Yn y Gwasanaethau Cymdeithasol mae Therapyddion Galwedigaethol a Swyddogion Anabledd yn gweithio fel rhan o’r tîm Derbyn Therapi Galwedigaethol Cyswllt Cyntaf, Gwasanaethau Bro ac Ail-alluogi, ac mae therapydd galwedigaethol yng Ngwasanaethau Tai. (Mae taflen arall ar gael argyfer 'Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol i Blant’). Gellir cysylltu â’r Therapydd Galwedigaethol a Arweinir gan Ymgynghorydd ar 03000 858858 neu anfonwch e-bost at SSDUTY@flintshire.gov.uk am fwy o gyngor a gwybodaeth.
Atgyfeiriadau
Gallwch chi neu rywun ar eich rhan, gysylltu â’n Tîm Cyswllt Cyntaf os ydy cham gefnogaeth, er mwyn trafod beth yr hoffech ei gyflawni. Byddant yn eich cefnogi drwy gael sgwrs er mwyn darganfod beth sy'n bwysig i chi, nodi eich cryfderau a thrafod beth sy'n eich rhwystro rhag cyflawni eich nodau hefyd. Mae’n bosib y byddant yn gallu rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i chi er mwyneich galluogi chi a / neu'ch teulu neu'ch cymuned i ddod o hyd i ddatrysiad eichhun ar y pwynt hwn.
Os na fydd hyn yn bosib, byddai atgyfeiriad, y cyfeirir ato fel ymholiad, yn caelei gofnodi a'i rannu gyda'r tîm perthnasol.
Brysbennu
Mae atgyfeiriadau a dderbynnir yn cael eu sgrinio gan Reolwyr Tîm o fewn tridiwrnod gwaith a bydd cyngor ynglŷn â chyfeirio ymlaen yn cael ei roi os nad ydynt yn briodol. Mae’n bosib y bydd y rheolwr yn gofyn am wybodaeth bellacher mwyn cefnogi’r penderfyniad hwn. Bydd unrhyw gamau gweithredu y gellir eu cefnogi yn syth yn cael eu gwneud, fel darparu gwybodaeth neu gyngor i leihau risgiau.
Ni all y tîm ddarparu ymateb i argyfwng felly os oes gennych angen brys, cysylltwch â'ch Meddyg Teulu, NHS Direct neu 999 fel bo’n briodol.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd atgyfeiriadau yn cael eu hychwanegu at ein rhestr aros er mwyn eu dyrannu pan fydd y gallu gan y tîm.
Dyraniadau
Mae’r cyfnod aros ar gyfer y rhan fwyaf o achosion yn amrywio o ddyddiau hy dat dri mis yn gyffredinol wedi brysbennu, yn ddibynnol ar yr asesiad angenrheidiol. Mae’r tîm i gyd yn gweithio mor galed ag y gallant er mwyn cwblhau eu gwaith gan sicrhau fod teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u cefnogi.
Os oes gennych unrhyw bryderon yn ystod y cyfnod aros hwn neu os hoffech ofyn unrhyw gwestiynau, cysylltwch â 03000 858858 i adael neges neu anfonwch e-bost at ac fe fyddwn yn ceisio cysylltu’n ôl â chi cyn gynted âphosib.
Asesiadau
Efallai y byddech yn elwa o asesiad, lle bydd Swyddog Anabledd neu Therapydd Galwedigaethol yn ymweld â chi er mwyn trafod eich canlyniadau wyneb yn wyneb. Sgwrs yw asesiad mewn gwirionedd, sy’n cychwyn drwy sefydlu beth sy’n bwysig i chi a beth hoffech chi ei gyflawni. Byddwn yn falch ogynnwys eich teulu neu'ch gofalwyr fel bo'n briodol.
Mae’n rhoi cyfle i adlewyrchu ar beth sy'n gweithio'n dda a pha bethau syddddim yn mynd mor dda. Bydd yr holl opsiynau yn cael eu hystyried a’u trafod cyn creu cynllun.
