Alert Section

Newyddion a Diweddariadau


Contact us 670

Newyddion a Diweddariadau

Cylchlythyrau a Thaflenni

Cynnydd yng Ngraddfa Tâl Uniongyrchol Sir y Fflint Ebrill 2023

O 2 Ebrill 2023 mae o gynnydd wedi’i gytuno ar dâl fesul awr Sir y Fflint i’r cyfrif Tâl Uniongyrchol pan fyddwch yn cyflogi Cymhorthydd Personol (nid yw’n cynnwys cysgu i mewn).  

Bydd y raddfa Cymhorthydd Personol yn cynyddu i £16.66 fesul awr (sylwer nid eich tâl cymhorthydd personol fesul awr yw hwn). 

Os byddwch yn dymuno ystyried cynyddu eich cyfradd tâl fesul awr i gymorthyddion personol, gallwch gysylltu â’r Tîm Cymorth Tâl Uniongyrchol Sir y Fflint. 


Cynnydd yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol Ebrill 2023

O 1 Ebrill 2023, mae’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol wedi cynyddu o £9.50 yr awr i £10.42 yr awr ac mae nawr yn berthnasol i unigolion 23 oed a hŷn. isafswm cyflog byw ewch i: 

www.gov.uk/national-minimum-wage-rates neu www.acas.org.uk/nmw
Os bydd hyn yn effeithio arnoch chi, gallwch gysylltu â’r Tîm Cymorth Tâl Uniongyrchol


Mae yn wasanaeth cyfrinachol rhad ac am ddim sy'n rhoimynediad at gymorth iechyd meddwl a lles i staff sy'n gweithio ynsefydliadau gofal cymdeithasol a'r GIG yng Nghymru

Rydym yn deall y pwysau sy’n gysylltiedig â gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac rydym am i chi wybod ein bod ni yma i’ch helpu.

Ein nod yw rhoi cymorth i'r rhai sydd â symptomau a chyflyrau megis:

  • teimlo'n drech na gofidus
  • gorbryder ac iselder
  • anhwylder straen wedi trawma

Trwy Canopi gallant gael mynediad at:

  • Hunangymorth
  • Hunangymorth dan arweiniad
  • Cymorth gan gymheiriaid
  • Ymgynghoriadau wyneb-yn-wyneb rhithwir
  • Gwasanaeth Cymorth Alcohol

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: canopi.nhs.wales

Taflenni


Canllawiau ar gyflogi pobl ifanc 16 ac 17 oed yn y sector gofal cymdeithasol

Canllawiau gan Gofal Cymdeithasol Cymru


COVID-19 Diweddariad canllawiau Llywodraeth Cymru 11 Awst 2021

Canllawiau i gleifion/defnyddwyr gwasanaeth sy'n wynebu gweithwyr iechyd a chymdeithasol yn dilyn cyswllt posibl â COVID-19.

https://llyw.cymru/cysylltiadau-covid-19-canllawiau-i-staff-iechyd-gofal-cymdeithasol-html


Lansio cerdyn cydnabyddiaeth wedi’i ddiweddaru ar gyfer holl weithwyr gofal yng Nghymru

Ffynhonnell; Gofal Cymdeithasol Cymru 

Mae pob gweithiwr gofal yng Nghymru yn cael cynnig cerdyn cydnabod newydd sy’n eu hadnabod fel gweithwyr allweddol ac yn rhoi mynediad iddyn nhw i gynigion arbed arian.

Y Cerdyn Gweithiwr Gofal yw’r fersiwn nesaf o gerdyn tebyg a lansiwyd y llynedd i helpu i gefnogi gweithwyr gofal wrth iddyn nhw wynebu heriau personol a phroffesiynol enfawr yn sgil y pandemig.

Yn sgil adborth oddi wrth ddefnyddwyr y cerdyn cyntaf, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi trefnu i ddeiliaid cardiau elwa o gerdyn arian-yn-ôl, yn ogystal ag ystod eang o gynigion manwerthu, trwy ddarparwr gostyngiadau pwrpasol, sef Discounts for Carers.

Bydd gan ddeiliaid cardiau hefyd fynediad at drefniadau siopa ffafriol mewn rhai archfarchnadoedd lle mae'r rheini'n dal i fodoli. Byddant hefyd yn cael eu diweddaru ar adnoddau, fel apiau symudol, y gellir eu defnyddio i'w helpu i gynnal eu lles corfforol a meddyliol.

Bydd y cerdyn newydd yn cynnig y buddion i weithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru, p'un a ydynt wedi'u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ai peidio.

Bydd y cerdyn newydd yn caniatáu gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru i gael mynediad at fuddion na fyddent fel arall yn eu cael o bosib, oherwydd mae’r cerdyn yn brawf eu bod yn cael eu cyflogi mewn rolau gofal.

Bydd y cerdyn newydd yn ddigidol, fel bod gweithwyr gofal yn gallu ei gadw yn waled eu ffonau clyfar. Bydd y rhai sydd heb ffonau clyfar yn gallu derbyn yr un buddion os oes ganddynt cyfeiriad e-bost a mynediad i’r rhyngrwyd.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Cafodd y cerdyn cydnabod a lansiwyd fis Ebrill diwethaf ei groesawu’n frwd gan bobl sy’n gweithio mewn gofal yng Nghymru. Roedd yn gydnabyddiaeth o’r ffaith eu bod yn weithwyr allweddol yn y frwydr yn erbyn y pandemig, a rhoddodd rai buddion gwerthfawr fel blaenoriaeth siopa mewn archfarchnadoedd mawr.

“Fe wnaeth dros 30,000 o weithwyr gofal lawrlwytho fersiwn ddigidol o’r cerdyn, a derbyniodd llawer mwy y cardiau go iawn. Roedd y cardiau gwreiddiol hyn yn ddilys tan 30 Ebrill 2021. Ond doedden ni ddim eisiau i’r cerdyn fod yn gysylltiedig â’r pandemig yn unig. Mae gweithwyr gofal yng Nghymru yn rhoi cefnogaeth hollbwysig i unigolion a chymunedau 24/7, ac nid yn ystod cyfnod o argyfwng fel COVID yn unig. Rydyn ni’n eisiau i’n gweithwyr gofal barhau i gael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud ddydd ar ôl dydd i ni i gyd a’n teuluoedd a’n ffrindiau.

“Mae rhywbeth fel hyn yn arbennig o bwysig i sector sy'n cynnwys miloedd o ddarparwyr gwahanol. Mae'n rhoi ymdeimlad o hunaniaeth iddyn nhw a rhai buddion diriaethol na fydden nhw efallai wedi gallu eu cael fel arall. Bydd e-byst yn mynd allan i’r sector gofal dros yr wythnos nesaf a bydd y cerdyn cydnabod newydd yn ddilys o 1 Mai. Er mai’n ddigidol yn unig fydd y cerdyn newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y gweithwyr hynny sydd heb ffonau clyfar dal yn gallu mwynhau’r buddion sydd ar gael”, ychwanegodd Sue.

Tanysgrifiwch am y Cerdyn Gweithiwr Gofal www.scwonline.wales/cy/care-worker-card/
Mwy o wybodaeth am y Cerdyn Gweithiwr Gofal https://gofalcymdeithasol.cymru/straeon-newyddion/lansio-cerdyn-cydnabod-newydd-i-bob-gweithiwr-gofal-yng-nghymru



Yn ôl i'r brig