Syd's Place – Canolfan Croes Atti yn y Fflint
Mae Syd’s Place, Canolfan Croes Atti yn y Fflint yn wasanaeth dydd a chanolfan adnoddau arbenigol ar gyfer pobl iau â dementia. Agorwyd y ganolfan yn 2008 a dyma’r ganolfan gyntaf o’i fath yng Nghymru.
Mae’r Hen Fragdy ar agor i unrhyw un sydd wedi cael diagnosis o ddementia cynnar, ac mae’n cynorthwyo pobl i gael rhaglen ystyrlon ac amrywiol o weithgareddau a theithiau allan, a chyfleoedd i anelu at hyrwyddo a chynnal annibyniaeth a sgiliau. Mae pobl hefyd yn elwa o gyswllt cymdeithasol a chymorth emosiynol drwy fod gyda phobl sydd mewn sefyllfaoedd tebyg iddyn nhw.
Rheolir y gwasanaeth gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint o dan y Gwasanaeth i Bobl Iau â Dementia. Mae tîm gofal hyfforddedig a phrofiadol yn gweithio yn yr Hen Fragdy, gyda chefnogaeth gweithiwr cymdeithasol i bobl ifanc â dementia. Yr oriau agor yw 10am tan 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Nodau’r Gwasanaeth:
- Cynorthwyo pobl i gynnal eu hannibyniaeth a’u sgiliau cymdeithasol a hamdden drwy gynllunio ac ymgysylltu ag ystod o weithgareddau dewisedig.
- Cynorthwyo pobl i gynnal a datblygu cysylltiadau cymdeithasol a gostwng ymdeimlad o unigrwydd ac arwahanrwydd.
- Cynorthwyo gofalwyr y bobl sy’n defnyddio’r Hen Fragdy i gael seibiant o’u rôl fel gofalwr.
- Cynorthwyo pobl i gyflawni eu nodau a sicrhau fod anghenion pobl yn cael eu diwallu drwy hwyluso mynediad at wasanaethau cymunedol ac adnoddau yn ôl yr angen.
Sut i gael mynediad at y gwasanaeth:
Gall unrhyw un atgyfeirio cleifion i’r gwasanaeth, o’r gwasanaethau iechyd i wasanaethau cymunedol eraill neu’r unigolion eu hunain drwy hunan-atgyfeiriad. Ar ôl cael asesiad gan weithiwr cymdeithasol, caiff yr unigolyn, os yw’n gymwys, ei gynorthwyo i archwilio cyfleoedd i fynychu’r grŵp. Cynhelir adolygiad 6 wythnos ar ôl i’r unigolyn ddechrau mynychu er mwyn sicrhau fod popeth yn mynd yn iawn.
A oes rhaid talu?
Codir tâl am wasanaeth yr Hen Fragdy. Defnyddir polisi taliadau’r Gwasanaethau Cymdeithasol i asesu taliadau’r unigolyn. Codir tâl bach am brydau bwyd.
Sut i gysylltu:
Un Pwynt Mynediad
Ffôn: 03000 858858
Ebost: spoa@flintshire.gov.uk
Canolfan Ddydd Syd's Place, Prince of Wales Avenue, Fflint CH6 5JU Ffôn: 01352 732982