Amddiffyn Plant
Dylai unrhyw un sydd â phryderon neu amheuon am blentyn yn Sir y Fflint yn cael ei niweidio gysylltu â’r
Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd, y Tîm Dyletswydd ac Asesu, Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant, Swyddfeydd y Sir, Stryd y Capel, Y Fflint, CH6 5BD.
Rhif Ffôn: 01352 701000
Os hoffech chi gysylltu y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch y Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd ar: 0345 053 3116.
Byddwn yn trafod eich pryderon gyda chi ac yn gofyn am gymaint o wybodaeth â phosibl. Byddwn yn ymchwilio i’ch pryderon ac, os bydd angen, yn gwneud cynllun i amddiffyn y plentyn. Gall hyn gynnwys ychwanegu enw’r plentyn i’r Gofrestr Amddiffyn Plant. Byddwn yn parchu eich hawl i gyfrinachedd.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am arwain a chydlynu gwasanaethau amddiffyn plant yn y sir. Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion, Heddlu Gogledd Cymru, asiantaethau iechyd, doctoriaid, ymwelwyr iechyd ac asiantaethau eraill.
Gellir anfon ymholiadau ar e-bost ChildProtectionReferral@flintshire.gov.uk Byddwch yn ymwybodol bod y blwch derbyn yn cael ei fonitro yn ystod dyddiau’r wythnos, yn ystod oriau swyddfa yn unig.