Teuluoedd yn Gyntaf
Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn grŵp lleol o wahanol wasanaethau sy’n gweithio gyda’i gilydd i helpu teuluoedd. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae yma i sicrhau bod teuluoedd yn derbyn y gefnogaeth gywir pan fyddant ei hangen. Mae Cyngor Sir y Fflint yn goruchwylio grant Teuluoedd yn Gyntaf.
Mae’r holl sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf yn edrych ar gryfderau mewn teuluoedd ac yn gofyn beth sy’n bwysig iddyn nhw fel teulu. Y nod yw cynorthwyo yn y modd y mae’r teulu ei eisiau, a grymuso teuluoedd wrth iddyn nhw fynd drwy anawsterau bywyd.
Mae rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf wedi ei dylunio i helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd gyda’i gilydd. Mae’n gweithio drwy ddarparu cefnogaeth ar gyfer y teulu cyfan, yn hytrach nag unigolion yn unig.
Mae’r gwahanol wasanaethau yn seiliedig ar dair thema:
- Magu Plant
- Anabledd
- Pobl Ifanc
Drwy weithio gyda’i gilydd gall y gwasanaethau eich cefnogi chi gyda phob mathau o faterion, anghenion cefnogaeth, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.
Sut mae Teuluoedd yn Gyntaf yn Gweithio
Mae gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf ar gael ar gyfer pob teulu. Mae’r math o gymorth y gellwch ei gael yn dibynnu ar anghenion penodol eich teulu. Gellwch ofyn i weithiwr proffesiynol wneud atgyfeiriad i chi, neu gellwch eich atgyfeirio eich hun. I wneud hyn ffoniwch 01352 701000 a gofyn am wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.
Gallwn eich helpu gyda:
- Siarad gyda chi ac asesu anghenion eich teulu, a llunio cynllun cefnogaeth i ddiwallu’r anghenion hynny – rydym yn galw hyn yn Sgwrs Beth sy’n Bwysig. Gennych chi mae’r rheolaeth dros yr hyn rydych eisiau ei rannu a pha gefnogaeth rydych yn ei deimlo sydd ei hangen arnoch chi.
- Cydlynu cefnogaeth gan wahanol wasanaethau – gallwn eich sicrhau nad oes rhaid i chi weithio gyda llawer o wahanol sefydliadau i wneud apwyntiadau a dweud eich stori fwy nag unwaith.
- Trefnu cefnogaeth os oes gan aelod o’ch teulu anabledd – gall hyn fod yn blentyn neu riant.
- Rhoi cyngor ar brosiectau penodol a all helpu anghenion penodol eich teulu.
Dyma ychydig o wybodaeth ynglŷn â phwy sy’n rhan o raglen Teuluoedd yn Gyntaf.
Thema Magu Plant
Mae Fframwaith Magu Plant Sir y Fflint yn cefnogi gwasanaethau gyda’u gwaith gyda rhieni. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyngor ar ymchwil a chanllawiau Llywodraeth Cymru, yn cynnig cyrsiau hyfforddiant a chymwysterau ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac yn dod â grwpiau o weithwyr proffesiynol at ei gilydd er mwyn i fagu plant cadarnhaol fod wrth wraidd yr holl waith a wneir ar draws y sir. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu cyswllt i gynlluniau a strategaethau cenedlaethol a rhanbarthol.
Mae Y Teulu Cyfan yn dîm cefnogaeth yn y cartref sy’n gweithio gyda theuluoedd i fynd i’r afael â materion a wynebir wrth fagu plant ac mewn bywyd teuluol. Gwneir gwaith penodol lle mae’r teuluoedd yn rheoli’r cyflymder. Gan ddefnyddio modelau datblygiad plant a chyrsiau a strategaethau magu plant anffurfiol / ffurfiol, y nod yw datblygu hyder mewn teuluoedd, mynd i’r afael â phroblemau, lleihau arwahanrwydd a hybu profiadau teuluol cadarnhaol yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf.
