Progress for Providers
Egwyddor allweddol deddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yw y dylai pobl gael eu cefnogi i wella eu lles. Mae gwybod pa faterion sy’n bwysig i unigolion a sut mae cefnogaeth wych yn edrych iddyn nhw yn hanfodol i gyflawni hyn. I ddarparwyr gofal cymdeithasol mae hyn yn golygu ffordd o weithio ble mae canolbwynt y gefnogaeth ar ansawdd bywyd yn hytrach nag ar dasgau.
I helpu ein darparwyr yn Sir y Fflint i weithio yn y modd hwn rydym wedi datblygu Cynnydd i Ddarparwyr. Rhaglen achredu yw hon sy'n gosod disgwyliadau clir ynghylch darparu gofal a chefnogaeth unigol, ac yn cydnabod y gwerthoedd hanfodol sydd eu hangen gan weithwyr gofal i gefnogi pobl yn effeithiol. Dechreuodd y rhaglen mewn gwasanaethau preswyl yn 2015 ac oherwydd ei lwyddiant, fe'i hehangwyd i gynnwys gwasanaethau gofal cartref a gofal ychwanegol. Rydym hefyd yn bwriadu gweithio gyda darparwyr i weithredu'r rhaglen o fewn gwasanaethau anabledd dysgu.
Mae Cynnydd i Ddarparwyr yn defnyddio dulliau ac ymarferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i helpu timau o staff i newid y ffordd maent yn cefnogi pobl ac yn ymgysylltu â’u teuluoedd. Mae’r dulliau hyn, gan gynnwys proffiliau un tudalen, cofnodion dysgu a chytundebau gwneud penderfyniadau, yn galluogi pobl sy’n cael gofal a chefnogaeth i gael mwy o beth sy'n bwysig iddynt nhw yn eu bywydau. I ddarparwyr, nid yw eu defnyddio yn golygu gwneud mwy, ond yn hytrach gwneud pethau yn wahanol.
Yn y gwasanaethau preswyl mae gan Gynnydd i Ddarparwyr dair lefel o achrediad: efydd, arian ac aur, ac yn y gwasanaethau cartref mae dwy lefel: arian ac aur. O fewn bob lefel, mae nifer o safonau i ddarparwyr eu cyflawni. Ar ôl sgorio eu hunain, mae gan reolwyr fesuriad gwaelodlin o ble maent, ac yn gallu blaenoriaethu'r safonau maent eisiau cynyddu eu sgoriau arnynt. Mae cynnydd yn cael ei fonitro yn rheolaidd gan Swyddogion Contract Sir y Fflint.
Mae cyflawni achrediad Cynnydd i Ddarparwyr yn helpu rheolwyr i ddangos yn gyhoeddus eu bod yn gwneud cynnydd parhaus wrth ddarparu gofal a chefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae darparwyr Sir y Fflint sydd wedi cyflawni achrediad wedi eu rhestru yma, a byddwn yn parhau i ddiweddaru’r rhestr hon wrth i’r rhaglen barhau.
Efydd
- Clock House
- Hollybank
- Options (Oedolion)
- Station House
- Sycamore Lodge
- The Glynne
- Ty Cerrig
Arian
- Bryn Edwin
- Cartref Ni
- Castell Ventures
- Croes Atti
- Tim Cartref Glannau Dyfrdwy
- JNJ Health
- Llys Eleanor
- Llys Raddington
- Phoenix House
- The Oaks
Aur
- Gwasanaethau Cymunedol Glannau Dyfrdwy
- Haulfryn
- Llys Gwernffrwd
- Llys Jasmine
- Marleyfield House
- Gwasanaethau Cymunedol yr Wyddgrug
- Plas Yr Ywen
- Wellfield
- Wepre Villa Cartref Nyrsio
Ym mis Medi 2018, roeddem yn falch iawn pan enillodd y rhaglen Wobr Gofal Cymdeithasol Cymru ac fe gyrhaeddodd y rownd derfynol yng ngwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru’n cydnabod rhagoriaeth o fewn gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac roedd y wobr yn benodol am ganlyniadau rhagorol i bobl o bob oed trwy fuddsoddi mewn hyfforddi a datblygu staff.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy am Gynnydd i Ddarparwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth cyffredinol cysylltwch â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ar 01352 702672 neu e-bostiwch: Contract.&.Commissioning.Team@siryfflint.gov.uk