Alert Section

Bathodyn Glas - Rhestr wirio: meini prawf dewisol


Gallwch wneud cais drwy ffonio'r Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01352 701304 neu drwy ymweld â'ch swyddfa canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.  Dylech ddod â'r dogfennau a ganlyn hefo chi:

Prawf o bwy ydych chi

Bydd angen i chi ddangos un o'r isod:

  • Tystysgrif geni / mabwysiadu
  • Tystysgrif priodas / ysgariad
  • Tystysgrif partneriaeth sifil/diddymu partneraeth sifil
  • Trwydded yrru ddilys
  • Pasbort dilys

Prawf o ble rydych yn byw

Gallwch brofi lle'r ydych yn bwy mewn gwahanol ffyrdd, sef:

  • Bil Treth Gyngor
  • Caniatáu i ni chwilio am gofnodion eich treth gyngor, y gofrestr etholiadol / cofnodion ysgol ar eich rhan

Llun i'w roi ar y Bathodyn Glas

Dylai hwn fod yn debyg i lun pasbort, a rhaid iddo fod yn un diweddar. Dylai ddangos wyneb llawn y person sy'n gwneud y cais, er mwyn medru ei adnabod yn hawdd ac ni ddylai neb arall fod yn y ffotograff. Bydd y ffotograff yn cael ei osod ar gefn y bathodyn ac ni fydd i'w weld pan fydd wedi'i osod ar y cerbyd. Gall un o'n cynghorwyr cwsmeriaid dynnu'r llun yn un o ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.

Proof of Impairment

Mae'r dystiolaeth sydd ei hangen yn dibynnu ar y nam sydd arnoch. Isod, mae rhestr sy'n dangos pa dystiolaeth sydd ei hangen:

anhawster cerdded

Meini prawf cymhwysedd

Anabledd parhaol neu sylweddol sy'n ei gwneud yn amhosibl, neu'n anodd iawn, i chi gerdded

Tystiolaeth

Mae angen tystiolaeth ar ffurf adroddiadau meddygol, llythyrau gan ymgynghorydd, apwyntiadau i weld ymgynghorydd mewn ysbyty, presgripsiwn, derbynneb am waith addasu neu gymhorthion cerdded fel prawf o'r problemau a ganlyn:

  • Poen eithafol wrth i chi gerdded neu ar ôl i chi gerdded
  • Yn fyr eich gwynt
  • Methu cerdded yn bell
  • Methu cerdded yn hir
  • Problemau o ran eich osogo, rythm, gallu i gydsymud, cydbwysedd a hyd eich cam
  • Gorfod defnyddio cymhorthion cerdded ac ocsigen
  • Methu cerdded yn yr awyr agored, os yw hynny'n effeithio'n wahanol arnoch

Tystiolaeth arall

  • Derbynneb am waith addasu (lifft grisiau, rheiliau llaw, cawod hygyrch, lifft i'r bath a rampiau)
  • Adddasu cerbydau (mae angen cynnwys polisi yswiriant)

Anabledd yn y ddwy fraich sy'n golygu'ch bod yn cael trafferth defnyddio offer parcio, neu rai mathau o offer parcio

Meini prawf cymhwysedd

Rhaid i chi yrru cerbyd yn rheolaidd, rhaid i chi fod ag anabledd yn y ddwy fraich, a rhaid i chi fod yn methu defnyddio, neu'n cael cryn drafferth defnyddio, offer parcio neu rai mathau o offer parcio.

Tystiolaeth

Adroddiadau ymgynghorydd / llythyr a thrwydded yrru - rhaid defnyddio'r codau a ganlyn:

  • 40 - Llywio wedi'i addasu
  • 79 - Cyfyngedig i rai cerbydau arbennig

Ffurflen achos arbennig DS1500 i'r rhai sydd â salwch terfynol

Meini prawf cymhwysedd

Mae gennych salwch terfynol sy'n achos arbennig a nam sy'n ei gwneud yn anodd i chi symud

Tystiolaeth

Bydd angen i chi ddangos y ffurflen DS1500 wreiddiol a llythyr ategol gan nyrs McMillan neu arbenigwr iechyd perthnasol.

Plentyn o dan 3 oed ag offer meddygol swmpus

Meini prawf cymhwysedd

Rhaid i chi fod â phlentyn, neu'n gofalu am blentyn sydd, oherwydd ei gyflwr, yn ddibynnol ar offer meddygol swmpus, ac ni ellir cludo'r offer hwnnw gyda'r plentyn heb gryn anhawster.

Tystiolaeth

Llythyr gan bediatregydd yn amlinellu'r cyflwr meddygol. Tystiolaeth hefyd yn cadarnhau'ch bod yn defnyddio un o'r canlynol:

  • Peiriant anadlu
  • Peiriant sugno
  • Pwmp bwydo
  • Offer gwythiennol
  • Gyrrwr chwistrell
  • Offer rhoi ocsigen
  • Offer monitro lefelau ocsigen yn barhaus
  • Castiau ac offer meddygol cysylltiedig i gywiro dysplasia'r clun

Plentyn o dan 3 oed y mae angen iddo fod yn agos i'r cerbyd oherwydd rhesymau meddygol

Meini prawf cymhwysedd

Rhaid i chi fod â phlentyn, neu'n gofalu am blentyn sydd, oherwydd ei gyflwr, yn gorfod bod yn agos at gerbyd bob amser rhag ofn y bydd angen trin y cyflwr hwnnw yn y cerbyd neu rhag ofn y bydd angen cludo'r plentyn yn gyflym yn y cerbyd i rywle lle gellir ei drin.

Tystiolaeth

Cofnodion meddygol yn ymwneud â'r cyflwr. Er enghraifft:

  • Tracheostomi
  • Epilepsi/ffitiau difrifol
  • Diabetes hynod ansefydlog
  • Salwch terfynol sy'n atal plant rhag treulio dim mwy nag eiliaid prin yn yr awyr agored ac y mae angen medru eu cludo adref yn gyflym