Cyfarfodydd Grŵp Teuluoedd
Mae Cyfarfodydd Grŵp Teuluoedd yn broses sy’n dod â theuluoedd a phlant ynghyd i gydweithio i ganfod eu barn a’u hanghenion a thrafod gyda’r teulu cyfan fel ffordd o ymdrin â’r anawsterau hyn gyda’n gilydd. Y nod yw grymuso teuluoedd a’u rhoi mewn rheolaeth o’u datrysiadau eu hunain yn ogystal â gweithio tuag at ffordd o ddatrys anawsterau ar y cyd. Yna mae hyn yn gwella lles teuluoedd.
Ewch i wefan Magu Plant. Rhowch amser iddo.
Magu Plant. Rhowch amser iddo. - cydbwyso amser sgrin
Magu Plant. Rhowch amser iddo. - trefn reolaidd
Tips Defnyddiol – Amser Sgrin gan Y Teulu Cyfan
Mae Home-Start yn elusen genedlaethol sydd â rhwydwaith cymunedol lleol yn Sir y Fflint o wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n gallu darparu cefnogaeth arbenigol i helpu teuluoedd gyda phlant ifanc (dan 11 mlwydd oed) drwy gyfnodau heriol.
Mae Home-Start yn gweithio gyda theuluoedd mewn cymunedau ledled y DU. Gan ddechrau yn y cartref, mae ein dull o weithredu mor unigryw â’r bobl rydym yn eu helpu. Dim barnu, dim ond cymorth cyfrinachol caredig a chefnogaeth arbenigol.
Mae gwirfoddolwyr Home-Start yn ymweld â theuluoedd yn eu cartref bob wythnos ac yn cefnogi rhieni mewn gwahanol sefyllfaoedd, gan gynnwys arwahanrwydd, profedigaeth, genedigaethau lluosog, salwch, anabledd, a phan fo teuluoedd yn teimlo bod magu plant yn ychydig o straen. Y nod yw darparu cefnogaeth ymarferol, heb farnu, a datblygu hyder a gallu teulu i ymdopi gyda heriau bywyd.
Y llynedd, cefnogwyd 56,000 o blant mewn 27,000 o deuluoedd gan Home-Start, a hynny mewn cymunedau ledled y DU.
Ewch i wefan Home-Start
Mae Daffodils yn grŵp hunangymorth lleol, a arweinir gan rieni, ar gyfer plant sydd ag anabledd corfforol a meddyliol, ac aelodau o’u teulu agos. Mae Daffodils yn darparu ar gyfer pob anabledd, ac mae’n darparu digwyddiadau cymdeithasol, cefnogaeth gan gymheiriaid a mynediad at wasanaethau. Cynhelir y gweithgareddau ledled Sir y Fflint, a’u nod yw annog brodyr a chwiorydd i gymryd rhan, lleihau arwahanrwydd, a hybu cyfeillgarwch ymysg teuluoedd.
Darganfod mwy am Daffodils ar wefan Canolfan Hamdden Treffynnon
Mae Advance Brighter Futures yn elusen iechyd meddwl a lles sydd wedi ennill gwobrau a sefydlwyd gyntaf yn Wrecsam ym 1992, ac sydd bellach yn cynnig cymorth ledled Sir y Fflint.
Mae Advance Brighter Futures yn hybu lles personol drwy broses o feithrin bywyd ystyrlon a boddhaol, a ddiffinnir gan yr unigolyn. Maen nhw’n deall y gall bod yn rhiant fod yn anodd. Mae Advance Brighter Futures yn elusen ymarferol iawn ac yn cadw llawer o bobl sydd wedi elwa ar y gwasanaethau fel gwirfoddolwyr. Mae’r elusen yn gwerthfawrogi ac yn defnyddio amrywiol brofiadau bywyd, sgiliau ac amser yr aelodau, yr ymddiriedolwyr, y staff a’r gwirfoddolwyr.
Mae Advance Brighter Futures yn cynnig:
Sesiynau Grŵp: Arweiniad Rhiant i...
Ar gael i rieni a gofalwyr sy’n byw yn Sir y Fflint ac yn gyfrifol am blentyn o dan 18 oed. Mae ein ‘Arweiniad Rhiant i…’ yn gymysgedd o sesiynau unigol a chyrsiau byr sydd wedi’u dylunio i’ch helpu chi gyda’r heriau sydd ynghlwm â bod yn rhiant. Fe gewch chi ddysgu sgiliau a dulliau ymarferol i helpu gwella eich gallu i ymdopi a mwynhau perthnasoedd gwell.
