Gwybodaeth i Gynorthwywyr Personol
Cymorth ar gael ar gyfer Cynorthwywyr Personol
Rhaglen Cymorth i Weithwyr Cyngor Sir y Fflint
Canopi - Cefnogi Staff Gofal Cymdeithasol yng Nghymru
Mae gan Gymorthyddion Personol, a gyflogir gan Gyflogwyr Taliad Uniongyrchol Sir y Fflint, hawl i gael mynediad at Raglen Cymorth i Weithwyr Cyngor Sir y Fflint drwy Care First.
Bydd Care First yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol ar gyfer problemau gartref neu yn y gwaith. Mae’r gwasanaethau ar gael ar-lein a drwy ffonio rhif Rhadffôn 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
carefirst-lifestyle.co.uk
Mae’r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys
Mae Arbenigwyr Gwybodaeth Gofal wedi'u hyfforddi i roi cyngor i Ddinasyddion ac yn gymwys i ateb ymholiadau cyffredinol a rhanbarthol penodol.Problemau Ariannol, Tenantiaeth, Defnyddwyr, Budd-daliadau, Cyflogaeth ac Iechyd yw ond ychydig o'r meysydd y gall Care First ddarparu cymorth ar eu cyfer drwy'r gwasanaeth gwybodaeth.
Mae cwnselwyr Care First ar gael i roi cymorth ar gyfer unrhyw beth yr ydych am ei drafod; waeth beth yw achos y problemau. Profedigaeth, Perthynas yn chwalu a Bwlio – dyma rai enghreifftiau, yn ogystal â Newidiadau yn y Gwaith, Pwysau, Straen, Llwyth Gwaith a Salwch.
Adnodd helaeth o erthyglau a gwybodaeth sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i reoli ffordd iach o fyw. Yn cynnwys Care First Zest, adnodd sy'n darparu cymorth iechyd a ffitrwydd personol rhyngweithiol am ddim.
Cysylltwch â'r Tîm Cymorth Taliad Uniongyrchol i gael y rhif ffôn pwrpasol am ddim neu fewngofnodi i gael mynediad i'r gwasanaeth ar-lein.
E-bost: dp.support@flintshire.gov.uk
Ffôn: 01352 701100
Mae yn wasanaeth cyfrinachol rhad ac am ddim sy'n rhoimynediad at gymorth iechyd meddwl a lles i staff sy'n gweithio ynsefydliadau gofal cymdeithasol a'r GIG yng Nghymru
Rydym yn deall y pwysau sy’n gysylltiedig â gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac rydym am i chi wybod ein bod ni yma i’ch helpu.
Ein nod yw rhoi cymorth i'r rhai sydd â symptomau a chyflyrau megis:
- teimlo'n drech na gofidus
- gorbryder ac iselder
- anhwylder straen wedi trawma
Trwy Canopi gallant gael mynediad at:
- Hunangymorth
- Hunangymorth dan arweiniad
- Cymorth gan gymheiriaid
- Ymgynghoriadau wyneb-yn-wyneb rhithwir
- Gwasanaeth Cymorth Alcohol
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: canopi.nhs.wales
Taflenni