Os ydych yn gofalu am rywun sy’n methu gofalu amdanyn nhw eu hunain oherwydd salwch, anabledd, neu effeithiau heneiddio a’ch bod yn rhoi gofal sylweddol, di-dâl i’r person hwnnw, felly rydych yn Ofalwr.
Gwasanaethau i’ch helpu chi gyda’ch cyfrifoldebau gofalu:
- Rhoi cyngor a gwybodaeth
- Eich cyfeirio at gyrff gwirfoddol sy’n gallu rhoi grantiau a chymorth i ofalwyr
- Cymorth gyda’r gwaith garddio, glanhau neu i brynu offer
- Rhoi seibiant oddi wrth ofalu
- Ailasesu’r cymorth a gaiff y person rydych chi’n gofalu amdano i wneud yn siŵr bod eich anghenion chi’n cael sylw.
Er bod modd trefnu rhai gwasanaethau’n uniongyrchol gyda chorff gwirfoddol, gyda gwasanaethau eraill, mae’n rhaid cynnal asesiad i weld beth yw’ch anghenion a pha wasanaethau sydd ar gael i’ch helpu.
NEWCIS
Asesiadau Anghenion Gofalwyr, gwybodaeth, cefnogaeth un i un, hyfforddiant, cwnsela a mwy i ofalwyr sy’n darparu cefnogaeth ddi-dâl i deulu neu ffrindiau sy’n byw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Gostyngiadau i Ofalwyr
Mae llawer o gynigion, buddion a gostyngiadau ar gael yn arbennig i ofalwyr a phobl gydag anghenion gofal. Mae llawer o atyniadau yn cynnig mynediad am ddim i ofalwyr gyda’r unigolyn y maent yn gofalu amdano – yn cynnwys Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Sŵ Gaer a’r Sinema. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o anabledd (DLA/PIP/Bathodyn Glas) er mwyn cael gostyngiad.
Canllaw Gofalwyr Hanfodol
Mae’r ddogfen hon yn cynnwys manylion am wasanaethau defnyddiol a gwybodaeth am Asesiadau Gofalwr a sut i gael mynediad atynt.