Cost: AM DDIM
Cofiwch gofrestru cyn dod yn wefan Advance Brighter Futures
Grŵp Cymorth ‘Cerdded a Sgwrsio’ Wythnosol i Rieni
Cyfle i gyfarfod a thrafod popeth sy’n ymwneud â bod yn rhiant gyda rhieni a gofalwyr eraill sy’n deall. Mae hwn yn cael ei gynnal ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas ar hyn o bryd. Dewch am dro gyda ni a mwynhau coffi hyfryd wedyn yn y Caffi.
Dydd Mawrth 10:00 tan 11:30am
Parc Treftadaeth Maes Glas | Greenfield Road | Treffynnon | CH8 7GH (Cyfarfod y tu allan i Gaffi Blooms)
Cost: AM DDIM
Cofiwch gofrestru cyn dod yn wefan Advance Brighter Futures
Sesiwn ‘Sgwrs a Chwarae’ Wythnosol
Cyfle i chi gael paned a sgwrs gyda’n tîm ABF cyfeillgar, a chyfarfod rhieni a theuluoedd eraill tebyg i chi, sy’n deall - a hyn oll tra bydd eich plantos yn mwynhau bore o chwarae! Mae’r grŵp cymorth hwn yn addas i rieni a theuluoedd gyda phlant rhwng 0 a 4 oed.
Dydd Llun | 9:30am - 11:30am
Canolfan Chwarae Meddal Infunity | Uned 1 Queen's Lane | Ystâd Ddiwydiannol Bromfield Lane | Yr Wyddgrug | Sir y Fflint CH7 1XB
Cost: AM DDIM
Cofiwch gofrestru cyn dod yn wefan Advance Brighter Futures
Mae gennym Fyfyrwyr Cwnsela ar leoliad sy’n gallu cynnig ymyrraeth Therapiwtig un i un i oedolion sydd wedi profi anawsterau neu drawma sy’n effeithio ar eu gallu i fagu eu plant yn briodol.
Rydym hefyd yn cynnig Ymyrraeth bwrpasol ar gyfer teuluoedd pan fo Rhaglen Rianta wedi ei chwblhau ac asesiad yn dangos bod angen Ymyrraeth bellach yn ymwneud â chyfathrebu er mwyn atal teuluoedd rhag chwalu.
Ewch i wefan Gweithredu dros Blant
Thema Anabledd
Mae Gwasanaeth Anableddau Teuluoedd Sir y Fflint gan Gweithredu dros Blant yn rhoi cyfleoedd ac yn datblygu cysylltiadau i alluogi rhyngweithio cymdeithasol, annog pobl allan i’r gymuned a datblygu sgiliau bywyd.
Mae’n wasanaeth byrdymor sy’n cefnogi plant anabl, pobl ifanc a theuluoedd yn seiliedig ar eu hanghenion a’u dewisiadau.
Ein haddewid i chi yw canfod beth sy’n bwysig i’ch teulu a darparu cefnogaeth a strategaethau defnyddio i gynorthwyo gyda goresgyn unrhyw rwystrau a chyflawni eich amcanion dros gyfnod o 6 i 12 wythnos.
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ddarparu ein cefnogaeth, er enghraifft sesiynau wyneb yn wyneb yn y cartref a’r gymuned, sesiynau Microsoft Teams dros y we, a’n clybiau cynhwysol ar gyfer pob oedran a gallu.
GOGDdC
Ein haddewid i chi yw darganfod beth sy’n bwysig i’ch teulu a darparu cefnogaeth un-i-un a strategaethau defnyddiol i’ch helpu i oresgyn unrhyw rwystrau a chyflawni eich amcanion dros gyfnod o 6 i 12 wythnos.
Bydd ein Pobl Ifanc yn cael y cyfle i fynd i glybiau a grwpiau cymdeithasol gyda chyfoedion a Gweithwyr Cefnogi profiadol.