Mae’n bosib y bydd hyn yn golygu mwy nag un ymweliad ac y bydd rhaid i bobl eraill gynorthwyo i gasglu’r holl wybodaeth a gwneud i bethau weithio. Bydd ywybodaeth yma’n cael ei gofnodi ar ein system electronig PARIS a byddwch ynd erbyn copi yn ogystal ag unrhyw ffurflenni eraill y byddwn yn eu cwblhau.
Rydym wedi ein hyfforddi ac mae gennym brofiad o weithio gyda phobl ag anableddau fel y gallwn eich cynorthwyo i gyflawni’ch canlyniadau wrth ystyriedeich amgylchiadau a’ch amgylchedd personol. Yn ogystal â thrafod eich sefyllfa, mae’n bosib y byddwn am wylio sut rydych yn gwneud pethau er mwyn ffurfio rhan o'r asesiad.
Ymyriadau
Ar y pwynt hwn, mae’n bosib y byddwn yn gallu rhoi cyngor a chymorth i chi, eich teulu neu eich cymuned i ddod o hyd i ddatrysiadau er mwyn hyrwyddo'ch annibyniaeth a’ch lles. Mae gennym gysylltiadau agos â’r gwasanaethau gwirfoddol a grwpiau cymunedol y gallech gysylltu â nhw. Mae gennym hefyd wybodaeth ar fathau o offer y gallwch eu prynu neu newidiadau y gallech eu gwneud i'ch cartref neu i’ch ffordd o fyw er mwyn gwneud bywyd yn haws i chi.
Mae’n bosib y bydd asesiad gan ein Therapyddion Galwedigaethol Ail-alluogi a Ffisiotherapyddion yn cael ei argymell, yn enwedig wedi i chi fod yn yr ysbytyneu ar ôl newid yn eich gallu, er mwyn dangos ffordd newydd i chi o reoli pethau a’ch helpu i gael pethau yn ôl i’r arfer.
Yn ogystal â darparu gwybodaeth a chymorth i chi, gall y tîm therapi galwedigaethol wneud cais am offer ac addasiadau. Gweler ein taflenni ar Addasiadau ac Offer am fwy o wybodaeth ar y meysydd hyn.
Er mwyn sicrhau fod y rhain yn cael eu defnyddio’n deg er mwyn cefnogi pawb sydd mewn angen, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, bydd angen i’r Therapydd Galwedigaethol sicrhau fod y rhain ynhanfodol ar gyfer eich canlyniadau ac na allent gael eu darparu mewn unrhyw ffordd arall. Mae panel rheoli yn cwrdd bob wythnos er mwyn sicrhau fod ceisiadau a wneir yn gymesur ac yn cael eu hystyried yn llawn er mwyn sicrhau fod adnoddau'n cael eu defnyddio'n deg.
Nodwch fodd bynnag, pan fydd teuluoedd yn denantiaid i’r cyngor, cymdeithasau tai neu landlordiaid preifat, rhaid i’r landlordiaid gytuno i un rhyw addasiadau (gwaith adeiladu neu ffitio offer sefydlog), hyd yn oed os yw'r Therapydd Galwedigaethol yn eu cefnogi.
Er mwyn trafod atgyfeiriad cysylltwch â:
Gwasanaethau Cymdeithasol, Preswylfa, Ffordd Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1PZ.
Ffôn: 03000 858858
E-bost: spoa@flintshire.gov.uk
Chwynion
Os aiff pethau o chwith - rydym yn ymwybodol y gall fod achlysuron pan fydd gan ddefnyddiwr cwyn gŵyn er gwaethaf ein hymdrechion gorau. Gellir gwneud unrhyw gŵyn am wasanaethau i'ch Therapydd Galwedigaethol neu Swyddog Anabledd neu'r Rheolwr Tîm.
Os ydych am wneud cwyn ffurfiol dylid gwneud hyn i Swyddog Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol.