Alert Section

Bathodyn glas - Gwybodaeth bwysig yn ymwneud â chadarnhau'ch bod yn gymwys


Os bydd eich cais yn llwyddiannus, rydych yn deall na chewch ganiatáu i neb arall ddefnyddio'r bathodyn er eu budd eu hunain a bod yn rhaid i chi gadw at y rheolau a nodir yn y daflen, 'Cynllun Bathodyn Glas - Hawliau a Chyfrifoldebau yng Nghymru,' a gaiff ei hanfon atoch gyda'r bathodyn.

Os daw i'r amlwg bod eich cais yn dwyllodrus neu'ch bod wedi camddefnyddio'r bathodyn, mae'n bosibl y cewch ddirwy o hyd at £1,000 a / neu bydd yn rhaid i chi roi'r bathodyn yn ôl. Rhaid i chi hefyd roi gwybod i'r awdurdod lleol sy'n rhoi'r bathodyn i chi os bydd urnhw newidiadau a allai effeithio ar eich cymhwysedd i gael bathodyn. er enghraifft, os yw'ch gallu i symud yn gwella.

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, gall cais gymryd hyd at 3 mis i'w brosesu. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, caiff y bathodyn ei anfon yn syth i'ch cyfeiriad cartref.

Os mai cais i adnewyddu bathodyn yw hwn, sylwch y bydd eich bathodyn yn ddilys o'r diwrnod y daw eich hen fathodyn i ben. Peidiwch ag anfon yr hen fathodyn yn ôl os nad yw wedi dod i ben eto.

Os na fyddwch yn anfon y dogfennau angenrheidiol gyda'ch cais, mae'n bosibl y bydd cryn oedi cyn y gallwn ei brosesu, ac mae'n bosibl hefyd y caiff eich cais ei wrthod hyn yn oed.

Rwy'n derbyn yr amodau hyn