Gweithredu dros Blant - Gwasanaeth Anabledd Teuluoedd Sir y Fflint
Mae STAND Gogledd Cymru yn Gwmni Buddiannau Cymunedol nid-er-elw sy’n cefnogi teuluoedd gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion iaith, llefaredd a chyfathrebu, anghenion ychwanegol neu anableddau. Mae STAND yn sefydliad sydd wedi’i arwain gan rieni ac yn cynnig grwpiau cymorth i rieni, galwadau ffôn, hyfforddiant, gweithgareddau a diwrnodau i’r teulu, grŵp ieuenctid ar-lein, rhaglenni blynyddoedd cynnar a mwy.
Ewch i wefan STAND Gogledd Cymru
Mae Gofalwyr Ifanc GOGDdC yn cefnogi’r holl ofalwyr ifanc dan 25 mlwydd oed yn Sir y Fflint. Mae Gofalwyr Ifanc GOGDdC yn darparu cefnogaeth drwy’r canlynol:
- Cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth
- Cynnal ‘Sgyrsiau Beth sy’n Bwysig’ gan ganiatáu i GOGDdC asesu anghenion Gofalwyr Ifanc a chanfod beth sydd fwyaf pwysig iddyn nhw
- Cefnogaeth gan gymheiriaid a’r gymuned, gan gynnwys grwpiau i ofalwyr ifanc a chynllun cefnogaeth gan gymheiriaid• Yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd drwy newyddlen chwarterol a sianeli cyfryngau cymdeithasol
- Cefnogaeth un i un a chyfeirio• Gweithgareddau, teithiau a chyfleoedd cymdeithasol
- Ymgysylltu â gofalwyr ifanc i lywio datblygiad y gwasanaeth a menter gymunedol
- Egwyl o rolau gofalu, grantiau a chwnsela
Ewch i wefan GOGDdC
Broceriaeth
Mae Broceriaeth yn rhan o’r gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd yng Nghyngor Sir y Fflint, a defnyddir y cyllid i ariannu Swyddog Broceriaeth Gofal Plant yn rhannol – sy’n arsylwi anghenion plant ifanc ac yn cynnig cyngor ac arweiniad wedi’u teilwra i gefnogi plant a lleoliadau gofal plant. Mae’r Swyddog Broceriaeth Gofal Plant yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth mewn cyfarfodydd ac i leoliadau. Mae ei waith yn cynnwys:
- Mynd i baneli dirprwyo cyllid wythnosol (gan gefnogi penderfyniadau a wneir mewn perthynas â dyrannu'r grant Gofal Plant a Chwarae)
- Ysgrifennu datganiadau
- Cyfarfodydd adolygu lleoliadau gyda’r tîm gofal plant
Bydd y Swyddog Broceriaeth Gofal Plant hefyd yn cynnig llwybr cyfeirio hygyrch i sefydliadau eraill i rieni plant anabl.
Grant Cymorth Ychwanegol a Ariennir a Grant Offer / Adnoddau / Hyfforddiant 2022 - 2023
Mae’r Rhaglen Lles Ieuenctid ac Anabledd yn fenter atgyfeirio i gefnogi ymyrraeth gynnar i bobl ifanc sydd ag anabledd, nad ydynt yn weithgar ar hyn o bryd ac yr hoffent wella eu hiechyd a’u lles drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Bydd atgyfeiriadau’n cael eu cysylltu gyda darpariaeth sy’n briodol, cefnogol ac yn caniatáu cyfraniad a chynnydd parhaus y tu hwnt i’r cyfnod atgyfeirio. Mae sesiynau cefnogi pwrpasol mewn canolfannau hamdden a chymunedol lleol wedi eu cynnal gydag amrywiaeth eang o glybiau chwaraeon cymunedol.
- Bydd bob atgyfeiriad yn cael ei sgrinio gan weithwyr iechyd proffesiynol o ran eu haddasrwydd i gymryd rhan yn y Rhaglen Lles Ieuenctid ac Anabledd.
- Mae gweithiwr cefnogaeth yn cael ei ddynodi ar gyfer pob atgyfeiriad a gwneir asesiad o ran lefel y gefnogaeth sydd ei hangen gyda theulu a/neu unigolyn penodol.
