant i apwyntiadau meddygol fel
- Deintyddion
- Meddyg
- Apwyntiadau yn Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Iarlles Caer
Trafnidiaeth Gymunedol y Gororau
Mae’r gwasanaethau hyn ar gael am bris gostyngol.
Ewch i wefan Cludiant Cymunedol y Gororau i ddysgu mwy (dolen allanol)
Gwasanaeth Ffonio a Theithio Sir y Fflint
Mae hwn yn wasanaeth o ddrws i ddrws ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus.
Bydd y gwasanaeth yn darparu cymorth i deithio i:
- Apwyntiadau meddyg teulu
- Apwyntiadau ysbyty
- Apwyntiadau iechyd eraill.
Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 24 awr o rybudd wrth archebu taith. Ond rydym ni’n gwneud ein gorau i ddarparu gwasanaeth i deithiau ar fyr rybudd.
Wrth gofrestru bydd gofyn i aelodau ateb y cwestiynau canlynol er mwyn sicrhau eu bod bodloni’r meini prawf i ddefnyddio’r gwasanaeth:
- Ble ydych chi’n byw?
- Lle ydych chi eisiau teithio iddo?
- Beth yw pwrpas y daith?
- Ai hwn yw’r tro cyntaf yr ydych chi wedi gorfod gwneud y daith hon?
- Oes yna gar y gallwch chi ei ddefnyddio?
- Fedrwch chi ddefnyddio gwasanaeth bws?
- Os ydych chi’n mynd i apwyntiad yn yr ysbyty, a ydych chi’n gymwys i ddefnyddio Gwasanaeth Cludiant Claf Gwasanaeth Ambiwlans Cymru?
Gallwch wneud cais i fod yn aelod o’r Gwasanaeth Ffonio a Theithio Cymunedol drwy ffonio’r Gwasanaethau Trafnidiaeth ar 01352 701234 rhwng 9am a 5 pm dydd Llun i ddydd Gwener.
Ffioedd
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer aelodau yn unig, gyda ffi danysgrifio flynyddol o £10.
Gallwch dalu dros y ffôn neu drwy siec yn daladwy i ‘Cyngor Sir y Fflint’.
Mae pob taith wedyn yn costio 45c y filltir.