- Sesiynau a ariennir – fodd bynnag bydd hyn yn amrywio yn seiliedig ar anghenion dynodedig yn ystod y cam asesu ac yn dibynnu ar y weithgaredd.
- Cefnogaeth a gwybodaeth barhaus i’r sawl sy’n gymwys ai peidio.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r Cydlynydd Lles ar 01352 702481 neu kirsty.hughes@aura.wales
Thema Phobl Ifanc
Mae Gweithredu dros Blant wedi bod yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd Sir y Fflint sydd ag anghenion cymhleth ers 1997 trwy Brosiect Teuluoedd Sir y Fflint.
Mae’r gwasanaeth yn cyfrannu at becyn o gefnogaeth a ddyluniwyd i ymdrin â phroblemau sy’n ailymddangos neu batrymau o ymddygiad sy’n niweidiol i les plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Mae’r Prosiect Teuluoedd yn darparu gwasanaeth pwrpasol i bobl ifanc 11-25 oed a theuluoedd, yn cynnwys pecynnau o ymyraethau therapiwtig sydd wedi’u dylunio i wella gwydnwch a lles.
Mae’r gwasanaeth yn hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol rhwng rhieni/gofalwyr a’u plant.
Mae’r staff allweddol yn cefnogi teuluoedd drwy ddarparu ymyraethau therapiwtig arbenigol. Gall y rheiny fod ar sail un-i-un neu waith grŵp a gallant hefyd gynnig cwnsela unigol i rieni gan y myfyrwyr cwnsela sydd ar leoliad.
Mae teuluoedd a phobl ifanc wedi’u cefnogi gyda materion fel atal teulu rhag chwalu, camdriniaeth yn ystod plentyndod, rhiant yn y carchar, camdriniaeth ddomestig, ymddygiad heriol, straen / gorbryder, bwlio a phrofedigaeth.
Ewch i wefan Gweithredu dros Blant
Mae CGLlSFf yn sefydliad ymbarél sy’n cefnogi dros 1200 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn Sir y Fflint, gan ddarparu cefnogaeth ar bob agwedd ar sefydlu a rhedeg grŵp cymunedol neu sefydliad gwirfoddol, yn cynnwys cyngor ar gyllid, cymorth gyda chyfansoddiadau, cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau, recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr ac amrywiaeth o bynciau eraill.
Mae CGLlSFf yn datblygu partneriaethau gyda sefydliadau gwirfoddol a statudol yn Sir y Fflint, ac yn cydweithio gydag asiantaethau eraill i ddatblygu prosiectau i ymateb i anghenion cymunedol.
Mae gan Ganolfan Gwirfoddoli CGLlSFf raglen ar gyfer pobl ifanc sy’n darparu cyfleoedd iddynt roi cynnig ar wirfoddoli ac, os ydynt yn dymuno, ennill cymwysterau drwy wirfoddoli. Ar ôl cwblhau’r llyfr gwaith, mae’r gwirfoddolwyr ifanc yn cael tystysgrif Cwrs Achrededig Sgiliau Gwaith Gwirfoddol Lefel 1.
Mae’r rhaglen yn rhad ac am ddim i bobl sydd:
- Yn 14 mlwydd oed neu’n hŷn
- Heb brofiad o wirfoddoli
- Heb wirfoddoli o’r blaen ac eisiau rhoi cynnig ar rywbeth arall
- Eisiau gwirfoddoli ond ddim yn siŵr iawn sut i ddechrau arni
Am fwy o wybodaeth am wirfoddoli neu’r prosiect hwn, ewch i’n gwefan yn: Gwirfoddoli (flvc.org.uk)
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint yn rhan o bortffolio Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint. Un o’i brosiectau a ariennir gan raglen Teuluoedd yn Gyntaf yw prosiect Gwydnwch Cyngor Sir y Fflint.
Mae pum egwyddor Gwaith Ieuenctid yn sail i waith y Gwasanaeth Ieuenctid:
- Mae pobl ifanc yn ffynnu.
- Mae gwaith ieuenctid yn hygyrch ac yn gynhwysol.
- Mae staff gwaith ieuenctid gwirfoddol a staff proffesiynol a delir yn cael eu cefnogi trwy gydol eu gyrfaoedd i wella eu hymarfer.
- Mae gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a’i ddeall.
- Model cynaliadwy i ddarparu gwaith ieuenctid.
Gan weithio gyda phobl ifanc 16 i 25 mlwydd oed yn Sir y Fflint, mae’r prosiect Gwydnwch yn cynnig pecyn unigol o gymorth i helpu i wella hyder a lles. Cyfarfyddir â phobl ifanc yn eu cartref i ddechrau, gyda chefnogaeth rhiant neu ofalwr, yna gweithir gyda’r unigolyn ifanc ar sail un i un gyda’r nod iddynt ymuno â grŵp cymdeithasol bach. Mae’r prosiect yn darparu amgylchedd diogel a chyfrinachol i wella Gwydnwch, ac mae’n cefnogi pobl ifanc hyd nes y byddan nhw wedi cyflawni’r canlyniadau a ddewiswyd ganddynt.
Mae’r prosiect yn cynnig pecyn cymorth pwrpasol i bobl ifanc, sy’n eu mentora a’u cefnogi nhw mewn gwahanol ffyrdd (boed yn gymorth i gael fflat newydd a’i baentio, neu chwilio am swydd a lifft i gyfweliadau). Mae’r cynnig pwrpasol hwn yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y canlyniadau gorau gan y gwasanaeth.
Ffôn: 07769303546
Ebost: resilienceteam@flintshire.gov.uk
Mae Gofalwyr Ifanc GOGDdC yn cefnogi’r holl ofalwyr ifanc dan 25 mlwydd oed yn Sir y Fflint. Mae Gofalwyr Ifanc GOGDdC yn darparu cefnogaeth drwy’r canlynol:
- Cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth
- Cynnal ‘Sgyrsiau Beth sy’n Bwysig’ gan ganiatáu i GOGDdC asesu anghenion Gofalwyr Ifanc a chanfod beth sydd fwyaf pwysig iddyn nhw
- Cefnogaeth gan gymheiriaid a’r gymuned, gan gynnwys grwpiau i ofalwyr ifanc a chynllun cefnogaeth gan gymheiriaid• Yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd drwy newyddlen chwarterol a sianeli cyfryngau cymdeithasol
- Cefnogaeth un i un a chyfeirio• Gweithgareddau, teithiau a chyfleoedd cymdeithasol
- Ymgysylltu â gofalwyr ifanc i lywio datblygiad y gwasanaeth a menter gymunedol
- Egwyl o rolau gofalu, grantiau a chwnsela
Ewch i wefan GOGDdC
Lles Ieuenctid ac Anabledd
Mae’r Rhaglen Lles Ieuenctid ac Anabledd yn fenter atgyfeirio i gefnogi ymyrraeth gynnar i bobl ifanc o 11-16 oed sydd wedi cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, nad ydynt yn weithgar ar hyn o bryd ac yr hoffent wella eu hiechyd a’u lles drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Bydd atgyfeiriadau’n cael eu cysylltu gyda darpariaeth sy’n briodol, cefnogol ac yn caniatáu cyfraniad a chynnydd parhaus y tu hwnt i’r cyfnod atgyfeirio. Sesiynau cefnogi pwrpasol mewn canolfannau hamdden a chymunedol gan weithio mewn partneriaeth gydag amrywiaeth eang o glybiau chwaraeon cymunedol.
- Mae gweithiwr cefnogaeth yn cael ei ddynodi ar gyfer pob atgyfeiriad a gwneir asesiad o ran lefel y gefnogaeth sydd ei hangen gyda theulu a/neu unigolyn penodol.
- Cefnogaeth a gwybodaeth barhaus i’r sawl sy’n gymwys.
Aura - Lles Ieuenctid ac Anabledd
Blynyddiedd Cynnar a Chymorth i (Oed 0-5) - Broceriaeth
Gweithredu Dros Blant Teuluoedd Sir y Fflint Gwasanaeth Anableddau (GOGDdC) - Sied Ieuenctid
Cyngor Sir y Fflint Prosiect Gwytnwch